Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon

Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon

Mae'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad i gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon.

 

Mae strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru yn nodi Iwerddon fel gwlad sydd â blaenoriaeth o ran y berthynas ac mae’r ddwy lywodraeth wedi llofnodi datganiad a chynllun gweithredu ar y cyd yn amlinellu sut y byddant yn cydweithredu ar feysydd polisi a rennir.

 

Dyma berthynas ryngwladol strategol fwyaf datblygedig Llywodraeth Cymru â gwlad arall a'i llywodraeth, gyda dulliau ymgysylltu strwythuredig, amcanion strategol a chamau gweithredu penodol.  Bydd yr ymchwiliad hwn yn rhoi cyfle i'r Pwyllgor asesu effeithiolrwydd y dull hwn, a pha un a ddylid defnyddio'r model hwn ar gyfer ymgysylltu rhyngwladol dwyochrog i ymgysylltu â gwledydd a rhanbarthau eraill â blaenoriaeth.

 

Cylch gorchwyl

Mae’r Pwyllgor yn ystyried y themâu a ganlyn o fewn cwmpas yr ymchwiliad:

>>>> 

>>>Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon ar ôl Brexit

>>>Y dull presennol o ymgysylltu dwyochrog rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon ac a yw’n addas i’r diben ar ôl Brexit

>>>Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru (2021-2025) fel dull o ymgysylltu rhyngwladol.

>>>Ariannu prosiectau cydweithredu a chydweithio yn y dyfodol rhwng Iwerddon a Chymru

>>>Meysydd blaenoriaeth ar gyfer cydweithredu rhwng Iwerddon a Chymru

Cyfleoedd i ddatblygu cysylltiadau seneddol rhwng y Senedd a’r Oireachtas

<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/12/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau