Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/01/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Anfonodd Samuel Kurtz ei ymddiheuriadau. Croesawodd y
Pwyllgor James Evans, a oedd yn dirprwyo ar ei ran. |
|
(13.30 – 14.30) |
Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru): Sesiwn dystiolaeth Jeremy Miles AS,
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Ceri Planchant, Cyfreithiwr,
Llywodraeth Cymru Emyr Harries, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Addysg, Busnes a Llywodraethu, Llywodraeth Cymru Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru), fel y’i
cyflwynwyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac
Addysg. |
|
(14.35 - 14.40) |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 Dogfennau ategol: |
|
SL(6)438 – Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2024 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
(14.40 – 14.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(6)437 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)439 – Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
(14.45 – 14.50) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 |
|
SL(6)435 – Cod Ymarfer Rhan 8 – Rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(14.50 – 14.55) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 – trafodwyd eisoes |
|
SL(6)425 – Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygio) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)431 – Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(14.55 – 15.00) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7 – trafodwyd eisoes |
|
SL(6)424 – Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu – Cod Ymarfer Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(15.00 – 15.05) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
a gafwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. |
||
Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Drafnidiaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
a gafwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. |
||
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
a gafwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
(15.05 – 15.10) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor 2022-23 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
a gafwyd gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan y Prif Weinidog: Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: Adroddiad Terfynol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Prif
Weinidog. |
||
(15.10) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(15.10 – 15.25) |
Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddarparwyd gan
Weinidog y Gymraeg ac Addysg. |
|
(15.25 – 15.40) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol: Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno, yn amodol ar rai mân newidiadau. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i
dynnu’r adroddiad at sylw’r pwyllgorau perthnasol yn Nhŷ’r Arglwyddi,
a chytunodd i ystyried ysgrifennu at y Prif Weinidog mewn perthynas â
darpariaethau yn y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol sy’n ymwneud â
marchnata uniongyrchol at ddibenion ymgysylltu democrataidd. |
|
(15.40 -15.55) |
Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru): Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a
chytunodd arno. |