P-05-791 Diddymu contractau parcio preifat yn ysbytai Cymru

P-05-791 Diddymu contractau parcio preifat yn ysbytai Cymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nick Harding, ar ôl casglu 102 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

​Mae bron deng mlynedd ers i Lywodraeth Cymru ddiddymu taliadau parcio mewn ysbytai ac eto, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn parhau i roi contract i Indigo Parking UK sy'n mynd ati'n ddidrugaredd i ddirwyo staff gweithgar y GIG a chleifion gwael, sef y rheini sydd lleiaf tebygol o fedru eu fforddio!

 

Mae'n hen bryd diddymu contractau parcio yn ysbytai Cymru ar unwaith ac atal y cwmnïau hyn rhag codi tâl ar y bobl wannaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.​

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Nod y ddeiseb hon yw dangos cefnogaeth i'r rhai sydd wedi cael dirwy gan gwmnïau gorfodi fel Indigo Parking UK, a hynny'n aml ar yr adeg pan oeddent ar eu gwannaf.

 

Dylai bod modd defnyddio'r gyfraith i gael gwared ar y cwmnïau hyn a dylid dangos nad oes croeso iddynt yng Nghymru.​

 

Ceir wedi’i barcio

Ceir wedi’i barcio

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/10/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau. Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/01/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Canol Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/12/2017