Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/11/2023 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: |
|
P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ffion Fairclough ASIC
- Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Bontypridd, Kasia Tomsa ASIC - Aelod o
Senedd Ieuenctid Cymru dros Flaenau Gwent, Elin Hargrave - Swyddog Addysg ac
Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd a Bethan Roberts - Swyddog Addysg ac
Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd. |
|
P-06-1343 Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ffion Fairclough ASIC
- Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Bontypridd, Kasia Tomsa ASIC - Aelod o
Senedd Ieuenctid Cymru dros Flaenau Gwent, Elin Hargrave - Swyddog Addysg ac
Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd a Bethan Roberts - Swyddog Addysg ac
Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd. |
|
P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf Dogfennau ategol: Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ffion Fairclough ASIC
- Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Bontypridd, Kasia Tomsa ASIC - Aelod o
Senedd Ieuenctid Cymru dros Flaenau Gwent, Elin Hargrave - Swyddog Addysg ac
Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd a Bethan Roberts - Swyddog Addysg ac
Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1361 Dylid amddiffyn gweithwyr asiantaeth yn y GIG Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a
chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog i ofyn a ellir gwneud unrhyw
newidiadau i’r cod ymarfer er mwyn diogelu staff asiantaeth yn well. Yn ysgrifenedig i'r Gweinidog cytunodd y Pwyllgor y
byddai'n cau'r ddeiseb, yn diolch i'r deisebydd a hefyd yn cyfarwyddo'r
deisebydd i gysylltu â'r Ombwdsmon, system gwynion y GIG a'u Haelodau lleol o’r
Senedd i godi'r mater hwn. |
|
P-06-1371 Dylid ailagor y safle rheilffordd yn Nantyderi, Goytre Fawr, i'n cynnwys ni ym Metro De Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu’n
ôl at Lywodraeth y DU i dynnu sylw at y ddeiseb ac i ofyn a oes unrhyw beth
arall y gellir ei wneud o safbwynt Llywodraeth y DU. Wrth ysgrifennu at
Lywodraeth y DU, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. |
|
P-06-1372 Achub ein gwasanaeth bysiau hyblyg, Bwcabus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb wrth ystyried y sesiwn
dystiolaeth yn ymwneud â’r deisebau trafnidiaeth eraill. Cytunodd yr Aelodau i
gynnwys y ddeiseb hon fel rhan o gynllun ar gyfer trafodaeth bwrdd crwn
ehangach gyda'r diwydiant bysiau i edrych ar drafnidiaeth gyhoeddus a
gwasanaethau bysiau lleol. |
|
P-06-1374 Dylai tirfeddiannwyr Cymru – yn yr un modd â Lloegr – allu caniatáu 60 diwrnod y flwyddyn o wersylla mewn pebyll a faniau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
yn ôl at y Dirprwy Weinidog i ofyn rhagor o gwestiynau a godwyd gan y
deisebydd, gan gynnwys pryd y bydd canlyniad yr ymgynghoriad ar ddatblygiadau a
ganiateir yn cael ei gyhoeddi. |
|
P-06-1376 Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i daliadau peilot incwm sylfaenol i blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a daeth i'r casgliad bod
Aelodau eisoes wedi mynegi eu barn yn glir ar fater Incwm Sylfaenol Cyffredinol
yn eu hadroddiad Cynllun Peilot UBI i Gymru. Cytunodd y
Pwyllgor felly na ellid cymryd unrhyw gamau eraill a chytunodd i gau’r ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1184 Dylid gwahardd ar unwaith y defnydd o blwm gwenwynig yn holl ffrwydron Cymru … mae plwm yn lladd ein bywyd gwyllt! Dogfennau ategol: Cofnodion: Datganodd Joel
James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n aelod o
Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar blwm mewn ffrwydron
o dan broses Reach y DU. Cytunodd i aros am gasgliad yr ymgynghoriad pellach ar
y dadansoddiad economaidd-gymdeithasol drafft cyn cymryd camau pellach. |
|
P-06-1209 Dylid creu rhestr o bob gofalwr di-dâl yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy Weinidog er mwyn
cael eglurhad ynghylch y datganiad am wirio statws gofalwyr di-dâl. |
|
P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau'r dyfodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd ei siom ynghylch yr ymateb gan Gyngor Sir Powys i
lythyr y Pwyllgor yn gofyn am arwyddion cyfeiriadol at y safle. Daeth y
Pwyllgor i’r casgliad, fodd bynnag, nad oedd llawer mwy y gall y Pwyllgor ei
wneud a chytunwyd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am gyflwyno’r ddeiseb. Wrth gau'r
ddeiseb cytunodd y Pwyllgor hefyd y byddai'n ysgrifennu yn ôl at Gyngor Sir
Powys i fynegi ei siom a'i rwystredigaeth ynghylch yr ymateb a gafwyd. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Trafod y dystiolaeth - P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun / P-06-1343 Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd / P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd y byddai'n cynnal trafodaeth bwrdd
crwn undydd yn y flwyddyn newydd gyda rhanddeiliaid perthnasol ynghylch
gwasanaethau bws. |