Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025

Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025

Bil Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

Ar 17 Medi 2024, ysgrifennodd (PDF177KB) y Prif Weinidog at y Llywydd yn hysbysu'r Pwyllgor mai Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg yw’r Aelod sy'n Gyfrifol am y Bil erbyn hyn.

 

A teacher explaining to students

Description automatically generated

 

Gwybodaeth am y Bil

 

 

Roedd y Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:
>>>>

>>>darparu sail statudol i'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn ogystal â thargedau eraill sy'n ymwneud â defnyddio'r iaith;

>>>gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu safonau'r Gymraeg;

>>>sefydlu dull safonol i ddisgrifio gallu yn y Gymraeg, a gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i lunio Cod a fydd yn sefydlu dull safonol ar gyfer disgrifio nodweddion defnyddwyr y Gymraeg yn seiliedig ar lefelau cyfeirio cyffredin Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd;

>>>creu categorïau iaith statudol ar gyfer ysgolion, ynghyd â nodau dysgu Cymraeg sy'n gysylltiedig â'r categorïau, ac isafswm penodol o addysg Gymraeg sy'n ofynnol gan ysgolion “Prif Iaith – Saesneg, rhannol Gymraeg”;

>>>creu cadwyn o atebolrwydd rhwng cynllunio ieithyddol a gynhelir ar lefel ysgol, ar lefel awdurdod lleol, ac ar lefel genedlaethol;

>>>sefydlu corff statudol, yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

<<<< 

 

Cyfnod Presennol

BillStageAct

 

Mae eglurhad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd ar gael yn y Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Senedd Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.

 

¬¬¬Cyhoeddi’r Ddeddf

Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 wedi'i chyhoeddi a gellir cael mynediad ati ar wefan Cyfraith Cymru Llywodraeth Cymru.

 

Bydd y dudalen we berthnasol ar Cyfraith Cymru hefyd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y Ddeddf, gan gynnwys unrhyw Femorandwm Esboniadol diwygiedig a baratowyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn Cydsyniad Brenhinol, ynghyd â manylion unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Ddeddf.

zzz

 

¬¬¬Dyddiad Cydsyniad Brenhinol (7 Gorffennaf 2025)

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol (PDF 157KB) ar 7 Gorffennaf 2025.

zzz

 

¬¬¬Ar ôl Cyfnod 4(10 Mehefin 2025)

 

Ysgrifennodd yr Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog (PDF 222KB) dros Gyflawni at y Llywydd i’w hysbysu na fyddent yn Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) i’r Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

<<<< 

 

zzz

¬¬¬Cyfnod 4 (13 Mai 2025)

 

Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 4 yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Mai 2025

 

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF 581KB)

 

Datganiad y Llywydd yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (PDF 151KB)

 

zzz

¬¬¬Cyfnod 3 (20 Chwefror 2025 – 6 Mai 2025)

Yn dilyn cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3 ar 20 Chwefror 2025.

 

Cytunodd y Senedd ar 29 Ebrill 2025, o dan Reol Sefydlog 26.36, mai'r drefn ar gyfer ystyried trafodion Cyfnod 3 fyddai: Adrannau 1 – 5; Atodlen 1; Adrannau 6 – 38; Atodlen 2; Adrannau 39 – 57; Enw hir.

 

Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 3 ar Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) ddydd Mawrth 6 Mai 2025.

 

 

Hysbysiad ynghylch gwelliannau (PDF 119KB) – 22 Ebrill 2025

Hysbysiad ynghylch gwelliannau (f2) (PDF 824KB) - 22 Ebrill 2025

Hysbysiad ynghylch gwelliannau (f2) (PDF 132KB) – 23 Ebrill 2025 

Hysbysiad ynghylch gwelliannau (f3) (PDF 131KB) - 23 Ebrill 2025

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith (PDF 73.8KB) - 23 Ebrill 2025

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith (PDF 74.4KB) – 24 Ebrill 2025

Hysbysiad ynghylch gwelliannau (PDF 137KB) – 24 Ebrill 2025

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith (PDF 48.4KB) – 24 Ebrill 2025

Hysbysiad ynghylch gwelliannau (PDF 83.5KB) – 28 Ebrill 2025

Rhestr o welliannau wedi’u didoli (PDF 243KB) - 28 Ebrill 2025

Grwpio Gwelliannau (PDF 97.1KB) – 30 Ebrill 2025

 

Gosodwyd Memorandwm Esboniadol diwygiedig ar 28 Ebrill 2025

 

Datganiad Diwygiedig o Fwriad Polisi (PDF 487KB) – 28 Ebrill 2025

 

Y Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 3 (PDF 582KB) - 8 Mai 2025 (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

 

Newidiadau Argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 (PDF 109KB)

 

zzz

¬¬¬Cyfnod 2 (15 Ionawr 2025 – 19 Chwefror 2025)

Cynhaliwyd trafodaethau Cyfnod 2 yn y Pwyllgor ar 13 a 19 Chwefror 2025.

 

Ar 9 Ionawr 2025, cytunodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, o dan Reol Sefydlog 26.21, mai trefn y broses ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 fydd:

 

adrannau 1-5; Atodlen 1; adrannau 6-36; Atodlen 2; adrannau 37-55 a’r Enw Hir.

 

Hysbysiad ynghylch gwelliannau (f3) (PDF 170KB) – 15 Ionawr 2025

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith (PDF 476KB) – 16 Ionawr 2025

Hysbysiad ynghylch gwelliannau (f2) (PDF 112KB) – 3 Chwefror 2025

Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith (PDF 233KB) – 4 Chwefror 2025

Hysbysiad ynghylch gwelliannau (f3) (PDF 202KB) - 5 Chwefror 2025

Rhestr o welliannau wedi’u didoli (PDF 330KB) - 7 Chwefror 2025

Grwpio Gwelliannau (f2) (PDF 99KB) - 10 Chwefror 2025

 

Fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF 929KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

Newidiadau Argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF 110KB)

 

zzz

¬¬¬Penderfyniad Ariannol

Yn unol â Rheol Sefydlog 26.68, nododd y Llywydd bod angen penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn. Mae rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Ionawr 2025.

 

zzz

¬¬¬Cyfnod 1 (15 Gorffennaf 2024 – 15 Ionawr 2025)

Trafododd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei ddull o ran ystyriaethau Cyfnod 1 ar 17 Gorffennaf 2024.

 

Adroddiad

Gosododd (PDF 4.4MB) y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad ar 13 Rhagfyr 2024. Cynhelir dadl ar yr egwyddorion cyffredinol yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 14 Ionawr.

Cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF 257KB) gan Lywodraeth Cymru ar 13 Ionawr 2025.

 

Ymgynghoriad

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 11 Hydref 2024; mae'r holl ymatebion ar gael.

 

Ymgysylltu

Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2024 ym Mhontypridd, manteisiodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y cyfle i ofyn barn plant, pobl ifanc ac oedolion am Fil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn galw heibio lle gallai aelodau'r cyhoedd siarad yn uniongyrchol â Chadeirydd a Chlerc y Pwyllgor. Yno hefyd oedd wal graffiti lle gallai pobl rannu eu barn. Mae nodyn cryno o'r gwaith ymgysylltu hwn wedi cael ei gyhoeddi (PDF 164KB).

 

Cynhaliwyd arolwg ymysg plant a phobl ifanc sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru, i gael eu barn ar ddysgu Cymraeg yn yr ysgol. Mae dadansoddiad o ganfyddiadau'r arolwg ar gael (PDF 179KB).

 

Amserlen Tystiolaeth Lafar (PDF 32KB)

 

Crynodeb o’r Bil (PDF 604KB)

 

Geirfa Ddwyieithog (PDF 117KB)

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Ystyriodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod ac Agenda

Pwrpas y cyfarfod     

Trawsgrifiad

Senedd.TV

17 Gorffennaf 2024

Ystyried y ffordd o fynd ati i wneud gwaith craffu Cyfnod 1 (Preifat)

 

 

19 Medi 2024

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

26 Medi 2024

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

2 Hydref 2024

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

9 Hydref 2024

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

17 Hydref 2024

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

24 Hydref 2024

Sesiynau Tystiolaeth Lafar

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

28 Tachwedd 2024

Trafodaeth breifat am geynnwys yr adroddiad

 

 

4 Rhagfyr 2024

Trafodaeth breifat am geynnwys yr adroddiad

 

 

 

Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

 

Dyddiad Cyfarfod ac Agenda

Pwrpas y cyfarfod     

Trawsgrifiad

Senedd.TV

21 Hydref 2024

Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Gosododd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar 11 Rhagfyr 2024.Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 13 Ionawr 2025.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod ac Agenda

Pwrpas y cyfarfod     

Trawsgrifiad

Senedd.TV

23 Hydref 2024

Sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

 

Gosododd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad ar 13 Rhagfyr 2024. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 13 Ionawr 2025.

Gohebiaeth

>>>> 

>>> Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg – 15 Tachwedd 2024 (PDF 456KB)

>>> Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg – 12 Tachwedd 2024 (PDF 208KB)

>>> Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg – 16 Hydref 2024 (PDF 176KB)

>>>Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg - 11 Hydref 2024 (PDF 437KB)

>>>Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg - 10 Hydref 2024 (PDF 80KB)

>>>Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg – 20 Medi 2024 (PDF 186KB)

>>>Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Llywydd – 17 Medi 2024 (PDF 179KB)

>>>Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol – 13 Medi 2024 (PDF 102KB)

>>>Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol – 4 Awst 2024 (PDF 123KB)

<<<< 

 

zzz

¬¬¬Cyflwyno’r Bil (15 Gorffennaf 2024)

Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) fel y’i cyflwynwyd (PDF 889KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF 2.76MB)

 

Datganiad o Fwriad y Polisi (PDF 476KB)

 

Datganiad y Llywydd: 16 Gorffennaf 2024 (PDF 216KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil (PDF 27KB)

zzz

 

Gwybodaeth gyswllt

Clerc: Naomi Stocks

Rhif ffôn: 0300 200 6565

 

e-bost: SeneddPlant@senedd.cymru

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/06/2024

Dogfennau

Ymgynghoriadau