Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/09/2024 - Y Pwyllgor Deisebau
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Croesawodd yr
Aelodau y Cadeirydd a Vaughan Gething AS fel Aelodau newydd o'r Pwyllgor
Deisebau. |
|
|
Deisebau newydd |
|
|
P-06-1444 Mae gan ferched Gogledd Cymru yr hawl i gael Gwasanaethau/Clinig Menopos yn Ysbyty Gwynedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd fod y cwestiynau a godir gan y deisebydd yn
faterion gweithredol ynghylch darparu gwasanaethau a oedd yn fater i’r Bwrdd
Iechyd ymateb iddynt yn uniongyrchol. Yn sgil hyn cytunodd yr Aelodau i
ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gofyn am: ragor o wybodaeth
am y galw presennol a'r disgwyl am wasanaethau menopos arbenigol a ddarperir
drwy leoliadau gofal eilaidd, a phryd a sut y mae’n bwriadu darparu hyn, wyneb
yn wyneb ac o bell; rhagor o
wybodaeth am ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ac unrhyw faterion o
ran staffio'r ddarpariaeth honno; a sut y caiff
adborth ei gasglu ar ansawdd profiadau menywod o ran gwasanaethau menopos yng
Ngogledd Cymru - beth yw lefel yr adborth a geir - os yw'n isel ar hyn o bryd
beth yw eu cynlluniau i fynd i'r afael â hynny, ac a oes cynlluniau i newid y
ddarpariaeth gwasanaeth bresennol ar sail hynny. Nododd y Pwyllgor
hefyd fod mater ehangach o gysondeb gwasanaethau menopos ar draws pob bwrdd
iechyd yng Nghymru, ond roedd hyn yn rhywbeth y dylid ei gynnwys yng Nghynllun
Iechyd Menywod GIG Cymru y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2024.
Yn y lle cyntaf, cylch gwaith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol oedd
craffu ar y cynllun hwnnw, felly cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y mater. Yn ogystal â'r
camau y cytunwyd arnynt, nododd y Cadeirydd y byddai hefyd yn siarad mewn dadl
Aelodau ar ofal iechyd menywod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 2 Hydref lle
byddai'n tynnu sylw at y ddeiseb. |
|
|
P-06-1435 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i roi sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i dargedu ar waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd yn y lle cyntaf i ysgrifennu'n uniongyrchol at
Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch manylion y cynllun peilot
sgrinio canser yr ysgyfaint, i gadarnhau pryd y daw’r cynllun i ben, pryd y
disgwylir i'r gwerthusiad llawn o'r cynllun ddod i ben, ac a yw’n cynllunio
unrhyw werthusiad interim i fwrw ymlaen ag unrhyw bwyntiau dysgu yn y cyfamser
ac, os felly, pryd y bydd hynny'n digwydd. Cytunwyd y
byddai'r wybodaeth hon yn cael ei cheisio gyda'r bwriad o ofyn am ddiweddariad
gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymhen 12 mis, i
ofyn pa mor fuan y mae'n gobeithio cyflwyno rhaglen sgrinio os ystyrir bod y
cynllun peilot yn llwyddiannus. Roedd yr
aelodau hefyd am gael rhagor o wybodaeth am gamau gweithredu tymor byrrach
eraill a gaiff eu cymryd ynghylch rhoi'r gorau i ysmygu a mynd i'r afael â
llygredd aer. Yn ogystal,
cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol at y ddeiseb fel y Pwyllgor Arweiniol ar gyfer craffu ar y
cynlluniau hyn. |
|
|
P-06-1450 Llywodraeth Cymru i weithredu i amddiffyn pobl rhag heintiau a drosglwyddir drwy'r awyr mewn lleoliadau gofal iechyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Vaughan
Gething AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: "Rwy'n credu
y byddai'n synhwyrol pe na bawn yn cymryd rhan wrth geisio arwain y pwyllgor y
naill ffordd neu'r llall, oherwydd byddaf yn parhau i roi tystiolaeth i
amrywiaeth o fodiwlau o ymchwiliad COVID y DU, ac rwy'n credu ei bod yn
anochel, os bydd pwyllgor diben arbennig COVID y Senedd yn dymuno archwilio
materion, y byddaf yn rhoi tystiolaeth i hynny. Felly, er mwyn rhoi hynny ar
gofnod, a gwneud yn glir na fyddaf yn ceisio dylanwadu ar y pwyllgor y naill
ffordd na'r llall o ran y camau posib." Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd newydd y Cabinet
dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn am ymateb i ymholiadau pellach y
deisebydd, a chael diweddariad ar dreialon GIG Cymru ynghylch effeithiolrwydd
hidlo aer HEPA. Cytunodd yr
Aelodau hefyd i anfon copi at gyd-gadeiryddion Pwyllgor Diben Arbennig
Ymchwiliad Covid-19 y Senedd, er gwybodaeth ac er mwyn gofyn i’r materion gael
eu hystyried fel rhan o’i gynllun gwaith i fynd ar drywydd unrhyw fylchau yng
ngwaith Ymchwiliad Covid-19 y DU. Cytunodd yr aelodau i gadw'r ddeiseb ar agor
tra'n disgwyl ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
|
|
P-06-1458 Atal Llywodraeth Cymru rhag defnyddio Phil Jones Associates (PJA) i adolygu'r cynllun 20mya. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd â barn y deisebydd ei hun bod digwyddiadau wedi
mynd yn drech na hi. Yng ngoleuni'r canllawiau newydd a bod awdurdodau lleol
bellach yn asesu'r newidiadau a gynigir yn eu hardaloedd lleol, cytunodd yr
Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
|
P-06-1350 Ailagor Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn ar unwaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr
Aelodau y ddeiseb a chytunwyd ei bod yn anarferol i'r Pwyllgor barhau i
ysgrifennu yn ôl a blaen at y Bwrdd Iechyd am 18 mis a pheidio â dod i
ganlyniad. Mynegodd yr
Aelodau eu rhwystredigaeth ar ran y deisebwyr a chytunwyd er mwyn cael
rhywfaint o ymatebion wedi'u targedu ar gyfer y deisebydd y byddai’n ysgrifennu
eto at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cytunodd y Pwyllgor fod angen
gonestrwydd ac eglurder ynghylch a yw'n bosibl i'r Bwrdd Iechyd ddarparu'r
gwasanaeth ai peidio, yng ngoleuni'r materion parhaus yn ymwneud â recriwtio a
chadw. Cytunodd yr
Aelodau i ofyn sut roedd y gwasanaeth yn arfer cael ei ddarparu, a lle caiff ei
ddarparu ar hyn o bryd. Nodwyd bod model diogel a chynaliadwy o ofal o ansawdd
yn well na gofal lleol gwael. Cytunodd
Cadeirydd y Pwyllgor i ofyn a fyddai gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol ddiddordeb mewn cydlofnodi'r llythyr i'r Bwrdd Iechyd. |
|
|
P-06-1409 Atal unrhyw gynllunio pellach ar gyfer codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yng Nghymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd nad oes rhagor y gall ei wneud i fynd â’r mater
ymhellach a chytunodd i gau’r ddeiseb ac i ddiolch i’r deisebydd. Yn ogystal â
chau'r ddeiseb nododd yr Aelodau y gallai'r deisebydd ysgrifennu at Gyngor Sir
Caerdydd ynglŷn
â'r mater os yw’n dymuno, neu efallai y byddai am agor
deiseb newydd yn ddiweddarach pe bai cynllun codi tâl ar y ffyrdd yn cael ei gyflwyno. |
|
|
P-06-1428 Stopiwch y llifogydd yn Cae Nant Terrace, Sgiwen NAWR! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nodi fod gohebiaeth y Cyngor yn ei gwneud yn glir bod hon
yn broses gymhleth, na chaiff ei chwblhau am o leiaf flwyddyn arall. Roedd yr
Aelodau'n fodlon â'r bwriadau cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru a'r awdurdod
lleol, a bod popeth yn cael ei wneud i flaenoriaethu'r gwaith hwn. Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at yr awdurdod lleol i holi am ddiweddariad pellach a
chadw golwg ar y mater. Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau, hefyd, i
ysgrifennu at Aelodau lleol o’r Senedd er mwyn dwyn y mater i’w sylw. Nododd yr Aelodau
y straen y mae ofn llifogydd yn ei greu, ac roeddent felly am ysgrifennu yn ôl
at y deisebydd i bwysleisio fod y mater yn cael ei gymryd o ddifri, ac y
byddant yn cael gwybod am unrhyw ddiweddariadau. Nododd yr Aelodau
y straen y mae ofn llifogydd yn ei greu, ac roeddent felly am ysgrifennu yn ôl
at y deisebydd i bwysleisio fod y mater yn cael ei gymryd o ddifri, ac y
byddant yn cael gwybod am unrhyw ddiweddariadau. |
|
|
P-06-1445 Newid Treth Trafodiadau Tir ar gyfer y rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yng Nghymru, i fod yn unol â Llywodraeth y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi darparu ymateb
cynhwysfawr i gwestiynau ychwanegol y deisebwyr, ond mae'n amlwg bod
gwahaniaeth barn gyda'r deisebydd ynghylch y dull polisi yng Nghymru. Nododd yr Aelodau
nad oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud i fynd â'r mater yn ei flaen,
fodd bynnag, cyn cau'r ddeiseb, dylid anfon ymateb diweddar y deisebydd at
Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, gan ei fod yn galw am
wneud asesiad pellach o fanteision posibl rhyddhad wedi'i dargedu. Gofynnir
hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet pryd y mae adolygiad pellach o effaith Treth
Trafodiadau Tir wedi’i gynllunio. |
|
|
Papurau i'w nodi |
|
|
P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau
ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad. |
|
|
P-06-1335 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i sicrhau y gall oedolion agored i niwed heb gerdyn banc dalu ag arian parod Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd yr Aelodau
ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad. |
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
|
Trafod Blaenraglen Waith y Pwyllgor Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer gweddill tymor yr hydref. Cytunodd yr
Aelodau i ddychwelyd i drafodaeth ar flaenoriaethau strategol i’r dyfodol gyda
chadeirydd ac aelodaeth newydd. Cytunodd y
Pwyllgor i ystyried papur cwmpasu mewn cyfarfod yn y dyfodol ar waith pellach
ar y ddeiseb 'Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag
eithriadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol)'. |
PDF 198 KB