Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/06/2020 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Michelle Brown AS. |
|
Trafod deisebau â 5,000 o lofnodion Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
trafod deisebau amrywiol â dros 5,000 o lofnodion, sy’n ymwneud â COVID-19, a
chytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn bod amser ar gael cyn toriad
yr haf i gynnal dadl ar ddeiseb P-05-967 Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar
ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru.
At hynny, mynegodd y Pwyllgor awydd i drefnu dadleuon nad ydynt yn gysylltiedig
â COVID-19, cyn gynted â phosibl. |
|
Deisebau COVID-19 |
|
P-05-964 Dylid ymestyn absenoldeb â thâl a chymorth ariannol a ddarperir mewn ymateb i Covid-19 i staff cronfa GIG Cymru sy'n agored i niwed a staff sy’n feichiog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb ffurfiol gan y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r ddeiseb, yn y gobaith y gallai
hwnnw gynnwys gwybodaeth bellach o ran y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi
gofyn i fyrddau iechyd ailystyried. |
|
P-05-967 Annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu i gadw siopau Debenhams ar agor yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Cyllid i
ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau pellach a gynhaliwyd
gyda Debenhams neu fanwerthwyr mawr eraill, a gofyn pa opsiynau y mae Llywodraeth
Cymru yn eu hystyried o ran darparu cefnogaeth; ac ·
ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am
gael dadl yn y Cyfarfod Llawn cyn toriad yr haf. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-952 Dylid mynd yn ôl i sillafu enwau lleoedd Cymraeg yn y ffordd Gymraeg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd
ar yr ymateb a ddarparwyd gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol,
cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach, neu beidio. |
|
P-05-961 Gostwng yr oedran ar gyfer sgrinio canser y fron yng Nghymru o 50 i 30 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd
ar yr ymateb a ddarparwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol,
cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach, neu beidio. |
|
P-05-963 Dylid ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd sydd dros ben i elusennau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ofyn am fanylion pellach am asesiad
presennol Llywodraeth Cymru o'i phwerau o ran dosbarthu bwyd sydd dros ben, a'r
pwerau sy'n cael eu ceisio gan Weinidogion Cymru trwy Fil Amgylchedd y DU. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ar y sail bod yr
ymgyrchwyr wedi llwyddo i gael ailasesiad o’r risg o ran llifogydd cyn i unrhyw
waith pellach gael ei wneud yn y parc – a gan nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn
bwriadu gwneud gwaith pellach ar hyn o bryd – cytunodd y Pwyllgor nad oes camau
pellach y gall eu cymryd cyn diwedd y tymor y Senedd hon. Estynnodd y Pwyllgor ei longyfarchiadau i’r
deisebwyr ar eu llwyddiant, a chau'r ddeiseb. Wrth wneud hynny,
cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu i annog Cyfoeth Naturiol Cymru i rannu eu
hailasesiad o gam olaf Cynllun Llifogydd y Rhath gyda'r deisebwyr cyn gynted â
phosibl. |
|
P-05-815 Rheoli'r Diwydiant Dofednod Dwys Sy'n Ehangu'n Gyflym Yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth bellach, a nododd fod y gwaith yn mynd
rhagddo i adolygu – a phan fydd cyfleoedd yn cael eu nodi, cryfhau – gofynion
cynllunio sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth ddwys. Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r
pryderon difrifol a fynegwyd gan y deisebwyr trwy gydol y broses hon ond daeth
i'r casgliad – yn wyneb yr ymatebion a gafwyd gan y Gweinidog, Cyfoeth Naturiol
Cymru a'r deisebwyr – mai prin iawn yw’r hyn y gallai ei gyflawni ymhellach ar
hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac ysgrifennu at y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn a all barhau i fonitro
datblygiadau fel rhan o'u gwaith ynghylch defnydd tir a bioamrywiaeth. |
|
P-05-895 Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
ystyried gwybodaeth ychwanegol a chytunwyd ar y camau a ganlyn: ·
aros am ddiweddariad pellach gan Weinidog
yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig unwaith y bydd hi wedi gallu cynnal
trafodaethau pellach gyda Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru a Chymdeithas
Filfeddygol Prydain; ac ·
ysgrifennu at Goleg Brenhinol y Milfeddygon
i ofyn am eu barn ar y materion a godwyd gan y ddeiseb, ac yn sylwadau dilynol
y deisebydd. |
|
P-05-933 Gwahardd pysgod aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair. #OperationGoldfish Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried
gwybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr Amgylchedd,
Ynni a Materion Gwledig er mwyn: ·
gofyn am ddiweddariad o ran a
yw cyfarfod Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru wedi'i gynnal yn sgil
pandemig COVID-19, a gofyn eto am eglurhad ynghylch y potensial i fynd i'r
afael â'r mater hwn trwy'r Rheoliadau sydd i ddod er mwyn cyflwyno cynllun
trwyddedu ar gyfer Arddangosion Anifeiliaid; a ·
rhannu'r
wybodaeth a ddarperir gan y deisebydd a'r RSPCA mewn ymateb i'r honiadau a
wnaed gan y Showmen’s Guild. |
|
P-05-941 Cylch gwaith bioamrywiaeth ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
ystyried gwybodaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu eto at Gyfoeth Naturiol
Cymru i ofyn am ymateb i'r pryderon a godwyd gan y deisebwyr, gan gynnwys yn eu
llythyr diweddaraf at y Pwyllgor. |
|
P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn dilyn
ymrwymiad y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd yr
Adolygiad o Chwarae gan y Gweinidog yn cynnwys ystyried trefniadau cyllido a'r
ohebiaeth a gafodd y Pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r
deisebydd am godi'r ddeiseb. Dywedodd Aelodau'r Pwyllgor y byddent yn parhau i
graffu ar yr adolygiad gan y Gweinidog yn rhinwedd eu swydd fel Aelodau unigol
o'r Senedd. |
|
P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
ystyried gwybodaeth bellach a chytunodd i aros am ddiweddariad pellach yn dilyn
y cyfarfod a gynlluniwyd gyda Haemophilia Cymru a'r Grŵp Trawsbleidiol ar Waed, cyn ystyried a
all gymryd unrhyw gamau pellach. |
|
P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Gan fod y ddeiseb
yn galw am ymchwiliad barnwrol annibynnol i’r broses o reoli Rhaglen De Cymru
a’i rhoi ar waith, a bod hynny wedi'i ddiystyru'n benodol gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – ac yn sgil y penderfyniad diweddar i
gadw'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys ar agor yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg
– cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a llongyfarch y rhai a gymerodd ran ar y
ffaith bod yr ymgyrch i gadw gwasanaethau’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys
yn yr ysbyty wedi llwyddo. |
|
P-05-936 Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
ystyried yr ohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol i gael gwybod: ·
A oes unrhyw ymchwil wedi'i chomisiynu yng
Nghymru – neu a fydd yn cael ei chomisiynu – i fuddion, neu’r niwed posibl yn
sgil sgrinio canser y coluddyn i bobl dros 74 oed, a'r amserlen gysylltiedig; a ·
syniad o'r amserlen ar gyfer cyflwyno
sgrinio i bobl yn y grŵp oedran 50-59. |
|
P-05-862 Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Mae'r Comisiynydd
Plant wedi mynegi ei boddhad â statws statudol y canllawiau gwrth-fwlio newydd,
sy'n cynnwys gofynion i ysgolion ddatblygu polisïau cadarn, a chofnodi a
monitro. At hynny, mae hi wedi nodi y bydd ei swyddfa yn parhau i fonitro. Ar y
sail honno, cytunodd y Pwyllgor nad oes fawr ddim pellach y gallai'r Pwyllgor
ei gyflawni ar hyn o bryd. O ganlyniad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a
diolch i’r deisebwyr am godi’r mater hwn. |
|
P-05-880 Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn wyneb y ffaith
y bydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn monitro’r cynnydd
pellach o ran ariannu a darparu gwasanaethau addysg cerddoriaeth, yn dilyn eu
hadroddiad blaenorol ar y pwnc hwn, cytunodd y Pwyllgor i rannu sylwadau
pellach y deisebydd â hwy, cau’r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-925 Addysgu Llesiant Mislifol mewn Ysgolion: Peidio â Gadael Cymru Tu Ôl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ar y sail bod
Llywodraeth Cymru yn glir bod y Cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru yn hyrwyddo
hyblygrwydd ac na fydd yn cyflwyno rhestr fanwl o bynciau sy’n rhaid i ysgolion
eu haddysgu, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer pellach y gellid ei gyflawni.
Cytunodd i gau'r ddeiseb. |
|
P-05-938 Gwneud i brifysgolion Cymru ystyried Bagloriaeth Cymru fel Safon Uwch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn wyneb safbwynt
y Gweinidog Addysg mai mater i brifysgolion yw sefydlu'r gofynion mynediad ar
gyfer eu cyrsiau – ac wrth nodi'r gwaith sydd ar y gweill ar gyfer ymateb i
argymhellion a wnaed yn flaenorol gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg –
cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer pellach y gallai'r Pwyllgor ei gyflawni.
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am godi’r mater
hwn. |
|
P-05-871 Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
ystyried gohebiaeth bellach a chytunodd i gau'r ddeiseb yn dilyn cadarnhad y
bydd cynigion i gryfhau darpariaeth i ddisgwyl cyfleusterau newid babanod mewn
toiledau dynion a menywod yn cael eu cynnwys yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru,
sydd ar ddod, ar gyfleusterau newid mewn toiledau, ac estynnwyd llongyfarchion
i’r deisebydd ar yr ymgyrch. |
|
P-05-898 Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn
ystyried gohebiaeth bellach a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Tai a
Llywodraeth Leol i ofyn pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi i faterion hygyrchedd o
ran cynlluniau i ffurfweddu lleoedd cyhoeddus, er mwyn galluogi pellter
cymdeithasol oherwydd Covid-19. |
|
P-05-913 Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn
ystyried gohebiaeth ychwanegol a chytunwyd ar y camau a ganlyn: ·
ysgrifennu’n ôl at Weinidog yr Economi,
Trafnidiaeth a Gogledd Cymru i ofyn a yw effeithiau Covid-19 ar drafnidiaeth
gyhoeddus wedi effeithio ar awydd Llywodraeth Cymru i gynnal y potensial o
adfer gwasanaethau rheilffordd yn y dyfodol; ac ·
ysgrifennu at Network Rail i ofyn iddyn nhw
hyrwyddo pwysigrwydd deialog barhaus rhwng yr holl bartïon, ac i geisio ateb a
allai, o bosibl, ymgorffori sawl defnydd ar gyfer y llinell. |
|
P-05-918 Gwella mynediad i’r anabl yng ngorsaf reilffordd Trefforest fel blaenoriaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn dilyn yr
eglurder pellach ynghylch amserlen y gwaith i wella mynediad i orsaf drenau
Trefforest – sydd i ddechrau ym mis Medi – a bodlonrwydd y deisebydd, cytunodd
y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, a diolchodd i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater
hwn. |