P-06-1502 Cael gwared ar y cynigion ar gyfer Treth Twristiaeth
P-06-1502 Cael gwared ar y cynigion ar gyfer Treth Twristiaeth
Petitions3
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Daniel McCarthy, ar ôl casglu cyfanswm o 813 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae'r cynigion diweddar
ar gyfer treth twristiaeth yng Nghymru yn gynllun gwael ar gyfer cynhyrchu
refeniw i Lywodraeth Cymru, yn enwedig yn ystod argyfwng costau byw.
Mae hyn yn ddrwg
i fusnesau ac yn groes i fwriad y cynigion gan y bydd unrhyw ardoll twristiaeth
yn arwain at lai o dwristiaid yn dod i Gymru ar wyliau a llai o dreth yn cael
ei chynhyrchu i'r llywodraeth.
Llofnodwch y
ddeiseb hon er mwyn dangos i'r Ysgrifennydd Cyllid anfodlonrwydd y cyhoedd â’r
cynlluniau hyn a luniwyd yn fras.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Fel y mae’r
cynnig ar hyn o bryd, byddai tâl o £1.25 fesul person (gan gynnwys plant) sy’n
aros dros nos mewn gwesty mewn cyngor sy’n cymhwyso’r tâl hwn yn dod i gyfanswm
o £25 ar gyfer teulu o 4 sy’n aros am 5 noson.
Gan ychwanegu hyn
at y gost ar gyfer llety, ffioedd parcio, bwyta allan a chostau teithio, byddai
hyn yn gwneud Cymru yn gyrchfan gwyliau hyd yn oed yn llai deniadol na
chyrchfannau cystal dros y ffin yn Lloegr lle nad oes polisi o’r fath yn cael
ei weithredu.
Mae’n anochel y
bydd hyn yn arwain at lai o ymwelwyr, llai o arian i fusnesau sy’n dibynnu ar
dwristiaeth ac enw drwg cyffredinol a fydd yn dod i ran Cymru gan unrhyw un a
oedd yn dymuno ymweld cyn hynny.
Mae'r ffaith bod
Mr. Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid, yn fwriadol anwybyddu pryderon yr
adroddiad a luniwyd gan Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin y gallai cyflwyno treth o'r
fath atal ymwelwyr yn dweud cyfrolau am ei ddallineb truenus ynghylch sut y
gallai polisi o'r fath effeithio ar bobl sy’n gweithio.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
· Aberafan
· Gorllewin
De Cymru
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/01/2025