Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/12/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Anfonodd Huw Irranca-Davies ac Adam Price eu hymddiheuriadau. Yn unol â’r cynnig a dderbyniwyd yn y cyfarfod blaenorol, Alun Davies oedd y Cadeirydd dros dro.

Croesawodd y Pwyllgor Carolyn Thomas a Luke Fletcher fel dirprwyon.

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Dogfennau ategol:

2.1

SL(6)418 – Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2023

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

(13.35 - 13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

3.1

SL(6)417 - Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.40 – 13.45)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

4.1

SL(6)409 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

4.2

SL(6)414 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 3) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(13.45 – 13.50)

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

5.2

Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

(13.50 – 13.55)

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Bil Diwygio Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

6.2

Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Trydydd cyfarfod Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y
Prif Weinidog.

(13.55)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

 

(13.55 – 14.35)

8.

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad drafft ar y Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a chytunwyd i ystyried fersiwn drafft pellach yn ei gyfarfod ar 8 Ionawr 2024.

(14.35 – 14.45)

9.

Cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:

  • Cadwraeth a Defnydd Cynaliadwy o Amrywiaeth Fiolegol Forol Ardaloedd y tu hwnt i Awdurdodaeth Genedlaethol (“cytundeb BBNJ”)
  • Cydnabyddiaeth Gilyddol y DU a Phortiwgal at Ddibenion Gyrru a Chyfnewid Trwyddedau
  • Ennill Arian drwy Gyflogaeth rhwng y DU a Gwlad Belg Aelodau Penodol o'r Teulu a Gyflogir mewn Cenhadaeth Ddiplomyddol a Swyddi Consylaidd
  • Cytundeb Gwasanaethau Awyr rhwng y DU a Georgia
  • Protocol ar Weddillion Ffrwydrol Rhyfel i’r Confensiwn ar Waharddiadau neu Gyfyngiadau ar Ddefnyddio Arfau Confensiynol Penodol y gellir eu hystyried yn Ormodol Niweidiol neu gael Effeithiau Anwahaniaethol

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a thynnu sylw’r pwyllgorau perthnasol yn Senedd Cymru a Senedd y DU at y cytundebau rhyngwladol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau mewn cyfarfod yn y dyfodol.