P-06-1480 Gwneud y menopos yn rhan orfodol o'r cwricwlwm ar gyfer pob myfyriwr y gwyddorau gofal iechyd a meddygaeth.

P-06-1480 Gwneud y menopos yn rhan orfodol o'r cwricwlwm ar gyfer pob myfyriwr y gwyddorau gofal iechyd a meddygaeth.

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nico Campbell, ar ôl casglu 540 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Mae tua 50 y cant o'r boblogaeth yn profi’r menopos. Mae amrywiaeth eang o symptomau a risgiau iechyd hirdymor yn gysylltiedig ag ef a all effeithio’n sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol, ac i rai pobl a all effeithio ar eu gallu i weithio, cymdeithasu, a chynnal iechyd a llesiant da.

Er gwaethaf hyn, prin yw’r addysg am y menopos yn ystod rhaglenni gofal iechyd a hyfforddiant meddygol yng Nghymru, ac nid oes gofyniad gorfodol i gynnwys y pwnc hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Nid meddygon yn unig fydd yn gofalu am bobl sy’n profi symptomau’r perimenopos a’r menopos. O’r herwydd, yn ogystal â galw ar i bob myfyriwr meddygol gael ei addysgu am symptomau ac ymyriadau’r menopos, rydym hefyd yn galw am addysgu holl fyfyrwyr y gwyddorau gofal iechyd yng Nghymru. Bydd nyrsys, ffisiotherapyddion, deintyddion, optometryddion, fferyllwyr, radiograffwyr, ymarferwyr adrannau llawdriniaethau, therapyddion lleferydd ac iaith, a therapyddion galwedigaethol i gyd yn dod ar draws pobl sy'n profi’r menopos yn eu harfer proffesiynol. Bydd addysg orfodol yn galluogi mwy o hyder a chymhwysedd wrth adnabod y perimenopos/menopos, ac yn gwella canlyniadau i gleifion.

Gall adnabod y perimenopos/menopos yn brydlon alluogi gweithwyr gofal iechyd a meddygol proffesiynol i rymuso cleifion i weithio mewn partneriaeth i reoli eu hiechyd eu hunain yn effeithiol, lleihau gwastraff drwy ragnodi diangen, a lleihau apwyntiadau ailadroddus ac atgyfeiriadau diangen ar adeg pan fo adnoddau yn y GIG yng Nghymru dan bwysau.

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 10/03/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/12/2024.

 

A group of people sitting at a table

Description automatically generated

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

·     Cwm Cynon

·     Canol De Cymru

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/11/2024