Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 23/05/2022 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

(13.30-13.35)

2.

Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

 

2.1

SL(6)201 - Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

 

(13.35-13.40)

3.

Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C

3.1

WS-30C(6)009 - Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Esemptiadau Trawsgydymffurfio a Rheoleiddio Trosiannol) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, ynghyd â’r sylwebaeth.

 

(13.40-13.45)

4.

Fframweithiau cyffredin

4.1

Adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Fframweithiau Cyffredin Dros Dro ar gyfer Ansawdd Aer, a Chemegion a Phlaladdwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.

 

(13.45-13.50)

5.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

5.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

 

(13.50-13.55)

6.

Papurau i'w nodi

6.1

Gohebiaeth gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi at y Prif Weinidog Boris Johnson: Adolygu Llawlyfr y Cabinet

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷr Arglwyddi.

 

(13.55)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

8.

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith.