Ymchwiliad dilynol i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd
Cyflwynodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar ei ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan
fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru ym mis Mai 2012. Prif ddiben yr ymchwiliad oedd edrych pa
mor effeithiol oedd contract Fferylliaeth Gymunedol 2005 o ran datblygu
cyfraniad fferylliaeth gymunedol i wasanaethau iechyd a lles yng Nghymru.
Ar adeg cyhoeddi’r adroddiad, nododd y
Pwyllgor ei fwriad i ddychwelyd at y pwnc yn ystod y tymor hwn yn y Cynulliad,
er mwyn ystyried ei ganfyddiadau a’i argymhellion cychwynnol ymhellach.
Defnyddir yr ymchwiliad dilynol hwn i ystyried pa mor effeithiol fu Llywodraeth
Cymru wrth fynd i’r afael â’r materion a nodwyd gan y Pwyllgor yn ei adroddiad,
gan ganolbwyntio’n benodol ar weithredu argymhellion y Pwyllgor.
Tystiolaeth gan y cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad
cyhoeddus i gasglu tystiolaeth
am y testun yma.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/03/2014
Dogfennau
- Llythyr gan y Pwyllgor IGC at y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol - ymchwiliad dilynol i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol
PDF 284 KB
- Ymateb y Gweinidiog Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r Pwyllgor IGC - ymchwiliad dilynol i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd
PDF 156 KB
Ymgynghoriadau