Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/03/2025 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd datganiadau o fuddiant perthnasol gan Carolyn Thomas AS a Luke Fletcher AS ar ddechrau'r drafodaeth ar eitemau 3.10 a 3.11.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-06-1489 Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at y Dirprwy Brif Weinidog i ofyn am ymateb cydgysylltiedig ar y dull gweithredu ar gyfer ymdrin â’r mater hwn ar draws y Llywodraeth, gan gynnwys deall y sefyllfa o ran y materion sy’n rhan o bortffolio Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ac i anfon copi o’r ohebiaeth hon at yr holl aelodau perthnasol o’r Cabinet (hynny yw, yr Ysgrifenyddion Cabinet sy’n gyfrifol am yr Economi, Ynni a Chynllunio; Tai a Llywodraeth Leol; a Chyllid a’r Gymraeg). Bydd y Pwyllgor yn trafod y ddeiseb eto, gan gynnwys y cwestiwn a ddylid gofyn am ddadl, ar ôl i’r ymateb ddod i law.

 

2.2

P-06-1507 Rydym yn galw ar Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Llywodraeth Cymru i greu cynllun hyfyw a chynaliadwy ar gyfer dyfodol hirdymor campws Llambed

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafodwyd pwysigrwydd parhau i drafod y mater hwn, a’r sector Addysg Uwch ehangach, yn y Senedd, er nad oedd y ddeiseb wedi cyrraedd y trothwy o 10,000 o lofnodion er mwyn iddi gael ei hystyried ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn gan y Pwyllgor Deisebau. Cafwyd ymrwymiad gan y Cadeirydd y byddai’n codi deiseb Llambed yn y Siambr mewn dadl arfaethedig ar ddyfodol y sector Addysg Uwch, ac y byddai’n ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i dynnu sylw at y ddeiseb a chynigion amgen y deisebydd i helpu i lywio eu gwaith craffu. Roedd mwyafrif yr Aelodau’n cefnogi cau’r ddeiseb, ond nodwyd ar gyfer y cofnod nad oedd Joel James yn cefnogi’r penderfyniad hwnnw.

 

2.3

P-06-1508 Cyfyngu cynghorau Cymru i gynnydd o hyd at 2% ar y dreth gyngor bob blwyddyn, gan ddechrau ym mis Ebrill 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Roedd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn glir iawn ac yn groes i farn y deisebydd ar y mater dan sylw. Cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer mwy y gallai’r Pwyllgor Deisebau ei wneud, ac felly diolchwyd i’r deisebydd a chytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-06-1365 Ail-agor llinellau rheilffordd i gysylltu gogledd a de Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno’n flaenorol i ofyn am ddadl ar y ddeiseb hon unwaith y bydd Adroddiad Dichonoldeb Bangor-Afon Wen ar gael, a chytunodd yr Aelodau i gadw at yr ymrwymiad hwnnw. Nododd yr Aelodau yr Adroddiad Dichonoldeb; achos strategol Traws Link Cymru dros ailsefydlu’r cyswllt rheilffordd rhwng Bangor ac Afon Wen a rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin; ac achos busnes cyhoeddedig Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth bws cyflym newydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin fel dewis amgen cystadleuol i deithio ar drên rhwng gogledd a de Cymru. Byddai’r ddadl yn cynnig cyfle i edrych ar y cysylltiadau rhwng Bangor ac Afon Wen a rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, yn ogystal â’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith yn y dyfodol. Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i wneud cais am ddadl.

 

3.2

P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd bod y ddeiseb hon wedi bod o dan ystyriaeth ers cryn dipyn o amser, a bod nifer o gyfarfodydd wedi’u cynnal ar y mater, sy’n cyffwrdd ar sawl portffolio yn y Cabinet. Cytunodd y Pwyllgor fod digon o wybodaeth ar gael i ddrafftio adroddiad 1-2 dudalen o hyd, a chytuno arno, gydag argymhellion i Lywodraeth Cymru, cyn diolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

3.3

P-06-1400 Adnoddau Teg a Digonol ar gyfer Practisau Cyffredinol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i dynnu sylw at sylwadau diweddaraf y deisebydd i helpu i lywio ei ymchwiliad i ddyfodol practis cyffredinol yng Nghymru a fydd yn cymryd tystiolaeth yn fuan, ac i ddiolch i'r deisebydd cyn cau'r ddeiseb.

 

3.4

P-06-1425 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru wyrdroi ei phenderfyniad i atal bysiau T2 rhag galw yng Ngarndolbenmaen

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Diolchodd y Pwyllgor i’r deisebydd am rannu’r wybodaeth ddiweddaraf, gan nodi y byddai’n croesawu cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau eraill. Fodd bynnag, cytunwyd nad oedd llawer mwy y gallai’r Pwyllgor Deisebau ei wneud ar hyn o bryd, o ystyried bod y deisebydd a’r rhanddeiliaid yn cynnal trafodaethau, felly cytunwyd hefyd y dylid cau’r ddeiseb.

 

3.5

P-06-1435 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i roi sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i dargedu ar waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd Vaughan Gething fod y deisebydd yn un o’i etholwyr, ond bod sgrinio ar gyfer canser yr ysgyfaint yn fater sy’n berthnasol ledled Cymru ac y byddai’r Senedd yn parhau i graffu arno. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i dynnu sylw at yr ohebiaeth ddiweddaraf, a rhoi gwybod iddo y bydd y Pwyllgor Deisebau yn diolch i’r deisebydd ac yn cau’r ddeiseb.

 

3.6

P-06-1453 Darparu cyllid a chymorth ar gyfer darpariaeth ddigonol o doiledau cyhoeddus hygyrch a glân.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bydd yr Aelodau'n parhau i godi pwysigrwydd darpariaeth ddigonol o doiledau cyhoeddus. Fodd bynnag, roeddent hefyd o’r farn bod y Pwyllgor wedi mynd â'r mater hwn mor bell ag oedd yn bosibl, felly gwnaethant ddiolch i'r deisebwyr am godi'r mater a chau'r ddeiseb.

 

3.7

P-06-1479 Stopio cadw plant, pobl ifanc ac oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth mewn ysbytai.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Grŵp Gorchwyl a Gorffen syn edrych ar y mater hwn a chytunodd i gadw’r ddeiseb yn agored tra’n aros am ganlyniad y gwaith hwnnw.

 

3.8

P-06-1480 Gwneud y menopos yn rhan orfodol o'r cwricwlwm ar gyfer pob myfyriwr y gwyddorau gofal iechyd a meddygaeth.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb defnyddiol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol a chytunwyd i'w rannu â'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a oedd yn debygol o ystyried y ffordd y caiff gwasanaethau menopos eu darparu wrth iddo graffu ar y Cynllun Iechyd Menywod yn y dyfodol. Diolchodd yr Aelodau i'r deisebydd am godi’r mater pwysig hwn cyn cytuno y dylid cau’r ddeiseb.

 

3.9

P-06-1486 Rhoi statws ffioedd cartref i fyfyrwyr o Hong Kong sydd â fisa Dinasyddion Prydeinig (Tramor) ar ôl tair blynedd o breswylio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod y mater hwn wedi’i godi gan yr Aelodau yn y Siambr ac yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, a bod y Gweinidog Addysg Uwch ac Addysg Bellach wedi gwahodd yr unigolion y mae’r mater cymhleth hwn wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol i gysylltu â hi. Nododd Luke Fletcher AS y gallai fod rhai materion penodol sy’n gysylltiedig â Datganiad y Cenhedloedd Unedig a rôl Cymru fel cenedl noddfa y bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol o bosibl mewn sefyllfa i'w dwyn ymlaen. Bydd yr Aelod yn rhoi’r manylion perthnasol i'r tîm clercio. Hefyd, bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at y deisebydd i'w annog i dderbyn cynnig y Gweinidog, a diolchwyd i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater hwn cyn cytuno y dylid cau'r ddeiseb.

 

3.10

P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y deisebau o dan eitem 3.10 – P-06-1253 – ac eitem 3.11 – P-06-1354 – eu trafod gyda’i gilydd. Cafwyd datganiad o fuddiant gan Carolyn Thomas AS, y Cadeirydd, oherwydd ei hymgyrchu brwd dros wahardd rasio milgwn yng Nghymru yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Les Anifeiliaid, ac wedi arwain dadl fer ar y mater. Hefyd, cafwyd datganiad o fuddiant gan Luke Fletcher AS fel aelod o Achub Milgwn Cymru. Nodwyd bod bwriad Llywodraeth Cymru o gyflwyno gwaharddiad yn glir, a chytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i dynnu sylw at y deisebau, cyn cau’r ddwy ddeiseb a chaniatáu i broses graffu’r Senedd fynd rhagddi.

3.11

P-06-1354 Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi rasio milgwn yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y deisebau o dan eitem 3.10 – P-06-1253 – ac eitem 3.11 – P-06-1354 – eu trafod gyda’i gilydd. Cafwyd datganiad o fuddiant gan Carolyn Thomas AS, y Cadeirydd, oherwydd ei hymgyrchu brwd dros wahardd rasio milgwn yng Nghymru yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Les Anifeiliaid, ac wedi arwain dadl fer ar y mater. Hefyd, cafwyd datganiad o fuddiant gan Luke Fletcher AS fel aelod o Achub Milgwn Cymru. Nodwyd bod bwriad Llywodraeth Cymru o gyflwyno gwaharddiad yn glir, a chytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i dynnu sylw at y deisebau, cyn cau’r ddwy ddeiseb a chaniatáu i broses graffu’r Senedd fynd rhagddi. Byddai'r llythyr hefyd yn cyfeirio at y materion eraill a godwyd yn yr ymgynghoriad ehangach ar drwyddedu sefydliadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd sy’n gysylltiedig â lles anifeiliaid, gan gynnwys trwyddedu'r sector steilio cŵn. Cafodd barn Joel James AS ar y ffordd orau o ymdrin â materion o ran lles anifeiliaid fel y'i mynegir ym mharagraff 27 o adroddiad y Pwyllgor yn 2022, 'Y Troad Terfynol?' – – ei nodi ar gyfer y cofnod.

 

3.12

P-06-1391 Dylid rheoleiddio'r sector steilio cŵn, er mwyn diogelu lles cŵn a hawliau perchnogion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafwyd datganiad o fuddiant gan Vaughan Gething AS fel perchennog ci sy'n defnyddio gwasanaeth steilio cŵn yn rheolaidd. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig i ofyn am amserlen ar gyfer cyflawni model cenedlaethol Llywodraeth Cymru o reoleiddio lles anifeiliaid ac ar gyfer ymdrin â thrwyddedu’r sector steilio cŵn. Hefyd, cytunwyd y dylid cadw’r ddeiseb ar agor wrth i’r Pwyllgor aros am ymateb. Byddai camau gweithredu’r Pwyllgor ar y ddeiseb hon yn cael eu cynnwys yn y llythyr i’w anfon at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig mewn perthynas â’r deisebau ar rasio milgwn, sef P-06-1253 a P-06-1354.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod