P-06-1361 Dylid amddiffyn gweithwyr asiantaeth yn y GIG
P-06-1361 Dylid amddiffyn gweithwyr asiantaeth yn y GIG
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Petero Kagingi, ar ôl casglu 422 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar hyn o bryd, nid yw gweithwyr asiantaeth yn cael yr un mesurau diogelu a
chymorth gan fyrddau iechyd â chyflogeion eraill y GIG. Fel gweithiwr cymorth
gofal iechyd asiantaeth, rwyf wedi cael profiad personol o fod yn destun
honiadau anwir a di-sail a barhaodd am fisoedd, ac nid oedd gennyf hawl na
chyfle i herio’r rhain. Byddai wedi bod gennyf rwymedïau neu hawl mewn llys
barn pe bai’r GIG wedi bod yn fy nghyflogi’n uniongyrchol.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae’r GIG yn dibynnu ar weithwyr asiantaeth i ddarparu gwasanaethau
hanfodol. Dylid eu trin yn deg.
Felly, rwy’n annog Llywodraeth Cymru i adolygu, yn ei swyddogaeth
goruchwylio, y polisïau sy’n rheoli’r ffordd y caiff gweithwyr sy’n cael eu
recriwtio drwy asiantaethau eu cyflogi a’u trin..
Statws
Yn ei gyfarfod ar 27/11/2023 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y
ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog i ofyn a
ellir gwneud unrhyw newidiadau i’r cod ymarfer er mwyn diogelu staff asiantaeth
yn well.
Yn ysgrifenedig i'r
Gweinidog cytunodd y Pwyllgor y byddai'n cau'r ddeiseb, yn diolch i'r deisebydd
a hefyd yn cyfarwyddo'r deisebydd i gysylltu â'r Ombwdsmon, system gwynion y
GIG a'u Haelodau lleol o’r Senedd i godi'r mater hwn.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
27/11/2023.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyrain Casnewydd
- Dwyrain De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/10/2023