Cyfiawnder data
Inquiry2
Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad byr, wedi’i dargedu, ar bwnc cyfiawnder
data, sy’n canolbwyntio ar y defnydd o ddata personol yn y GIG yng Nghymru, pa
mor ddiogel yw’r data hyn, a sut y cânt eu defnyddio a’u rhannu pan gaiff
rhagnodi’n electronig (e- ragnodi) ei gyflwyno.
Cylch gorchwyl
Mae’r cylch
gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad fel a ganlyn:
>>>>
>>> A yw’r system yn deg – a fyddai rhai grwpiau
o bobl â chyflyrau penodol yn cael eu hamlygu, neu a fyddai’r wybodaeth yn cael
ei throsglwyddo i sefydliadau eraill, gan gynnwys y sector preifat?
>>> A yw cleifion yn gallu rheoli â phwy y mae
eu gwybodaeth yn cael ei rhannu a pha wybodaeth sy'n cael ei rhannu – a fyddai
modd optio allan?
>>> Sut y bydd data cleifion yn cael eu
cynrychioli – a fyddent yn ddienw? Pa ddata fyddai'n cael eu rhannu ar y system
hon? A fyddai pobl yn cael eu trin yn wahanol o ganlyniad i system
e-bresgripsiynau – hynny yw, a oes unrhyw oblygiadau posibl i rai grwpiau o
bobl â chyflyrau iechyd penodol?
>>> Beth fyddai pwrpas y data a gesglir?
>>> Ai sefydlu patrymau o ran meddyginiaethau,
triniaethau a chanlyniadau yw nod e-bresgripsiynau? Os felly, pa wybodaeth
ychwanegol y byddai angen ei chasglu a sut y gofynnir am ganiatâd?
Casglu
tystiolaeth
Cynhaliodd y
Pwyllgor sesiwn dystiolaeth ar 27
Mawrth a chytunodd i gynnal sesiwn arall yn nhymor yr hydref.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2023