Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/10/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(12.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon. |
|
(12.00 - 12.30) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig): Sesiwn dystiolaeth Huw
Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig Clare Fernandes, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Dŵr
a Llifogydd - Llywodraeth Cymru James Mugleston, Gwasanaethau
Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog
ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig mewn perthynas
â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth
Cymru ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig). |
|
(13.30 - 14.30) |
Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru): Sesiwn dystiolaeth Mark Drakeford
AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg. Bethan Webb,
Dirprwy Gyfarwyddwr Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru Iwan Roberts,
Uwch-gyfreithiwr, Llywodraeth Cymru Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), fel y’i cyflwynwyd Datganiad o Fwriad y Polisi ar gyfer is-ddeddfwriaeth
sydd i'w gwneud o dan y Bil Dogfennau ategol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Gyllid a’r Gymraeg mewn perthynas â Bil y
Gymraeg ac Addysg (Cymru). |
|
|
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
||
|
SL(6)535 - Rheoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol ac Amrywiol) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
|
SL(6)536 - Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy'n Ymwneud â Chydlynu Trefniadau Derbyn Ysgolion) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd. |
||
|
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
||
|
SL(6)521 – Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb i’r adroddiad a chytunodd i
ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru. |
||
|
SL(6)529 - Rheoliadau Taliadau am Wyliadwriaeth Gweddillion (Diwygio) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad. |
||
|
SL(6)534 - Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad. |
||
|
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
||
|
Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd Grwpiau Rhyngweinidogol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg mewn perthynas â chyfarfod o Gyngor y Gweinidogion Addysg,
a gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg mewn
perthynas â chyfarfod o’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid. |
||
|
Papurau i’w nodi |
||
|
Gohebiaeth ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru: Is-ddeddfwriaeth a osodir yn Saesneg yn unig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd
Gwladol Cymru a chytunodd i drafod ymateb drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
||
|
Gohebiaeth â’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy Brif
Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a
chytunwyd i gadw golwg ar y mater. |
||
(14.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(14.45 - 14.55) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dŵr (Mesurau Arbennig): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Dirprwy
Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. |
|
(14.55 - 15.10) |
Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, a chytunwyd i ysgrifennu at yr
Ysgrifennydd Cabinet mewn perthynas â’r Bil. |
|
(15.10 - 15.20) |
Ymchwiliad Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio'r Gyfraith Senedd yr Alban i ddeddfwriaeth fframwaith a phwerau Harri VIII: Cyflwyniad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar ei gyflwyniad drafft. |
|
(15.20 - 15.35) |
Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymu) (Cymru): Dull craffu (yn amodol ar gyflwyno'r Bil) Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull craffu ar gyfer y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymu) (Cymru). |
|
(15.35 - 15.50) |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Rhentwyr Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol, a chytunodd i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a
Llywodraeth Leol i roi tystiolaeth lafar mewn perthynas â'r Memorandwm.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am estyniad i'r
derfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad. |
|
(15.50 - 16.00) |
Y Fforwm Rhyngseneddol: Diweddariad Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad ar y Fforwm Rhyngseneddol. |
|
(16.00 - 16.10) |
Y wybodaeth ddiweddaraf mewn cysylltiad â Charchar EF y Parc Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas
â Charchar EF y Parc, a chytunodd i drefnu ymweliad â’r carchar. |
PDF 460 KB