Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/04/2018 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn: ·
cynnal ymchwiliad byr, trefnu sesiynau tystiolaeth llafar yn hwyrach yn
nhymor y gwanwyn; ac ·
yn y cyfamser, gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig bellach gan randdeiliaid
perthnasol ar y materion a nodir yn y ddeiseb. |
|
P-05-807 Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a
ganlyn: ·
aros am safbwyntiau'r deisebydd ar yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Addysg; ·
ystyried camau pellach, gan gynnwys ysgrifennu at Estyn, ar ôl cael
safbwyntiau'r deisebydd. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-433 Teledu Cylch
Cyfyng mewn Lladd-dai a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet
dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried y
mater hwn ymhellach yn sgil cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ei bod yn
bwriadu gwneud teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn orfodol yn Lloegr, ac
ymrwymiad Llywodraeth yr Alban i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater. |
|
P-04-433: Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-399 Arferion Lladd
Anifeiliaid a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni,
Cynllunio a Materion Gwledig i ofyn i Lywodraeth Cymru ystyried y mater hwn
ymhellach yn sgil cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu gwneud
teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn orfodol yn Lloegr, ac ymrwymiad
Llywodraeth yr Alban i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater. |
|
P-05-759 Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynghyd â
sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i barhau i edrych ar y
datblygiadau a gofyn am ddiweddariad gan y deisebwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru
mewn chwe mis. |
|
P-05-778 Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â
sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at Ysgrifennydd
y Cabinet i ofyn: ·
pan fydd y contract asesu stoc yn cael ei roi i
dendr, dylai'r cylch gwaith gynnwys mathau, dwysedd ac iechyd corfforol cyllyll
môr yn ogystal ag asesiad o'r effeithiau amgylcheddol posibl gorbysgota ar
welyau cregyn bylchog; ·
codi arwyddion mwy amlwg a chadarn yn sgil
pryderon a fynegwyd nad yw'n ymddangos bod yr arwyddion presennol yn addas at y
diben. |
|
P-05-779: Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod ymatebion gan bum awdurdod lleol a nododd yn
flaenorol nad oeddent yn sganio carcasau anifeiliaid anwes fel mater o drefn,
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr.
Yn sgil cyfeiriad diweddar at awdurdod lleol arall mewn perthynas â'r
mater hwn, cytunodd Aelodau i ofyn am eglurhad pellach ynghylch pa awdurdodau
lleol nad ydynt yn sganio carcasau anifeiliaid anwes gyda'r bwriad o bosibl i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i
awgrymu ei bod hi'n cyhoeddi canllawiau pellach ar y mater. |
|
P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebydd
a chytunwyd i: ·
ysgrifennu at Cefas i ofyn am eu hymateb i bryderon dros y fethodoleg brofi
a godwyd gan y deisebwyr; ·
llunio adroddiad crynodeb o'r dystiolaeth a ddaeth i law wrth i'r Pwyllgor
drafod y ddeiseb; a ·
gofyn am amser am ddadl yn y Cyfarfod Llawn yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad. |
|
P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghyd â
sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i: ·
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i: o
rannu pryderon y deisebydd ynghylch effaith cymhwyso TAN 1 ar Gynlluniau
Datblygu Lleol, yng nghyd-destun yr ymgynghoriad presennol ar Bolisi Cynllunio
Drafft Cymru; o
gofyn am ragor o wybodaeth am waith ymchwil i'r materion gyda'r
penderfyniad i gyflenwi tir tai y cyfeiriwyd ato yn ei llythyr ar 6
Mawrth; ·
trefnu sesiynau tystiolaeth lafar ar y ddeiseb ar gyfer hwyrach yn nhymor
yr haf. |
|
P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad gan y
Gweinidog Tai ac Adfywio a chytunodd i aros am gyhoeddiad yn dilyn adroddiad
gan ddadansoddwyr annibynnol ar y wybodaeth ariannol a rannwyd gan berchnogion
safleoedd cyn trafod p'un a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb. |
|
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ofyn am ddiweddariad
gan Ysgrifennydd y Cabinet unwaith y bydd wedi ystyried yr ymatebion i'r arolwg
ar gyflwr ysgolion a'r ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid allweddol ar y
Canllawiau i Reoli Asbestos mewn Ysgolion. |
|
P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Mae wedi cael llythyr ynghylch absenoldeb heb awdurdod o'r ysgol. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-04-606 Sicrhau bod ysgolion
yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru
Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn, a chytunwyd i aros
am gopi o'r gwerthusiad o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer peidio â mynychu
ysgolion yn rheolaidd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac am ddiweddariad
pellach ar yr adolygiad ehangach o'r polisi presenoldeb, fel y cytunwyd yn
flaenorol. |
|
P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon ochr yn ochr â P-04-576 Caniatáu i
Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol, a chytunodd i
aros am gopi o'r gwerthusiad o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer peidio â
mynychu ysgolion yn rheolaidd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac am
ddiweddariad pellach ar yr adolygiad ehangach o'r polisi presenoldeb, fel y
cytunwyd yn flaenorol. |
|
P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd Aelodau ymatebion i adroddiad cryno'r Pwyllgor ar ei drafodaeth
o'r ddeiseb hyd yma a chytunodd i gau'r ddeiseb, yn sgil ei gasgliad ei bod
hi'n well mynd i'r afael â materion heb eu datrys drwy'r prosesau craffu lleol
sy'n mynd rhagddynt. Wrth wneud hynny,
roedd Aelodau yn dymuno diolch i'r deisebydd am ei amser a'i ddiwydrwydd drwy
gydol ystyriaeth y Pwyllgor o'r mater hwn. |
|
P-05-754 Diffyg cymorth i blant ag anableddau mewn argyfwng Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf,
ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at
Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i ofyn eu bod yn cwrdd â'r deisebydd i drafod ei
phryderon ynghylch y cymorth sydd ar gael ac opsiynau gofal posibl yn y
dyfodol, gyda'r bwriad o gau'r ddeiseb unwaith y bydd y cyfarfod wedi digwydd. |
|
P-05-761 Mynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro a'r
deisebydd, a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil y wybodaeth a ddaeth i law ac
oherwydd nad yw'r Pwyllgor Deisebau mewn sefyllfa i argymell y dylai
sefydliadau penodol gael cyllid gan Lywodraeth Cymru neu eraill. Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am ddiolch i'r deisebydd am godi mater
mor bwysig drwy'r broses ddeisebau. |
|
P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a
Phlant ynghyd â'r sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i: ·
ofyn am dystiolaeth ysgrifenedig ynghylch cau Grant Byw'n Annibynnol Cymru
gan sefydliadau sy'n cefnogi pobl anabl; ·
gwahodd y deisebydd a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant i roi
tystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
P-05-731 Gwerthu Tir a Lonydd Mynediad yn Abercwmboi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i: ·
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn i'r
Llywodraeth ymgynghori ag unrhyw breswylwyr fydd yn cael eu heffeithio'n
uniongyrchol os yw'n cynnig gwerthu'r tir; ·
cadw llygad ar ddatblygiadau. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitemau 5 a 6 Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Trafod Adroddiad Drafft - Deisebau P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn Ddeddf a P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig Dogfennau ategol:
|
|
P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf Cofnodion: Derbyniwyd yr adroddiad gyda rhai newidiadau ychwanegol. |
|
P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig Cofnodion: Derbyniwyd yr adroddiad gyda rhai newidiadau ychwanegol. |
|
Crynodeb o Dystiolaeth - P-05-736 Gwneud Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn Fwy Hygyrch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor grynodeb o'r dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ofyn
am ragor o wybodaeth gan sefydliadau iechyd meddwl trydydd sector ynghylch y
materion a nodwyd yn y ddeiseb a'r dystiolaeth a ddaeth i law hyd yma. |