P-06-1372 Achub ein gwasanaeth bysiau hyblyg, Bwcabus

P-06-1372 Achub ein gwasanaeth bysiau hyblyg, Bwcabus

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Michael Iwan Morgan, ar ôl casglu 1,783 lofnodion ar-lein ac 1,267 lofnodion ar bapur, sef cyfanswm o 3,050 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:        

Gwasanaeth bysiau lleol yw “fflecsi Bwcabus.” Mae’n gwbl hygyrch ac yn gweithredu mewn ardaloedd penodol yng Nghymru gan gynnig cyfuniad o wasanaethau llwybrau sefydlog a siwrneiau y gellir eu harchebu ymlaen llaw. Nod “fflecsi Bwcabus” yw helpu pobl i deithio’n lleol a chysylltu â gwasanaethau bysiau’r brif lein. Rydych yn gofyn i fws eich codi a gall hwnnw newid ei lwybr er mwyn i’r holl deithwyr gyrraedd lle bynnag y mae angen iddynt fynd.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Cafodd “fflecsi Bwcabus” ei greu i ddisodli gwasanaethau bysiau cymunedol lleol.

Mae pobl mewn cymunedau gwledig yn dibynnu ar y gwasanaeth hwn i weld y meddyg teulu neu i gyrraedd y gweithle, i fynd i siopa a chwrdd â ffrindiau.

Mae’r gwasanaeth yn rhan hanfodol o’n cymunedau gwledig ac, i lawer, dyma’r unig ffordd y gallant deithio o le i le a bydd nifer o bobl oedrannus yn ynysig iawn os na fydd y gwasanaeth yn parhau.

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 4/11/2024 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 27/11/2023. 

 

A blue bus parked on the side of the road

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

·       Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

·       Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/10/2023