Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/01/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
||
Deisebau newydd |
||
P-05-791 Diddymu contractau parcio preifat yn ysbytai Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed
barn y deisebydd ynghylch ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol cyn penderfynu pa gamau i'w cymryd ynghylch y ddeiseb. |
||
P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at y canlynol: ·
Cyngor Sir Ceredigion i ofyn am ei farn ynghylch y materion sy'n codi yn y
ddeiseb a gofyn pa asesiad y mae wedi'i wneud ynghylch diogelwch plant sy'n
defnyddio bysiau ysgol yn y lleoliad hwn; ac ·
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i ofyn, o gofio bod yr
adolygiad o derfynau cyflymder dros dair blynedd yn cynnwys dros 600 o
safleoedd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu blaenoriaethu gwaith yr
adolygiad hwnnw. |
||
P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at y canlynol: ·
BT i dynnu sylw at rwystredigaeth y deisebwyr a gofyn am
eglurder ynghylch y cynlluniau a'r amserlenni ar gyfer cysylltu eiddo yn
Llangenni â band eang; ac ·
Arweinydd y Tŷ, i rannu'r pryderon y mae'r deisebwyr wedi'u mynegi. |
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-04-522 Asbestos mewn ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg,
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn: ·
y cwestiynau a gyflwynwyd gan y deisebydd, gan gynnwys ynghylch yr
ymgynghoriad ar ganllawiau diwygiedig ar gyfer rheoli asbestos mewn ysgolion
sydd ar y gweill yn gynnar yn 2018; ac ·
ei bod yn sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymateb yn llawn i'r adroddiad
arolwg cyflwr ysgolion. |
||
P-05-690 Arwynebu ffordd A40 Rhaglan–Y Fenni Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi
a'r Seilwaith, ynghyd â sylwadau a gafwyd gan y deisebydd ar ôl cyhoeddi'r
papurau. Cytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am ei ymateb i
sylwadau'r deisebydd ac, wrth wneud hynny, mynegodd ei bryderon cryf nad oedd
yr addewidion blaenorol i arwynebu'r ffordd wedi cael eu gwireddu. |
||
P-05-721 Deiseb terfyn cyflymder Penegoes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Seilwaith a chytunodd i ymateb yn ysgrifenedig i ofyn, o gofio bod yr adolygiad
o derfynau cyflymder dros dair blynedd yn cynnwys dros 600 o safleoedd, sut y
mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu blaenoriaethu gwaith yr adolygiad hwnnw. |
||
P-05-748 Bysiau ysgol i blant ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn pa
waith polisi a wnaed i ymchwilio i'r posibilrwydd o gryfhau'r gofynion
presennol fel bod: ·
plant sy'n teithio i'r ysgol ac o'r ysgol ar bob bws yn cael sedd a gwregys
diogelwch; ·
pob gyrrwr gael gwiriad DBS perthnasol; ·
pob bws fod yn addas i'r diben. Wrth wneud
hynny, nododd yr Aelodau eu bod yn cydymdeimlo'n llwyr â'r ddeiseb ac yn
rhannu'r uchelgais ar gyfer bysiau ysgol pwrpasol i blant ysgol, ond gan
gydnabod nad yw gwireddu'r uchelgais polisi hwn o reidrwydd yn bosibl ar hyn o
bryd. |
||
P-05-767 Cefnffordd yr A487 trwy Dre Taliesin: angen brys am fesurau effeithiol i arafu traffig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth,
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn: ·
o gofio bod yr adolygiad o derfynau cyflymder dros dair blynedd yn cynnwys
dros 600 o safleoedd, sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu blaenoriaethu
gwaith yr adolygiad hwnnw; ·
am ragor o wybodaeth am sut y gellir cynnwys cymunedau yn yr adolygiad o
derfynau cyflymder dros dair blynedd. |
||
P-05-772 Na i Gylch Haearn arfaethedig Castell y Fflint Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni'r cadarnhad a gafwyd na
fydd gwaith celf y cylch haearn yn mynd yn ei flaen. Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau'n dymuno
llongyfarch y deisebwyr am lwyddiant yr ymgyrch. |
||
P-05-780 Ailagor gorsaf Carno Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am yr ateb hwnnw cyn
penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb. |
||
P-05-743 Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan RSPCA Cymru a chytunodd i wneud y
canlynol:
|
||
P-05-753 Cryfhau'r fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol ynghylch cyfleusterau prosesu pren gwastraff Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chytunodd i
aros am farn y deisebydd cyn ystyried camau pellach ynghylch y ddeiseb. |
||
P-05-759 Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd David Rowlands y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Roedd wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a'r
deisebwyr, a bydd yn mynd i gyfarfod a gynhelir yn y gwanwyn. Trafododd yr Aelodau ohebiaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â
sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf
gan CNC yn dilyn y cyfarfod cyhoeddus sydd ar y gweill yn y gwanwyn 2018, yn
arbennig mewn perthynas â'r cynnydd a wnaed yn y trafodaethau gyda Llywodraeth
Cymru ynghylch opsiynau cyllido posibl a'r astudiaeth ddichonoldeb sydd ar y
gweill gyda Chyngor Caerffili. |
||
P-05-773 Peidiwch â llenwi safleoedd tirlenwi! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyngor Caerdydd a chytunodd i aros am
farn y deisebydd, a gofynnodd iddi roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn unrhyw
drafodaethau uniongyrchol y bydd yn eu cael gyda Chyngor Caerdydd. |
||
P-05-777 Cymhwyso’r ddeddfwriaeth systemau llethu tân awtomatig o fewn y rheoliadau adeiladu cyfredol ar gyfer Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ynghyd â sylwadau a gafwyd gan y
deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth
Leol a Chymunedau i ofyn a yw'n bwriadu ymgymryd ag unrhyw waith craffu ar ôl
deddfu ar y Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio Rhif 3) a Diogelwch Tân
Domestig (Cymru) 2013 yn ystod y Cynulliad hwn. |
||
P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion
Gwledig, ynghyd â sylwadau gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at yr
awdurdodau lleol nad ydynt ar hyn o bryd yn sganio carcasau anifeiliaid anwes
fel mater o drefn, gan ofyn am fanylion eu polisïau cyfredol ac a ydynt wedi
ystyried pa mor ymarferol yw cyflwyno sganio fel mater o drefn. Dywedodd y
Pwyllgor hefyd y gallai ddymuno cau'r ddeiseb ar ôl cael yr ymatebion. |
||
P-05-769 Canolfan Trawma Difrifol De Cymru – Caerdydd ac Abertawe Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod disgwyl
i'r lleoliad arfaethedig ar gyfer canolfan trawma difrifol newydd fod yn destun
ymgynghoriad cyhoeddus, gan annog y deisebydd i roi ei farn fel rhan o hyn. |
||
P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at
Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth am y broses o wneud penderfyniadau
y bydd yn ei dilyn mewn perthynas â gwerthu'r tir os bydd y Weinyddiaeth
Gyfiawnder yn cael caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu carchar. |
||
(10.00 - 10.45) |
Sesiwn dystiolaeth - P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd Cyfoeth Naturiol Cymru ·
John Wheadon, Rheolwr Gwasanaeth Trwyddedu ·
Adam Cooper, Uwch-swyddog Trwyddedu Cefas ·
David Carlin, Cyfarwyddwyr Gwyddoniaeth, Cefas ·
Kins Leonard Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ganolfan
Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (CEFAS). |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
||
Trafod y sesiwn dystiolaeth flaenorol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law mewn sesiynau blaenorol a chytunodd i
ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru:
|