Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/11/2025 - Y Pwyllgor Deisebau
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Luke Fletcher AS. Roedd Heledd Fychan AS yn bresennol fel
dirprwy ar ei ran. Cafwyd datganiad
o fuddiant perthnasol gan y Cadeirydd yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A mewn
perthynas ag Eitem 3.7, P-06-1521 Rhoi’r hawl i breswylwyr cartrefi mewn
parciau yng Nghymru gael mesurydd dŵr, gan nodi bod y deisebydd yn cael ei gyflogi’n rhan-amser yn ei swyddfa. Cafwyd datganiad
o fuddiant perthnasol gan Heledd Fychan AS yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A mewn
perthynas ag Eitem 2.3, P-06-1555 Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y
cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg, ac Eitem 3.3,
P-06-1476 Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a
phresennol – Nododd ei bod wedi bod yn gysylltiedig â'r deisebau hyn ac wedi
cyfarfod â'r deisebwyr. |
|
|
Deisebau newydd |
|
|
P-06-1561 Cau'r bwlch rhwng y rhywiau ym mhêl-droed menywod Cymru: ariannu cynllun cydraddoldeb cenedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC)
i ofyn am ragor o eglurder ynghylch y ddeiseb a'r materion y mae'n eu codi. |
|
|
P-06-1533 Adolygu a diweddaru Darpariaethau 2-10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafwyd datganiad
o fuddiant perthnasol gan Heledd Fychan AS yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A –
Mae hi wedi bod yn gysylltiedig â’r ddeiseb hon ac wedi cyfarfod â’r deisebwyr. Trafodwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr ag eitem 2.3, P-06-1555 Adolygu’r holl ganllawiau ar
gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at
addysg. Wrth drafod y
ddwy ddeiseb, cydnabu’r Aelodau’r teimladau cryf y mae’r materion perthnasol yn
eu codi, yn enwedig yr effaith ar ysgolion ffydd, ysgolion cyfrwng Cymraeg a
disgyblion o deuluoedd incwm isel. Er bod y materion hyn wedi’u trafod o'r
blaen yn y Senedd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'u codi yn ystod
dadl fer o dan arweiniad Heledd Fychan AS, roedd yr Aelodau’n cydnabod bod
pryderon yn parhau. Gan gydnabod hefyd arwyddocâd y mater hwn i deuluoedd,
cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am ddadl ar y
ddeiseb. |
|
|
P-06-1555 Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr ag eitem 2.2, P-06-1533 Adolygu a diweddaru
Darpariaethau 2-10 o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, Wrth drafod y
ddwy ddeiseb, cydnabu’r Aelodau’r teimladau cryf y mae’r materion perthnasol yn
eu codi, yn enwedig yr effaith ar ysgolion ffydd, ysgolion cyfrwng Cymraeg a
disgyblion o deuluoedd incwm isel. Er bod y materion hyn wedi’u trafod o'r
blaen yn y Senedd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'u codi yn ystod
dadl fer o dan arweiniad Heledd Fychan AS, roedd yr Aelodau’n cydnabod bod
pryderon yn parhau. Gan gydnabod hefyd arwyddocâd y mater hwn i deuluoedd,
cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am ddadl ar y
ddeiseb. |
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
|
P-06-1258 Gwneud unigolion yng Nghymru sydd ag anableddau cudd yn gymwys ar gyfer y Bathodyn Glas Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr ag eitem 3.2, P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i
unigolion sydd â diagnosis gydol oes. Trafododd y
Pwyllgor y ddwy ddeiseb a nododd y lefel uchel o ddiddordeb mewn Bathodynnau
Glas fel pwnc. Hefyd, tynnodd y Cadeirydd sylw at y cais am ddadl ar y mater
hwn a'r nifer sylweddol o ymatebion i'r arolwg a gynhaliwyd gan STAND Gogledd
Cymru. Roedd yr
Aelodau’n cydnabod y cynnydd sylweddol a wnaed eisoes ar y mater hwn, gan nodi
bod y deisebau wedi bod ar agor ers cryn amser bellach. Gan nad oedd y deisebau
wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer dadl, cytunodd yr Aelodau y byddai'n anodd
cyfiawnhau gofyn am ddadl arnynt ar hyn o bryd. Daeth y Pwyllgor
i’r casgliad mai’r ffordd fwyaf priodol ymlaen fyddai cynnwys y materion
perthnasol yn adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor er mwyn iddynt gael eu
monitro’n barhaus. Cytunodd yr Aelodau ei bod hi bellach yn briodol diolch i'r
deisebwyr am eu hymdrechion sylweddol a'r cynnydd a wnaed eisoes, gan nodi bod
y mater yn debygol o barhau i gael sylw yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor,
felly, i gau'r ddeiseb. |
|
|
P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr ag eitem 3.1, P-06-1258 Gwneud unigolion yng Nghymru
ag anableddau cudd yn gymwys ar gyfer y Bathodyn Glas. Trafododd y
Pwyllgor y ddwy ddeiseb a nododd y lefel uchel o ddiddordeb mewn Bathodynnau
Glas fel pwnc. Hefyd, tynnodd y Cadeirydd sylw at y cais am ddadl ar y mater
hwn a'r nifer sylweddol o ymatebion i'r arolwg a gynhaliwyd gan STAND Gogledd
Cymru. Roedd yr
Aelodau’n cydnabod y cynnydd sylweddol a wnaed eisoes ar y mater hwn, gan nodi
bod y deisebau wedi bod ar agor ers cryn amser bellach. Gan nad oedd y deisebau
wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer dadl, cytunodd yr Aelodau y byddai'n anodd
cyfiawnhau gofyn am ddadl arnynt ar hyn o bryd. Daeth y Pwyllgor
i’r casgliad mai’r ffordd fwyaf priodol ymlaen fyddai cynnwys y materion
perthnasol yn adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor er mwyn iddynt gael eu
monitro’n barhaus. Cytunodd yr Aelodau ei bod hi bellach yn briodol diolch i'r
deisebwyr am eu hymdrechion sylweddol a'r cynnydd a wnaed eisoes, gan nodi bod
y mater yn debygol o barhau i gael sylw yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor,
felly, i gau'r ddeiseb. |
|
|
P-06-1476 Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafwyd datganiad
o fuddiant perthnasol gan Heledd Fychan AS yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A –
Mae hi wedi bod yn gysylltiedig â’r ddeiseb hon ac wedi cyfarfod â’r deisebwyr. Trafododd yr
Aelodau a ddylai'r Pwyllgor gymryd camau gweithredu ychwanegol, o ystyried bod
y mater hwn eisoes wedi'i drafod yn y Siambr, a bod cwestiynau ychwanegol
wedi'u codi hefyd. Penderfynodd yr
Aelodau y dylid ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am gyfarfod – gan
wahodd Aelodau eraill o’r Senedd sydd â diddordeb yn y mater hwn – i nodi’n
union pa wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer cynnal adolygiad o MTAN 1, a luniwyd
cyn i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddod i rym. Cytunodd yr
Aelodau i nodi'r materion a godwyd gan y ddeiseb yn yr adroddiad
etifeddiaeth. |
|
|
P-06-1499 Rhoi terfyn ar y defnydd o’r term 'Darpariaeth Gyffredinol' fel rheswm dros wrthod ADY. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr
Aelodau y ddeiseb, gan nodi bod y mater hwn eisoes yn cael ei ddwyn ymlaen gan
Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd. Gwnaeth yr Aelodau gydnabod bod
y mater yn parhau i fod yn destun trafodaethau byw i'r pwyllgor pwnc, gyda
chynnydd parhaus yn cael ei wneud o ran adolygu’r diffiniad o ‘ddarpariaeth
gyffredinol’ ym maes anghenion dysgu ychwanegol. Hefyd, nodwyd yr adroddiad
cynhwysfawr gan Lywydd y Tribiwnlys Addysg, y disgwylir iddo helpu i lywio
adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yng ngoleuni hyn,
cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd cyn cau’r ddeiseb. |
|
|
P-06-1502 Cael gwared ar y cynigion ar gyfer Treth Twristiaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a diolchodd i'r deisebydd am dynnu sylw at bryderon ynghylch
y cynigion deddfwriaethol. Gan fod y cynigion hyn bellach wedi dod yn gyfraith
gwlad, nododd yr Aelodau ei bod hi’n briodol cau’r ddeiseb. |
|
|
P-06-1519 Rhoi mesurau diogelwch ar waith ar gyffordd Rhos-goch ar yr A477 i leihau damweiniau ac atal unrhyw farwolaethau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb, gan longyfarch y deisebydd ar ei ymdrechion a chydnabod y
cynnydd sydd wedi’i wneud. Cytunodd yr Aelodau y byddai’n fuddiol ymgysylltu
ymhellach â Llywodraeth Cymru, gan nodi eu bod yn cefnogi’r syniad o wneud cais
am gyfathrebu parhaus rhwng y deisebydd a Llywodraeth Cymru. Yng ngoleuni hyn,
cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd cyn cau’r ddeiseb. |
|
|
P-06-1521 Rhoi’r hawl i breswylwyr cartrefi mewn parciau yng Nghymru gael mesurydd dŵr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafwyd datganiad
o fuddiant perthnasol gan y Cadeirydd yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A mewn
perthynas ag Eitem 3.7, P-06-1521 Rhoi’r hawl i breswylwyr cartrefi mewn
parciau yng Nghymru gael mesurydd dŵr, gan nodi bod y deisebydd yn cael ei gyflogi’n
rhan-amser yn ei swyddfa. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymatebion gan Ofwat a Dŵr
Cymru, a oedd yn mynegi cydymdeimlad tra hefyd yn amlinellu’r cyfyngiadau.
Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Ddŵr Cymru ynghylch y pryderon ychwanegol a
godwyd gan y deisebydd ac i dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at y pryderon
hyn. Hefyd, cytunwyd y dylid tynnu sylw Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr
Amgylchedd a Seilwaith at y ddeiseb. Roedd yr Aelodau hefyd yn awyddus i annog
y deisebydd i gymryd rhan yn uniongyrchol yn yr ymgynghoriad ar Bapur Gwyn
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar ddiwygiadau ym maes dŵr. |
|
|
Papurau i’w nodi |
|
|
P-06-1511 Ailadeiladwch Arsyllfa Goll Caerdydd yn Amgueddfa Sain Ffagan "Creu stori Cymru gyda'n gilydd" Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau
y papur. |
|
|
P-06-1526 Achub chwaraeon ar lawr gwlad – Rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i’r adwy! Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau
y papur. |
|
|
P-06-1530 Achub Darpariaeth Gofal Plant yng Nghymru – Galw am Gyllido Teg a Phroses Deg i Ddarparwyr a Rhieni Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau
y papur. |
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Cytunwyd ar y
cynnig gweithdrefnol. |
PDF 199 KB