Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/07/2023 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.

 

(14:00-15:00)

2.

Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: sesiwn dystiolaeth 7

Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru

Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan:

 

Amanda Blakeman, Prif Gwnstabl Gogledd Cymru

Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru

 

(15:00)

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau.

 

3.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Ddiogelwch a Mudo

Dogfennau ategol:

3.2

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Cytundeb ar Gydnabyddiaeth Gilyddol a Chyfnewid Trwyddedau Gyrru Cenedlaethol ac ar Gyfnewid Gwybodaeth am Droseddau Traffig Cysylltiedig â Diogelwch Ffyrdd (DU/Sbaen)

Dogfennau ategol:

3.3

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch dogfennaeth sy'n cyd-fynd â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

3.4

Gohebiaeth â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip ynghylch darparu safle ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Dogfennau ategol:

3.5

Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Parhaol at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch craffu ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol

Dogfennau ategol:

3.6

Gohebiaeth gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch symud gwasanaeth presgripsiynu electronig gofal sylfaenol ar bresgripsiynau ar draws ffiniau

Dogfennau ategol:

3.7

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion

Dogfennau ategol:

3.8

Gohebiaeth â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion

Dogfennau ategol:

3.9

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Llywydd ynghylch Deddf Hawliau Senedd y DU

Dogfennau ategol:

(15:00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.

 

(15:00-15:45)

5.

Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd: trafod y dystiolaeth a materion allweddol

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau’r dystiolaeth.

 

(15:45-15:55)

6.

Cyfiawnder data: trafod gohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau’r ohebiaeth ddrafft, a chytunwyd arni, yn amodol ar fân ddiwygiadau.

 

(15:55 - 16:10)

7.

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau ar Flaenraglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor.

 

(16:10-16:20)

8.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion: trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gwnaeth yr Aelodau drafod yr adroddiad drafft a chytuno arno.