Oriel gelf gyfoes genedlaethol
Oriel gelf gyfoes genedlaethol
Bydd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad byr i
gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer oriel gelf gyfoes genedlaethol. Bydd yn
ystyried y canlynol:
>>>>
>>>y modd
y cyflawnir cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer oriel gelf gyfoes
genedlaethol;
>>>rhinweddau’r
model a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru (8-10 o safleoedd rhanbarthol a hyb
angori);
>>>mynediad
digidol at gelf gyfoes.
<<<
Y cefndir
Cafodd astudiaeth
ddichonoldeb ar gyfer oriel gelf gyfoes genedlaethol ei chyhoeddi gan
Lywodraeth Cymru yn 2018. Roedd yn cynnig “model cenedlaethol deinamig ar
wasgar sy’n adeiladu ar 6 i 8 lleoliad celfyddydol sy’n bodoli eisoes ac sydd
wrthi’n datblygu ledled Cymru, ynghyd â chanolbwynt canolog parhaol.”
Dyma a ddywedodd Llywodraeth
Cymru yn ei thystiolaeth ar gyfer cyllideb ddrafft 2023-24:
“Mae sefydlu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol yn flaenoriaeth yn y Cytundeb
Cydweithio. Awgrymodd yr astudiaeth ddichonoldeb a gynhaliwyd gan y Swyddfa
Wledig dros Bensaernïaeth mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru ac
Amgueddfa Cymru mai model gwasgaredig gyda 8-10 o safleoedd sy’n cynnig
mynediad lleol i gasgliadau pwrpasol neu deithiol fyddai’r model darparu a
ffefrir ar gyfer yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol.
Rydym wedi neilltuo cyfanswm o £1.939m ers 2019-20 gan gynnwys costau
digideiddio. Mae cyllid ar gyfer 23/24 yn amodol ar yr achos busnes amlinellol
sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd.
Mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud o ran datblygu nifer o elfennau yn y
model. Mae gwaith i ddigideiddio'r casgliad a ddelir gan Amgueddfa Cymru yn
mynd rhagddo'n dda a disgwylir i'r broses ddigideiddio gael ei chwblhau yn
2022/23. Mae’r asedau digidol hyn wedi cael eu defnyddio mewn nifer o ffyrdd
arloesol yn ystod y pandemig i gynyddu mynediad i’r casgliad, er enghraifft
erthyglau ar-lein a gwefan gyfranogol lle y gall pobl guradu ‘y 100 gorau’ o
blith y casgliadau a lle y gall staff y GIG ddewis eitemau i’w hatgynhyrchu ar
fformatau mawr i'w harddangos mewn ysbytai maes a chanolfannau brechu. Mae
gwefan newydd yn cael ei datblygu er mwyn i safleoedd sy'n cymryd rhan yn y
cynllun greu eu casgliadau eu hunain.
Bydd y model gwasgaredig yn sicrhau bod y casgliad cenedlaethol a chelf
gyfoes yn fwy hygyrch i gymunedau ledled Cymru, gan ddod â chelf yn agosach i
bobl ym mhob rhan o Gymru. Mae trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt â sawl
oriel er mwyn ystyried y posibilrwydd o'u cynnwys yn y model gwasgaredig.
Fodd bynnag, bydd angen gwneud rhagor o waith asesu gydag unrhyw orielau
posibl o'r fath er mwyn deall y costau a'r cyfyngiadau yn llawn cyn y cytunir
ar restr derfynol o orielau a fydd yn cymryd rhan yn y cynllun.
Rydym yn ystyried posibiliadau ar gyfer safle angori. Anfonwyd cais i
ddarparu safleoedd i reolwyr ystadau yn y sector cyhoeddus. Cafodd lleoliadau
ar y rhestr fer eu hysbysu'n ddiweddar a gofynnwyd iddynt ddatblygu eu
cynigion.”
Rhoddwyd rhagor o
wybodaeth mewn datganiad
ysgrifenedig ar 12 Mai, a oedd yn nodi:
“Ers fy niweddariad diwethaf i'r Aelodau, bu nifer o ddatblygiadau pellach
o ran dyluniad y model. Bydd ganddo dair nodwedd benodol, gyda chefnogaeth
oriel ar-lein:
1. Bydd rhwydwaith o orielau ledled Cymru yn darparu mynediad am ddim i'r
casgliad cenedlaethol ac yn dod â chelf gyfoes yn nes at gymunedau.
2. Bydd orielau lletya sy’n lletya’r casgliad cenedlaethol o gelf Cymru.
3. Bydd oriel angor yn darparu wyneb cyhoeddus amlwg i'r oriel gelf gyfoes
genedlaethol.”
Nododd hefyd:
“Mae naw lleoliad wedi cyrraedd y rhestr fer fel aelodau o'r rhwydwaith o
orielau lle gall pobl weld y casgliad cenedlaethol yn agos at eu cartrefi. Mae
pob un o'r lleoliadau yn cael eu hasesu’n fanylach.
Dyma’r lleoliadau:
>>>>
>>>Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
>>>Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe
>>>MOSTYN, Llandudno
>>>Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd
>>>Oriel Davies, y Drenewydd
>>>Oriel Myrddin, Caerfyrddin
>>>Plas Glyn-y-Weddw, Pwllheli
>>>Canolfan Grefft Rhuthun
>>>STORIEL, Bangor
<<<
Yr orielau lletya yw’r rheini sydd naill ai'n lletya’r casgliad
cenedlaethol ar hyn o bryd neu'n bwriadu ei letya ac sy'n rhan o’r seilwaith
presennol yng Nghymru. Yn eu plith mae safleoedd Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd
ac o bosibl yn Llanberis a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn Aberystwyth. Bydd
eu cynnwys yn cynyddu mynediad pellach at gelf gyfoes o Gymru.
Ym mis Medi 2022, cawsom gyfanswm o 14 o ddatganiadau o ddiddordeb gan y
sector cyhoeddus i fod yn safle angor i'r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol.
Gwahoddwyd pum ardal awdurdod lleol – Wrecsam, Abertawe, Merthyr Tudful,
Casnewydd a Chaerdydd – i ddatblygu eu cynlluniau ymhellach. Byddwn yn cael y
cynlluniau manylach yn ddiweddarach y mis hwn.
Ym mis Chwefror 2023, gwahoddwyd y trydydd sector hefyd i gyflwyno
datganiadau o ddiddordeb ar gyfer unrhyw safleoedd sy'n cyd-fynd â'r meini
prawf ar gyfer yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol. Cyflwynwyd dau ddatganiad o
ddiddordeb a bydd y rhain nawr yn cael eu hasesu.”
Ym mis Mawrth
2023, hysbysebodd Cyngor y Celfyddydau swydd Cyfarwyddwr
Prosiect yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol, ynghyd â Chadeirydd Annibynnol
i arwain Bwrdd y Prosiect.
Yn 2008,
cynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Oriel Gelf Genedlaethol i Gymru ac
astudiaeth opsiynau am Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Celf Gyfoes. Fel rhan o’r
astudiaethau, gwnaed argymhellion i leoli'r Oriel Gelf Genedlaethol ar safle
wedi’i addasu ym Mharc Cathays ac i leoli Canolfan Genedlaethol ar gyfer Celf
Gyfoes mewn gofod bocs gwyn ar lan yr afon yng Nghasnewydd neu yn Abertawe, ond
ni chafodd yr argymhellion hyn eu datblygu ymhellach.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/06/2023
Dogfennau