P-06-1519 Rhoi mesurau diogelwch ar waith ar gyffordd Rhos-goch ar yr A477 i leihau damweiniau ac atal unrhyw farwolaethau
P-06-1519 Rhoi mesurau diogelwch ar waith ar gyffordd Rhos-goch ar yr A477 i leihau damweiniau ac atal unrhyw farwolaethau
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Victoria Mitchell, ar ôl casglu 554 lofnodion ar lein a 140
lofnodion ar bapur, sydd yn wneud cyfanswm o 694 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae’r A477 o
Sanclêr tua’r gorllewin i Sir Benfro yn ffordd brysur sy’n cael ei defnyddio
gan drigolion lleol, traffig gwyliau, traffig y fferi a danfoniadau ledled y
gorllewin.
Mae cyffordd
Rhos-goch yn droad 90 gradd ar waelod bryd heb slipffordd. Y cyflymaf y gallwch
droi yma yw 20mya, a hynny gyda thraffig y gefnffordd yn aml yn mynd 70mya y tu
ôl i chi i lawr rhiw, a dim ffordd i symud oddi ar brif ran yr A477. Mae'n
frawychus o beth.
Gofynnwn i
Lywodraeth Cymru wneud y gyffordd hon yn ddiogel cyn i fywydau gael eu colli.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Byth ers i’r
gyffordd agor yn 2014, mae trigolion lleol wedi ymgyrchu iddi gael ei gwella.
Mae'r arwyddbost wedi cael ei daro sawl gwaith. Mae cerbydau wedi mynd trwy
rwystrau damwain a glanio yn y ffos gyfagos. Hysbyswyd yr heddlu am
wrthdrawiadau lluosog ac mae llawer mwy o achosion trwch blewyn y gwyddom
amdanyn nhw. Mae gwaith monitro Llywodraeth Cymru ar gyfer Rhagfyr 2021 wedi
nodi bod 57% o gerbydau yn goryrru.
Mae gwleidyddion
lleol blaenorol a phresennol wedi cefnogi ein hachos, ond ymateb Llywodraeth
Cymru yw bod cyfraddau damweiniau o dan 60% o’r gyfradd nodweddiadol ar gyfer
ffyrdd tebyg [o lythyr y Gweinidog ym mis Gorffennaf 2019].
Rydym o'r farn
bod angen goleuo da ar y gyffordd - nid oes unrhyw oleuadau yno ar hyn o bryd -
a mesurau lleihau cyflymder priodol wrth ddynesu at y gyffordd. Mewn
gwirionedd, mae angen slipffordd yno hefyd fel y gall cerbydau arafu yn ddiogel
wrth adael y brif ffordd.
Gofynnwn i chi
gefnogi ein deiseb i wella diogelwch y rhan hon o’r ffordd.
Statws
Yn ei gyfarfod
ar 24/11/2025
penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 22/09/2025.

Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2025