P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru

P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Taxis Without Borders, ar ôl casglu 136 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

​​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ganiatáu i Yrwyr Tacsis wneud gwaith hurio preifat yn rhydd unrhyw le yng Nghymru, waeth ym mha gyngor y mae'r gyrrwr wedi'i drwyddedu.

 

Rydym yn cyflwyno'r ddeiseb hon mewn ymateb i weithredoedd grŵp o yrwyr tacsis sydd wedi'u lleoli mewn un Ddinas. Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i ystyried dymuniadau gyrwyr a gweithredwyr tacsis ledled Cymru, yn hytrach nag un grŵp bach o yrwyr o un ddinas.

 

Os byddwch yn archebu tacsi, naill ai drwy ffonio rhywun neu ddefnyddio ap, gall y cwmni hwnnw yn gyfreithiol anfon car atoch chi, waeth ble rydych chi na ble mae'r cwmni wedi'i leoli. Pe byddech chi yn y Barri ac yn ffonio cwmni o Gaerdydd am dacsi i fynd â chi i Gaerffili, fe allent ac fe fyddent yn anfon car i ddod i nôl chi yn y Barri a mynd â chi i Gaerffili.

 

Pe byddech chi yn Abertawe, ac am fynd i Lanelli ac yn methu â chael tacsi, gallech ffonio cwmni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gallent anfon car i'ch codi chi, pe byddai un ar gael ganddynt.

 

Mae hyn yn rhoi mwy o ddewis i ddefnyddwyr tacsis o ran pa gwmnïau y gallant ac na allant eu defnyddio. Mae mwy o ddewis, a mwy o opsiynau, yn golygu bod mwy o gystadleuaeth yn annog cwmnïau i ddarparu gwell gwasanaeth er mwyn cadw cwsmeriaid.

 

O safbwynt y gyrrwr, pe byddent wedi'u trwyddedu yng Nghaerdydd, a'u bod yn mynd â rhywun i Faes Awyr Caerdydd, a bod gan weithredwr sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd archeb gan rywun i gael ei godi ym Maes Awyr Caerdydd sy'n mynd i Ferthyr, gall y gyrrwr o Gaerdydd wneud y gwaith hwnnw.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Pe byddai gyrrwr o Fro Morgannwg yn mynd â rhywun o Faes Awyr Caerdydd i Bontypridd, a bod rhywun wedi archebu ymlaen llaw gyda chwmni i fynd â nhw o Bontypridd i Faes Awyr Caerdydd, ond bod rhai oriau o aros, gallai'r gyrrwr hwnnw ofyn i weithredwr o Fro Morgannwg ddod o hyd i waith iddyn nhw.  Gallai hynny ddigwydd drwy'r gweithredwr yn ffonio cwmnïau wedi'u lleoli ym Mhontypridd i weld a oes ganddynt unrhyw waith y gall y gyrrwr ei wneud o amgylch yr ardal tra'i fod yn aros i ddychwelyd. Mae hyn yn rhoi cyfle i'r gyrrwr ennill mwy o arian, gan ei fod yn cynyddu maint yr ardal y gall weithio ynddi, ac mae'n agor ffrydiau incwm posibl. Mae hefyd yn fwy ecogyfeillgar ac yn lleihau tagfeydd gan nad oes rhaid i'r gyrrwr a aeth i Bontypridd fynd yn ôl i Fro Morgannwg yn wag, ac nid oes rhaid i'r gweithredwr anfon car arall i Bontypridd yn wag.

 

Pe bai gweithredwr sydd wedi'i leoli yng Nghasnewydd yn ystyried ymestyn eu cwmni, gallant siarad â gwestai yng Nghaerffili, a dod yn un o gyflenwyr y gwestai i godi gwesteion o feysydd awyr. Gall y gweithredwr ymestyn eu cwmni, a gall y gwesty ddarparu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid posibl, gan gynyddu eu harchebion, tra'n dal i gael mwy o ddewis o gwmnïau i'w defnyddio i ddarparu'r gwasanaeth hwn.

 

Pe bai tafarnwr yn rhedeg tafarn ym Merthyr Tudful ac am ddarparu gwasanaeth codi a gollwng i'w gwsmeriaid, byddai angen trwydded gweithredwr arno a byddai angen defnyddio gyrwyr a cherbydau llogi preifat trwyddedig i gyd o Ferthyr. Pe byddai'r un tafarnwr am agor ail dafarn yn Llanbradach, ac am gynnig yr un gwasanaeth, gallent ddarparu gwasanaeth codi a gollwng o'r un drwydded gweithredwr. Mae hyn yn eu galluogi i ehangu eu busnes.

 

Mae hyn i gyd, a mwy, yn bosibl, diolch i Draws Ffiniol.

A close up of a logo

Description generated with high confidence

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr P-05-775 Caewch y bwlch sy’n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis a chytunwyd i gau’r deisebau o ystyried bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bellach wedi diystyru mynd ar drywydd newid deddfwriaethol yn y maes hwn yn ystod gweddill y Cynulliad hwn, ac mae Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd sawl mesur a newidiadau polisi gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y cyfamser.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/10/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gogledd Caerdydd

·         Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/09/2018