P-06-1365 Ail-agor llinellau rheilffordd i gysylltu gogledd a de Cymru
P-06-1365 Ail-agor llinellau rheilffordd i gysylltu gogledd a de Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Elfed Wyn ap Elwyn, ar ôl casglu cyfanswm o
12,936 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r daith rhwng gogledd a de Cymru bob amser yn un hir, yn enwedig wrth
ddefnyddio’r rheilffyrdd. Mae teithio ar y trên rhwng Bangor a Chaerdydd yn
golygu bod rhaid i rywun fynd y tu allan i Gymru i allu cyrraed pen y daith.
Mae angen i’r rheilffyrdd gysylltu Cymru yn fewnol. Y cynllun ar gyfer
gwneud hyn fyddai ail-agor llinellau Bangor - Afon-wen ac Aberystwyth i
Gaerfyrddin, ac integreiddio’r rhain â lein y Cambrian, a’r lein o Gaerfyrddin
i Gaerdydd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Dyma’r hyn y mae’r ddeiseb hon yn gofyn yn benodol amdano:
- Astudiaeth Gwmpasu a Dichonoldeb ar gyfer y lein rhwng Bangor ac Afon-wen
- Ymrwymiad i wario unrhyw arian a geir gan San Steffan ar gyfer y
rheilffyrdd ar adfer llinellau rheilffyrdd
- Datblygu glasbrint o’r llwybr rheilffordd rhwng Bangor a Chaerdydd o ran
y llwybr arfaethedig
- Edrych ar lwybrau eraill o fewn Cymru y byddai eu hailagor yn fuddiol ar
lefel genedlaethol ac ar lefel leol
Os ydym am ddatblygu seilwaith Cymru, a defnyddio dull gwyrddach o deithio,
byddai adfer ac ailagor y rheilffyrdd hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir a fyddai
hefyd o fudd nid yn unig i bob cymuned ar hyd y rheilffordd, ond i Gymru fel
gwlad.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyfor Meirionnydd
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/10/2023