P-04-520 Parthed Canslo pob Llawdriniaeth Orthopedig Ddewisol gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda dros y Gaeaf 2013/14
P-04-520 Parthed Canslo pob Llawdriniaeth Orthopedig Ddewisol gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda dros y Gaeaf 2013/14
Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi
isod, o’r farn bod canslo pob llawdriniaeth orthopedig, ar wahân i
lawdriniaethau trawma, dros fisoedd y gaeaf 2013/14, yn tanseilio hawliau dynol
cleifion ac yn gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd ag anableddau. Mynnwn fod y
penderfyniad hwn yn cael ei ailystyried ar unwaith. Dylid gwneud pob
penderfyniad ynghylch blaenoriaethu anghenion cleifion gan glinigwyr yn hytrach
na chan weinyddwyr sy’n gwneud penderfyniadau ar sail cyfyngiadau ariannol.
Mae achosion brys ddifrifol, ar
wahân i achosion trawma, eisoes ar y rhestr aros, lle bydd pobl mewn perygl o
golli symudedd ac o ganlyniad i hynny, o golli eu bywoliaeth heb lawdriniaeth.
Mewn hinsawdd gwleidyddol ble y
dylid gwrando ar gleifion, yn yr achos hwn, nid oes neb wedi rhoi gwybodaeth
i’r cleifion heb sôn am ymgynghori â hwy ar y mater. Ymddengys bod penderfyniad
Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gwbl groes i’r egwyddor hon.
Nid ydym yn deall ychwaith pam mae
cleifion orthopedig yn cael eu targedu. Ymddengys bod hwn yn ddull gor-syml o
fynd i’r afael â phroblemau ariannol. Mae penderfyniadau o’r fath nid yn unig
yn effeithio ar gleifion, ond maent yn effeithio ar staff arbenigol a
hyfforddeion sy’n cael eu rhwystro rhag gwneud y gwaith y maent yn dymuno ei
wneud ac y telir iddynt i’w wneud hefyd.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i
wrthdroi’r penderfyniad hwn.
Prif ddeisebydd: Kate O’Dell
Ysytyriwyd am y tro
cyntaf gan y Pwyllgor: 10 Rhagfyr 2013
Nifer y llofnodion:490
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/12/2013