P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes

P-05-779 Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes

O dan ystyriaeth

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan #CatsMatter Campaign, ar ôl casglu 910 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno polisi er mwyn sicrhau sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes.

Mae milfeddygon a llochesi yn sganio anifeiliaid anwes y deuir o hyd iddynt, ond nid oes unrhyw ofyniad ar gynghorau i wneud hynny. Gall y system ficrosglodion fod yn gwbl effeithiol dim ond os yw anifeiliaid sydd â microsglodion yn cael eu sganio. Mae'r drefn hon yn hanfodol o safbwynt perchnogion sy'n gorfod dioddef yr artaith o chwilio am anifail anwes sydd wedi mynd ar goll am wythnosau neu fisoedd, a hynny heb wybod beth sydd wedi digwydd iddo.

Ar hyn o bryd, nid oes polisi ar waith i sicrhau bod cynghorau yn sganio'r cathod a'r cŵn y mae'r timau sy'n glanhau'r strydoedd ar ran y cynghorau yn dod o hyd iddynt. Os yw anifail anwes yn mynd ar goll, gall hyn fod yn brofiad arteithiol i'w berchennog. Weithiau, pan fydd cath yn mynd ar goll, ni fydd ei berchennog byth yn cael gwybod a yw wedi cael ei lladd mewn damwain ffordd, er enghraifft. Nid oes unrhyw derfyn ar y mater i berchennog yr anifail, a gall y teimlad o golled barhau'n ddi-ben-draw.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Ar hyn o bryd, dyma'r cynghorau yng Nghymru nad ydynt yn sganio anifeiliaid anwes: Gwynedd, Ynys Môn, Caerdydd, Casnewydd, Blaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot. Ar hyn o bryd, mae'r cynghorau sy'n weddill yn sganio anifeiliaid.

Fodd bynnag, mae'r cynghorau hyn yn cyfaddef eu bod ond yn sganio anifail pan fyddant yn penderfynu ei fod mewn cyflwr priodol i wneud hynny. Mae'r drefn hon ond yn lleddfu galar perchnogion yn rhannol; bydd nifer o berchnogion yn parhau i fod yn y tywyllwch. Mae mwyafrif yr anifeiliaid sy'n cael eu taro ar y ffyrdd yn dioddef anafiadau difrifol. Ni ddylid defnyddio anaf o'r fath fel esgus i beidio â bodloni'r ddyletswydd foesol i roi gwybod i'r perchennog. Dylid sganio pob anifail anwes, waeth beth yw ei gyflwr, a rhoi gwybod i'r perchennog. Rydym y cydnabod y gall glanhawyr stryd deimlo gofid neu drallod wrth sganio anifeiliaid sydd mewn cyflwr drwg, ond y ffaith yw y byddant yn gorfod ymdrin â'r anifeiliaid hyn waeth beth yw ein polisi arfaethedig. Maent yn ymdrin ag achosion o'r fath yn rheolaidd ar hyn o bryd. Rydym yn gwerthfawrogi natur y gofid hwn, ond ni fydd y sefyllfa sy'n bodoli ar hyn o bryd yn gwaethygu o ganlyniad i'r polisi arfaethedig, ac ni fyddai'r gofid hwn yn cyfateb i ofid perchnogion sy'n adnabod ac yn caru'r anifeiliaid hyn ar lefel bersonol ac y mae ganddynt hawl foesol i wybod beth sydd wedi digwydd iddynt.

 

Ci a cath

Anifeiliaid anwes

 

Statws

Mae'r ddeiseb hon yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/10/2017.

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2017