Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 03/12/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil McEvoy a Leanne Wood. Roedd Dai Lloyd AC yn dirprwyo ar
ran Leanne Wood AC. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-918 Gwella mynediad i’r anabl yng ngorsaf reilffordd Trefforest fel blaenoriaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu unwaith yn rhagor
at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i groesawu’r cadarnhad bod bwriad i
wneud gwelliannau i gael mynediad yng ngorsaf Trefforest, a gofyn pryd mae’n
disgwyl i’r rhain gael eu cwblhau, a beth yw’r dewisiadau sydd ar gael i
deithwyr anabl yn y cyfamser. |
|
P-05-919 Peidiwch â chyflwyno’r syniad i drwyddedu cŵn sioe, cathod sioe a cheffylau a ddangosir Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am gadarnhad o
benderfyniadau Llywodraeth Cymru ynghylch y cynllun trwyddedu terfynol yn dilyn
yr ymgynghoriad diweddar. |
|
P-05-920 Cyllidebu Ysgolion ar gyfer ADY Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
aros am farn bellach gan y
deisebydd i’r ymateb a roddwyd gan y Gweinidog Addysg; ac ·
ysgrifennu at Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am wybodaeth am y dull a ddefnyddir gan awdurdodau
lleol wrth ddyrannu cyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. |
|
P-05-923 Ydych chi’n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
grwpio’r ddeiseb gyda’r ddeiseb P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn
y cartref a’u hystyried gyda’i gilydd yn y dyfodol; ac ·
ysgrifennu unwaith yn rhagor at y
Gweinidog Addysg i ofyn am fanylion y gyfradd ymateb i’r ymgynghoriad, ac i
gael syniad o’r amserlenni arfaethedig ar gyfer pennu’r camau nesaf. Mynegodd Janet
Finch-Saunders AC ddiddordeb fel aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
sydd wedi edrych ar y mater hwn. |
|
P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
grwpio’r ddeiseb gyda’r ddeiseb P-05-923
Ydych chi’n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref! a’u hystyried gyda’i gilydd yn y dyfodol; a ·
ysgrifennu at y Gweinidog Addysg unwaith yn rhagor i ofyn
am fanylion y gyfradd ymateb i’r ymgynghoriad, am gadarnhad y caiff y farn gyfreithiol a
ddarparwyd gan y deisebwyr ei hystyried gan Lywodraeth Cymru, ac i gael syniad
o’r
amserlenni arfaethedig ar gyfer pennu’r camau nesaf. Mynegodd Janet
Finch-Saunders AC ddiddordeb fel aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
sydd wedi edrych ar y mater hwn. |
|
Diweddariadau i ddeisebau blaenorol |
|
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ragor o wybodaeth am y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Addysg i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf o ran cyhoeddi gwybodaeth lefel uchel
am reoli asbestos mewn ysgolion, fel y cyfeiriwyd ati yn ei gohebiaeth
flaenorol. |
|
P-04-576 Caniatáu i blant yng Nghymru gael gwyliau teuluol yn ystod tymor yr ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o
dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw
ymyrraeth neu ragfarn a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg
i: ·
ofyn am ddiweddariad ar yr adolygiad
o bolisi presenoldeb ysgolion a syniad o ran yr amseriadau ar gyfer y camau
nesaf, gan gynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus; a ·
gofyn barn ddiweddaraf y Llywodraeth
o ran disgresiwn Penaethiaid i awdurdodi absenoldebau ar gyfer gwyliau yn ystod
y tymor, pan fydd hynny’n briodol |
|
P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn. Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P-04-576
Caniatáu i blant yng Nghymru gael Gwyliau Teulu yn ystod Amser Tymor
a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i: ·
ofyn am ddiweddariad ar yr
adolygiad o bolisi presenoldeb ysgolion a syniad o ran yr amseriadau ar gyfer y
camau nesaf, gan gynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus; a ·
gofyn am farn ddiweddaraf y
Llywodraeth mewn perthynas â disgresiwn penaethiaid i awdurdodi absenoldebau ar
gyfer gwyliau yn ystod y tymor, pan fydd hynny’n briodol. |
|
P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ragor o wybodaeth am y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i ofyn am ddiweddariad ar yr adolygiad o
bolisi presenoldeb ysgolion a syniad o ran amseriadau ar gyfer y camau nesaf,
gan gynnwys cynnal ymgynghoriad cyhoeddus. |
|
P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth a chytunodd i
gysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ofyn iddo drefnu cyfarfod
â’r deisebydd ynghylch y gwasanaethau cymorth a ddarperir i deuluoedd â phlant
ag anableddau, fel y cytunwyd yn flaenorol, a gofyn i’r Bwrdd ddarparu’r wybodaeth
ddiweddaraf unwaith y bydd hyn wedi digwydd. |
|
P-05-846 Achub ein Hysbyty Tywysog Philip Llanelli Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cyhoeddodd Dai
Lloyd ddiddordeb gan fod ei ferch-yng-nghyfraith yn feddyg yn Ysbyty’r Tywysog
Phillip. Ystyriodd y
Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i oedi o ran y ddeiseb, ac
ystyried unrhyw ddatblygiadau ymhen 6 mis arall, yn unol â chais y deisebwyr, a
gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i lywio’r
drafodaeth honno. |
|
P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy’r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pa drefniadau y byddai’n disgwyl eu
bod ar waith ar gyfer cleifion y mae angen iddynt gael archwiliadau mewn
byrddau iechyd sydd eto i weithredu sganiau mpMRI cyn biopsi fel yr
argymhellwyd gan y canllawiau NICE diwygiedig. |
|
P-05-854 Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i’w chau
yng ngoleuni’r ymrwymiadau a wnaed gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol yn ystod y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Tachwedd, a
llongyfarchodd y deisebwyr am eu gwaith wrth geisio cyflawni’r ymrwymiad hwnnw. |
|
P-05-905 Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i
ofyn am ymateb uniongyrchol i alwad y ddeiseb am ymchwiliad annibynnol i
ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf, ac Ysbyty Brenhinol
Morgannwg yn benodol. |
|
P-05-723 Sefydlu System Bleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol ar gyfer Etholiadau Cynghorau Lleol Cymru. Dogfennau ategol: Cofnodion: Yng ngoleuni’r
cynnig ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i roi dewis i awdurdodau
lleol o ran y system etholiadol a ddefnyddir ar gyfer etholiadau lleol, a’r
gwaith craffu a gaiff ei gymhwyso i hyn gan y Cynulliad, cytunodd y Pwyllgor i
gau’r ddeiseb . |
|
P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y sail ei bod bellach wedi bod yn beth amser ers
i’r Pwyllgor dderbyn gohebiaeth gan y deisebydd ac felly mae’n anodd gweld sut
y gellid symud y ddeiseb ymlaen ymhellach. |
|
P-05-843 Rhagor o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Dai
Lloyd AC fuddiant gan ei fod wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â’r deisebydd yn y
gorffennol. O ystyried bod y
cynnig o ran hawliau apelio trydydd parti wedi’i wrthod gan Lywodraeth Cymru -
fel yr oedd yn ystod ystyriaeth flaenorol a roddwyd i’r mater hwn wrth graffu
ar Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 - mae’n anodd gweld sut y gall y Pwyllgor
weithredu ymhellach ar y ddeiseb. Felly cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a
diolchodd i’r deisebydd am ei chyfraniadau i’r broses. |
|
P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Dai
Lloyd AC fuddiant gan ei fod wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â’r deisebydd yn y
gorffennol. Yn absenoldeb
tystiolaeth am wrthdaro buddiannau, a’r wybodaeth am y mesurau diogelwch
presennol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Sefydliad Cynllunio Trefol
Brenhinol, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb. |
|
P-05-901 Gwahardd Gwerthu Ffwr Anifeiliaid yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb ac, o ystyried yr ansicrwydd cyfredol
ynghylch perthynas y DU â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, a’r cyfyngiadau ar
bwerau Llywodraeth Cymru i weithredu ar hyn o bryd, sy’n deillio o hynny,
cytunodd i gadw golwg ar y mater a gofyn am ragor o wybodaeth ymhen chwe mis,
neu’n gynt os bydd y sefyllfa’n newid. |
|
P-05-903 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cyngor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn pa ganllawiau a ddarperir i gynghorau
cymunedol a chynghorau tref o ran gallu’r cyhoedd neu newyddiadurwyr i recordio
cyfarfodydd. |
|
P-05-775 Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â’r ddeiseb P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud
Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru, a chytunwyd i ysgrifennu
at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf
am gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran diwygio trwyddedu tacsis ac,
yn benodol, y cynllun ar gyfer camau tymor byr y gellid eu cymryd ymlaen llaw i
ddeddfwriaeth. |
|
P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr â’r ddeiseb P-05-775
Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y
gyfraith trwyddedu tacsis, a chytunwyd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi
a Thrafnidiaeth i ofyn iddo roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau
Llywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran diwygio trwyddedu tacsis ac, yn benodol, y
cynllun ar gyfer camau tymor byr y gellid eu cymryd ymlaen llaw i
ddeddfwriaeth. |
|
P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y sail ei bod bellach wedi bod yn beth amser ers
i’r Pwyllgor dderbyn gohebiaeth gan y deisebydd ac felly mae’n anodd gweld sut
y gellid symud y ddeiseb ymlaen ymhellach ac yng ngoleuni camau a amlinellwyd yn flaenorol
gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip. |
|
P-05-873 Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at
Weinidog y Gymraeg i roi sylwadau diweddaraf y deisebydd iddi, ac i ofyn am ei
hymateb i’r amgylchiadau penodol a amlygwyd. |
|
P-05-883 Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ragor o ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy Weinidog Diwylliant,
Chwaraeon a Thwristiaeth i godi’r pwyntiau pellach a wnaed gan y deisebydd ac i
ofyn sut y gallai Llywodraeth Cymru geisio darparu naratif ehangach i’r
amrywiaeth o fentrau sy’n cael eu cynnal mewn cysylltiad â hanes Cymru. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 5 o’r cyfarfod heddiw ac Eitem 1 o'r cyfarfod ddydd
Mawrth 7 Ionawr 2020 Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Newyddlen y Pwyllgor Deisebau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
i dreialu cyhoeddi newyddlen ar gyfer pob tymor. |