Diwylliant a'r berthynas newydd â'r UE

Diwylliant a'r berthynas newydd â'r UE

Inquiry2

 

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad i ddiwylliant a’r berthynas rhwng y DU a’r UE.

 

Daeth cyfnod pontio Brexit i ben ar 1 Ionawr 2021 ac felly mae dwy flynedd a hanner wedi mynd heibio ers cyflwyno'r trefniadau newydd ar gyfer gweithio a masnachu rhwng y DU a'r UE.

 

Adroddwyd yn eang am gyfyngiadau newydd ar artistiaid teithiol, ac mae rhanddeiliaid wedi awgrymu y dylai'r Pwyllgor edrych ar y mater hwn fel rhan o’i ymgynghoriad ar y Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd. Yn ogystal, cafodd y Pwyllgor dystiolaeth am y mater hwn yn ystod ei ymchwiliad i gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon.

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried effaith ymadawiad y DU â'r UE ar y sector diwylliant. Bydd yn edrych yn fanwl ar faterion fel:

>>>> 

>>>effaith y berthynas newydd ar artistiaid a gweithwyr creadigol sy'n teithio ac yn gweithio ar draws ffiniau (gan gynnwys teithio a gweithio yng Nghymru);

>>>effaith y trefniadau masnachu newydd sy'n ymwneud â gweithgareddau diwylliannol;

>>>argaeledd canllawiau a chymorth ar gyfer y sector sy'n ymwneud â'r berthynas newydd rhwng y DU a'r UE;

>>>yr effaith ar fynediad i raglenni cyllido a rhwydweithiau; ac

>>>unrhyw newidiadau i’r berthynas rhwng y DU a'r UE a allai wella trefniadau gweithio ar draws ffiniau ar gyfer y sector diwylliant.

<<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/07/2023

Dogfennau

Ymgynghoriadau