Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lara Date
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/11/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r
cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams
AS a Hefin David AS. Roedd Mike Hedges AS yn bresennol fel dirprwy ar ran Buffy
Williams AS. Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
|
(09.30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nododd y
Pwyllgor y papurau. |
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25 a Chostau Byw Dogfennau ategol: |
||
Rheoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) 2023 Dogfennau ategol: |
||
Ymatebion i adroddiad y Pwyllgor: Cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE Dogfennau ategol: |
||
Pwysau costau byw a’r Warant i Bobl Ifanc Dogfennau ategol: |
||
Protocol i Ddiwygio Cytundeb Marrakesh sy’n Sefydlu Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gymorthdaliadau Pysgodfeydd Dogfennau ategol: |
||
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio Dogfennau ategol: |
||
Cynllun Cynefin Cymru Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 Dogfennau ategol: |
||
Cyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach Dogfennau ategol: |
||
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Rhestrau Sefydliadau) (Dirymu) 2023 Dogfennau ategol: |
||
Y Bil Masnach (Cytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel) Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.15) |
Ymchwiliad: Ymchwil a Datblygu: Cyrff ariannu Harriet Barnes,
Cyfarwyddwr Polisi a Chyllido, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) Dean Cook,
Cyfarwyddwr, Lle a Ffyniant Bro, Innovate UK Dan Shah,
Cyfarwyddwr Strategaeth Fuddsoddi a Dirnadaeth System, Ymchwil ac Arloesi yn y
DU (UKRI) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar ymchwil a datblygu. 3.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y panel gyda chwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y
sesiwn. |
|
(10.20-11.05) |
Ymchwiliad: Ymchwil a Datblygu: Addysg uwch Amanda Wilkinson,
Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru Yr Athro Roger
Whitaker, Rhag Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesi a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd,
Prifysgolion Cymru Lewis Dean,
Pennaeth Rhwydwaith Arloesi Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar ymchwil a datblygu. 4.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y panel gyda chwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y
sesiwn. 4.3 Nododd
Prifysgolion Cymru eu bod wedi gwneud rhywfaint o waith ar effaith economaidd a
oedd yn edrych ar draws holl ranbarthau Cymru i lawr i’r lefel isranbarthol.
Roedd y gwaith hwn yn dangos bod prifysgolion yn cael effaith hyd yn oed os nad
ydynt wedi'u lleoli yn yr ardal dan sylw, a chytunwyd i ysgrifennu at y
Pwyllgor i roi rhagor o fanylion am y gwaith. |
|
(11.10-12.00) |
Ymchwiliad: Ymchwil a Datblygu: Busnes Yr Athro Justin
Lewis, Cyfarwyddwr, Media Cymru. Andy Silcox,
Cyfarwyddwr Ymchwil, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru Yr Athro Pete
Burnap, Cyfarwyddwr Hyb Arloesedd Seiber Cymru Cofnodion: 5.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar ymchwil a datblygu. 5.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y panel gyda chwestiynau nas cyrhaeddwyd yn ystod y
sesiwn. |
|
(13.05-13.50) |
Dyfodol Dur yng Nghymru: Undebau Llafur Charlotte Brumpton-Childs,
Swyddog Cenedlaethol, Gweithgynhyrchu, Undeb GMB Alasdair
McDiarmid, Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol, Undeb Community Peter Hughes,
Ysgrifennydd Cymru, Unite Cymru Cofnodion: 6.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar ddyfodol dur yng Nghymru. |
|
(13.50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitemau 1, 2 a 3 o'r cyfarfod ar 13 Rhagfyr 2023 Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y
cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac ar gyfer eitemau 1, 2 a 3
o'r cyfarfod ar 13 Rhagfyr 2023. |
|
(13.50-14.00) |
Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod y cyfarfod Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |