Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/11/2023 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

2.

P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ffion Fairclough ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Bontypridd, Kasia Tomsa ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Flaenau Gwent, Elin Hargrave - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd a Bethan Roberts - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd.

 

3.

P-06-1343 Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ffion Fairclough ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Bontypridd, Kasia Tomsa ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Flaenau Gwent, Elin Hargrave - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd a Bethan Roberts - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd.

 

4.

P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ffion Fairclough ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Bontypridd, Kasia Tomsa ASIC - Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Flaenau Gwent, Elin Hargrave - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd a Bethan Roberts - Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd.

 

5.

Deisebau newydd

5.1

P-06-1361 Dylid amddiffyn gweithwyr asiantaeth yn y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Gweinidog i ofyn a ellir gwneud unrhyw newidiadau i’r cod ymarfer er mwyn diogelu staff asiantaeth yn well.

 

 

Yn ysgrifenedig i'r Gweinidog cytunodd y Pwyllgor y byddai'n cau'r ddeiseb, yn diolch i'r deisebydd a hefyd yn cyfarwyddo'r deisebydd i gysylltu â'r Ombwdsmon, system gwynion y GIG a'u Haelodau lleol o’r Senedd i godi'r mater hwn.

 

5.2

P-06-1371 Dylid ailagor y safle rheilffordd yn Nantyderi, Goytre Fawr, i'n cynnwys ni ym Metro De Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth y DU i dynnu sylw at y ddeiseb ac i ofyn a oes unrhyw beth arall y gellir ei wneud o safbwynt Llywodraeth y DU. Wrth ysgrifennu at Lywodraeth y DU, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

5.3

P-06-1372 Achub ein gwasanaeth bysiau hyblyg, Bwcabus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb wrth ystyried y sesiwn dystiolaeth yn ymwneud â’r deisebau trafnidiaeth eraill. Cytunodd yr Aelodau i gynnwys y ddeiseb hon fel rhan o gynllun ar gyfer trafodaeth bwrdd crwn ehangach gyda'r diwydiant bysiau i edrych ar drafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau bysiau lleol.

 

5.4

P-06-1374 Dylai tirfeddiannwyr Cymru – yn yr un modd â Lloegr – allu caniatáu 60 diwrnod y flwyddyn o wersylla mewn pebyll a faniau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog i ofyn rhagor o gwestiynau a godwyd gan y deisebydd, gan gynnwys pryd y bydd canlyniad yr ymgynghoriad ar ddatblygiadau a ganiateir yn cael ei gyhoeddi.

 

5.5

P-06-1376 Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i daliadau peilot incwm sylfaenol i blant ar eu pen eu hunain sy’n ceisio lloches

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a daeth i'r casgliad bod Aelodau eisoes wedi mynegi eu barn yn glir ar fater Incwm Sylfaenol Cyffredinol yn eu hadroddiad Cynllun Peilot UBI i Gymru. Cytunodd y Pwyllgor felly na ellid cymryd unrhyw gamau eraill a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

6.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

6.1

P-06-1184 Dylid gwahardd ar unwaith y defnydd o blwm gwenwynig yn holl ffrwydron Cymru … mae plwm yn lladd ein bywyd gwyllt!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar blwm mewn ffrwydron o dan broses Reach y DU. Cytunodd i aros am gasgliad yr ymgynghoriad pellach ar y dadansoddiad economaidd-gymdeithasol drafft cyn cymryd camau pellach.

 

6.2

P-06-1209 Dylid creu rhestr o bob gofalwr di-dâl yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy Weinidog er mwyn cael eglurhad ynghylch y datganiad am wirio statws gofalwyr di-dâl.

 

6.3

P-06-1337 Prynu Sycharth, Cartref Owain Glyndwr, er mwyn cadw'r safle yn saff i genedlaethau'r dyfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd ei siom ynghylch yr ymateb gan Gyngor Sir Powys i lythyr y Pwyllgor yn gofyn am arwyddion cyfeiriadol at y safle. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad, fodd bynnag, nad oedd llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud a chytunwyd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am gyflwyno’r ddeiseb.

 

Wrth gau'r ddeiseb cytunodd y Pwyllgor hefyd y byddai'n ysgrifennu yn ôl at Gyngor Sir Powys i fynegi ei siom a'i rwystredigaeth ynghylch yr ymateb a gafwyd.

 

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

8.

Trafod y dystiolaeth - P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun / P-06-1343 Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd / P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd y byddai'n cynnal trafodaeth bwrdd crwn undydd yn y flwyddyn newydd gyda rhanddeiliaid perthnasol ynghylch gwasanaethau bws.