P-06-1555 Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg.
P-06-1555 Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim at addysg.
Petitions3
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Tina Collins, ar ôl casglu 11,790 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Dylai pob plentyn
sy’n cael addysg allu cyrraedd ysgol neu goleg yn gwbl ddi-drafferth.
Nid yw ein
strydoedd yn ddiogel i bobl ifanc dan 19 oed gerdded ar eu pennau eu hunain
mwyach.
Heb gludiant
uniongyrchol ar gyfer addysg i’r rhai y mae RHAID iddynt hyd yn oed fynychu tan
eu diwrnod olaf ym mlwyddyn 11. Mae’r myfyrwyr hyn yn brwydro drwy salwch
isorweddol, salwch cudd, neu hyd yn oed salwch heb ddiagnosis.
Y myfyrwyr sy’n
byw mewn tlodi ac yn ei chael yn anodd teithio ar fws cyhoeddus hyd yn oed.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Y blynyddoedd cyn
TGAU neu Safon Uwch yw’r cyfnod hollbwysig mewn addysg. NI ddylai myfyrwyr fod
yn brwydro i gael addysg. Dylid gwneud hyn yn hawdd.
Aeth myfyriwr
blwyddyn 8 ati i deithio ar droed o’r cartref i’r ysgol un ffordd. Cymerodd
gyfanswm o 1 awr a 10 munud. Nid oes ganddo salwch isorweddol ac mae’n cymryd
rhan mewn chwaraeon ar ôl ysgol. Roedd yn cario 6kg yn ei fag cefn yn ogystal
â’i gôt.
Ar ôl y daith
hon, cwynodd am draed dolurus, roedd ei ysgwyddau yn brifo ac roedd yn teimlo’n
flinedig iawn.
Roedd hyn cyn
diwrnod 6 awr ac mewn tywydd oer a sych.
Nid oes lle i
gadw dillad sbâr na hyd yn oed ystafell sych i sychu dillad.
Mae absenoldeb yn
mynd i gynyddu.
Bydd mwy o geir
ar ein ffyrdd ac felly bydd yr arllyriadau’n cynyddu. Bydd ystadegau ar gyfer
plant sy’n cael eu lladd mewn damwain ddifrifol yn codi.
A fyddech cystal
ag adolygu’r ddeddfwriaeth hon er mwyn i’r plant allu cael mynediad at addysg
yn haws neu hyd yn oed cyn i blentyn gael ei anafu’n ddifrifol.
Mae angen clywed
llais plentyn. Nhw yw ein blaenoriaeth ni, allwch chi ddweud yr un peth?
Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
- Cwm Cynon
- Canol De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/10/2025