Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/07/2023 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.2 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

 

(09.30 - 10.15)

2.

Gwrandawiad craffu cyn penodi gyda’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer swydd Cadeirydd Amgueddfa Cymru

Kate Eden, Ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer swydd Cadeirydd Amgueddfa Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn cynnal gwaith craffu ar yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.

 

(10.15 - 10.25)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

3.1

Ymchwiliad San Steffan i ddarlledu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

3.2

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelwch Ar-lein

Dogfennau ategol:

3.3

39ain Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

Dogfennau ategol:

3.4

Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

3.5

Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon

Dogfennau ategol:

3.6

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25

Dogfennau ategol:

(10.25)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.25 - 10.40)

5.

Gwrandawiad craffu cyn penodi gyda’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer swydd Cadeirydd Amgueddfa Cymru: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

5.2 Oherwydd amserlenni ar gyfer cyflwyno adroddiad, cytunodd yr Aelodau i ystyried yr adroddiad ar y gwrandawiad cyn penodi, a chytuno arno, yn electronig, cyn ei gyhoeddi ar 14 Gorffennaf 2023.

 

(10.40 - 10.45)

6.

Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol: diweddariad ar broses yr ymchwiliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar broses yr ymchwiliad.

 

(11.00 - 11.05)

7.

Confensiwn Cyngor Ewrop ar Ddull Integredig o ran Diogeledd, Diogelwch a Gwasanaethau mewn Gemau Pêl-droed a Digwyddiadau Chwaraeon Eraill: trafod gohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytunodd arni.

 

(11.05 - 11.20)

8.

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2): trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

 

(11.20 - 11.40)

9.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor ar gyfer 2022-23: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

 

(11.40 - 12.10)

10.

Blaenraglen waith

10.1

Trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y flaenraglen waith ar gyfer hydref 2023.

 

 

10.2

Diwylliant a’r berthynas newydd â’r UE: trafod y papur cwmpasu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad.