Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan
Jenkins AC. Dirprwyodd Lyndsay Whittle AC ar ei rhan. |
||
(09.00 - 09.15) |
Deisebau newydd |
|
P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei
farn am y ddeiseb; a ·
Peter Black AC i ofyn am ei farn am y
ddeiseb, o gofio ei brofiad penodol gyda Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. |
||
P-04-520 Parthed Canslo pob Llawdriniaeth Orthopedig Ddewisol gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda dros y Gaeaf 2013/14 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd
i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; ·
Bwrdd Iechyd Hywel Dda, fel mater o frys; a ·
Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn am eu barn am y ddeiseb. |
||
P-04-521 Rheoleiddio Safleoedd Carafannau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn am ei
farn am y ddeiseb; ·
Darren Millar AC i ofyn am ei farn
ynghylch a ellid mynd i'r afael â'r materion a godir yn y ddeiseb yn y Bil y
mae ef wedi cael caniatâd i'w gyflwyno y flwyddyn nesaf; a ·
Peter Black AC i ofyn am ei farn am y
ddeiseb, yn sgîl ei waith ar Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013. |
||
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn am y ddeiseb. |
||
P-04-523 Diogelu’r Henoed a Phobl sy’n Agored i Niwed mewn Cartrefi Gofal Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i: ·
ofyn i'r deisebwyr am eu hymateb i gyhoeddiad y Prif Weinidog ac a yw hyn
yn mynd i'r afael â'u pryderon mewn modd digonol; a ·
disgwyl am ganfyddiadau'r arolwg annibynnol. |
||
(09.15 - 10.15) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
nodi ymateb y Gweinidog a'r ffaith ei
bod wedi addo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am unrhyw
ddatblygiadau; a ·
gofyn i'r deisebwyr eto a oes ganddynt
unrhyw sylwadau i'w gwneud am lythyr y Gweinidog. |
||
P-04-470 Yn erbyn gwladoli Maes Awyr Caerdydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chau gan na chafwyd ymateb gan y deisebydd
yn ystod y pedair wythnos flaenorol. |
||
P-04-486 Gweithredu Nawr Er Mwyn Achub Siopau'r Stryd Fawr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a gofynnodd i'r tîm clercio gyflwyno
cynnig ar gyfer sesiwn dystiolaeth bosibl. |
||
P-04-504 Diogelwch Cyffordd Pont Maerdy A483 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i
ofyn i'r Gweinidog am eglurhad llawnach o'i barn nad yw'n cael ei ystyried yn
addas gosod goleuadau ar y gyffordd hon. |
||
P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn i'r Clerc ysgrifennu at Mr Collins
i egluro rôl y Pwyllgor; ac ·
ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol
Bannau Brycheiniog, gan gynnwys mater rhestrau lleol, cynlluniau datblygu
lleol, a barn yr arolygydd cynllunio ynghylch yr angen am friff datblygu. |
||
P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am ymateb
pellach gan y Gweinidog ynghylch ymateb diweddaraf y deisebwyr. |
||
P-04-489 Deddf genedlaethol i Gymru ar dai fforddiadwy ac â blaenoriaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am ymateb
pellach gan y Gweinidog ynghylch ymateb diweddaraf y deisebwyr. |
||
P-04-402 Gweddïau Cyngor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i'w chau yng ngoleuni
ymateb y Gweinidog, a nododd nad yw'n barod i ddeddfu ar hyn. |
||
P-04-422 Ffracio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd
i ysgrifennu eto at y deisebwyr i ofyn iddynt a oes ganddynt unrhyw sylwadau i'w gwneud am yr ymatebion a
ddaeth i law. |
||
P-04-439 Diogelu coed hynafol a choed treftadaeth Cymru ymhellach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog
Cyfoeth Naturiol a Bwyd a fyddai'n barod i ystyried diogelu coed hynafol a
choed treftadaeth ymhellach mewn deddfwriaeth arfaethedig. |
||
P-04-444 : Ymgyrch 'Dig for Victory' Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd
i'w chau gan na chafwyd ymateb gan y deisebwr. |
||
P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn i'r Gweinidog hysbysu'r deisebwr
ynghylch dechrau a chynnydd yr arolwg y mae disgwyl iddo ddechrau yn ystod haf
2014; ac ·
ysgrifennu at yr RSPCA i ofyn iddo am ei
farn am ymateb y deisebwr dyddiedig 23 Tachwedd i'w lythyr. |
||
P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gynhyrchu
adroddiad yn crynhoi canfyddiadau'r Pwyllgor ar ôl iddo drafod y ddeiseb a'r
materion ehangach ac i drafod hwn mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol. |
||
P-04-441 Gwaith i Gymru - Work for Wales Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i'w chau gan na chafwyd ymateb gan y
deisebwyr ers cryn amser. |
||
P-04-443 Hanes Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chau gan na chafwyd ymateb gan y deisebwyr
ers cryn amser. |
||
P-04-484 Lwfans Cynhaliaeth Addysg i bawb! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y deisebydd
yn fodlon gydag ymateb y Gweinidog. |
||
P-04-447 Ymgyrch am Gerflun o Harri’r Seithfed ym Mhenfro Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y
deisebwyr eto. |
||
P-04-476 Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r deisebwyr
eto a oes ganddynt unrhyw sylwadau i'w gwneud am yr ymatebion a ddaeth i law. |
||
P-04-450 Mae Angen Ysbyty Cwbl Weithredol ar y Barri a Bro Morgannwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth am y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y
deisebwyr eto ynghylch y llythyr gan y Bwrdd Iechyd. |
||
P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i sicrhau bod Diffibrilwyr ar gael ym mhob man cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn i'r deisebydd gyflwyno ei gynigion
mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol; a ·
gofyn am sylwadau pellach gan y
Gweinidog yn sgîl yr ymatebion a ddaeth i law. |
||
P-04-507 Mesur iawnderau yng Nghymru ar gyfer menywod a merched: ymlynu wrth y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Gwahaniaethu o bob math yn Erbyn Menywod (CEDAW) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r deisebwyr eto a oes
ganddynt unrhyw sylwadau i'w gwneud am lythyr y Gweinidog. |
||
P-04-436 Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog eto i ofyn iddi a hoffai fynd i'r afael â'r rhan refeniw o'r ddeiseb
yn benodol, yn enwedig yng ngoleuni'r cyhoeddiadau diweddar mewn perthynas â
Chomisiwn Silk. |
||
Cyn cau'r cyfarfod, gwnaeth y Cadeirydd atgoffa'r Aelodau o gyflwyniad
sydd i ddod ar ddeiseb ac mai dyddiad y cyfarfod nesaf yw 21 Ionawr. Diolchodd y Cadeirydd hefyd i Sian Giddins am ei gwaith ar ran y Pwyllgor
a gwnaeth ei llongyfarch ar ei dyrchafiad diweddar. Yn olaf, dymunodd y Cadeirydd gyfarchion y tymor i'r Aelodau a staff. |