P-05-901 Gwahardd Gwerthu Ffwr Anifeiliaid yng Nghymru
P-05-901 Gwahardd Gwerthu Ffwr Anifeiliaid yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Cardiff Animal Rights, ar ôl casglu cyfanswm o 827 lofnodion ar-lein a 2,271 ar
bapur, sef cyfanswm o 3,098 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae ffermio anifeiliaid am eu ffwr wedi cael eu
gwahardd yn y DU ers dros 16 mlynedd oherwydd y creulondeb sy'n rhan ohono.
Fodd bynnag, mae cynhyrchion ffwr yn cael eu mewnforio yn gyfreithlon o wledydd
lle nad oes fawr ddim o ran cyfreithiau lles anifeiliaid.
Mae llawer o'r anifeiliaid yn cael eu dal yn y
gwyllt mewn trapiau coes â safnau dur, ac mae achosion lle mae'r anifeiliaid
hyn wedi cnoi trwy eu coesau mewn ymgais gorffwyll i ddianc. Hefyd, mae
anifeiliaid yn cael eu bridio ar ffermydd ffwr, fel arfer mewn amgylchiadau
cyfyng iawn sy'n arwain at drawma meddyliol difrifol, briwiau a chlefydau.
Poen a dioddefaint dirfawr yw tynged yr
anifeiliaid hyn, ni waeth a ydynt yn cael eu bridio ar ffermydd ffwr neu eu dal
yn y gwyllt. Mae'r diwydiant ffwr yn gwbl anfoesol, yn gwbl ddiangen ac yn
greulon.
Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
annog i Lywodraeth Cymru wahardd gwerthu a mewnforio ffwr anifeiliaid.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/10/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/09/2019