P-06-1435 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i roi sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i dargedu ar waith
P-06-1435 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i roi sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i dargedu ar waith
Petitions4
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Simon Scheeres, ar ôl casglu 5,339 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
Mae canser yr ysgyfaint
yn cymryd 1,800 o fywydau bob blwyddyn, mwy nag unrhyw ganser arall yng
Nghymru. Mae’n rhaid i hyn newid.
Gallwn wneud
pethau i leihau’r effaith hon. Un o’r rhain yw sgrinio canser yr ysgyfaint
wedi’i dargedu, a fyddai’n gwahodd pobl 55-74 oed i gael eu sgrinio os oes
ganddynt risg uchel o ganser yr ysgyfaint.
Gall y sgrinio
hwn ganfod canser yr ysgyfaint yn gynharach: a gall achub bywydau rhag canser
yr ysgyfaint.
Drwy gymryd 2
funud i lofnodi, gallwch gynorthwyo galwadau ar Lywodraeth Cymru ymrwymo i
roi’r sgrinio hwn ar waith yng Nghymru.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Yng Nghymru, mae
bron i hanner yr achosion o ganser yr ysgyfaint yn cael eu canfod ar y cam
hwyraf posibl. Mae gormod yn marw o ganser yr ysgyfaint am y rheswm hwn.
Drwy sgrinio’r
rhai sydd â’r risg uchaf, gallwn ganfod canser yr ysgyfaint yn gynt: pan fydd y
cyfraddau goroesi ar eu huchaf.
Gwyddom fod hyn
yn gweithio, gan fod gwerthusiad o Wiriadau Iechyd yr Ysgyfaint wedi’u Targedu
yn Lloegr (rhaglen beilot) wedi gweld:
- 76% o achosion
o ganser yr ysgyfaint yn cael eu canfod yn gynnar.
Y llynedd,
argymhellodd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU fod holl wledydd y DU yn
sgrinio canser yr ysgyfaint wedi’i dargedu, ynghyd â darparu cymorth rhoi’r
gorau i ysmygu. Mae'r sgrinio hwn ar gyfer pobl 55-74 oed heb symptomau, sydd â
risg uchel o ganser yr ysgyfaint (y rhai sydd â hanes o ysmygu). Yn anffodus,
dim ond un wlad yn y DU (Lloegr) sydd wedi ymrwymo i gyflwyno hyn yn
genedlaethol. Mae’n rhaid i hyn newid.
Mae canser yr
ysgyfaint yn achosi niwed mawr i Gymru. Gall sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i
dargedu helpu i leihau'r niwed hwn, gan roi amser gwerthfawr i fwy o bobl gyda
theulu a ffrindiau.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
10/03/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 30/09/2024.

Etholaeth a
Rhanbarth y Senedd:
>>>>
>>>De
Caerdydd a Phenarth
>>>Canol De
Cymru
<<<
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2024