Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/11/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)401 - Gorchymyn Cymelldaliadau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)412 - Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.35 - 13.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
SL(6)396 - Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)397 - Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(13.40 - 13.45) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Cytundeb ar Gaffael gan Lywodraethau) (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi: Cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Cysylltiadau rhwng y DU a’r UE Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan Weinidog yr
Economi. |
||
(13.45 - 13.50) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Craffu ar waith y Gweinidogion Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan
y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Gohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi
wrth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y Deyrnas Unedig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad
Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
(13.50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(13.50 - 14.05) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Gweithgaredd Economaidd Cyrff Cyhoeddus (Materion Tramor): Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i
drafod drafft arall yn ei gyfarfod nesaf. |
|
(14.05 - 14.15) |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygio Canlyniadol) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn
Statudol a chytunodd i drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Hefyd nododd y Pwyllgor yn ffurfiol y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan
y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. |
|
(14.15 - 15.00) |
Bil Seilwaith (Cymru): Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft diwygiedig a
chytunodd arno, yn amodol ar rai mân newidiadau. |
|
(15.00 - 15.20) |
Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn Saesneg yn unig: Ystyried papur trafod Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn ystyried y papur trafod a chytunodd i
ysgrifennu at bwyllgorau Senedd y DU, i ysgrifennu at Lywodraeth y DU, ac i
ailedrych ar y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(15.20 - 15.50) |
Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft diwygiedig a
chytunodd arno. |