Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad
Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad
Cyflwynwyd y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a
Rhydd-ddaliad (y Bil) yn Nhŷ'r
Cyffredin ar 27 Tachwedd 2023.
Mae'r teitl hir
i'r Bil yn nodi mai Bil ydyw i ddiwygio hawliau tenantiaid o dan brydlesi
preswyl hir i gaffael rhydd-ddaliadau eu tai, i ymestyn prydlesi eu tai neu
fflatiau, i gyd-ryddfreinio neu reoli'r adeiladau sy'n cynnwys eu fflatiau, i
roi'r hawl i denantiaid o'r fath leihau'r rhent sy'n daladwy o dan eu prydlesi
i rent bach iawn, i reoleiddio taliadau a chostau sy'n daladwy gan denantiaid
preswyl, i reoleiddio’r gwaith o reoli ystadau preswyl ac i reoleiddio taliadau
rhent.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Dyma pan fo Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Senedd Cymru
i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Ebrill 2024
Gosododd
Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 384KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 26
Ebrill 2024.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Mawrth 2024
Gosododd
Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 324KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 4
Mawrth 2024.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a'r
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno
adroddiad arno erbyn 17 Mai 2024
(PDF 22KB).
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Ionawr 2024
Gosododd
Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 277KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 30
Ionawr 2024.
Cytunodd (PDF
28KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar
y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad ei drafod ac y gwneir
adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 15 Mawrth 2024.
Ar 13 Mawrth
2024, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd tan 17 Mai 2024
(PDF 22KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
239KB) ar 14 Mawrth 2024. Ymatebodd
(PDF 195KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 11 Ebrill 2024.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ei adroddiad (PDF
206KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a’r Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar 15 Mawrth 2024.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Rhagfyr 2023
Gosododd
Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 326KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 12
Rhagfyr 2023.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 15
Mawrth 2024 (PDF 38KB).
Ar 13 Mawrth
2024, cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd tan 17 Mai 2024
(PDF 22KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
239KB) ar 14 Mawrth 2024. Ymatebodd
(PDF 195KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 11 Ebrill 2024.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/12/2023