Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 03/06/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.  

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

2.1

SL(6)485 - Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu Darllen a Rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.35 - 13.40)

3.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

3.1

Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol mewn perthynas â chanslo Grŵp Rhyngweinidogol Diogelwch, Diogelwch a Mudo, a gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol ynghylch y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Etholiadau a Chofrestru.

3.2

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

3.3

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Gorfodi Lles Anifeiliaid (Allforio Da Byw) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

3.4

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Deddf Ifori (Ystyr “Ifori” a Diwygiadau Amrywiol) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

3.5

Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Rheoliadau Deddf Caffael 2023 (Cychwyn Rhif 3, Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet.

(13.40 - 13.50)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid. Cytunodd y Cadeirydd, fel Aelod o'r Pwyllgor Cyllid, i gyfrannu at y gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y Gyllideb Ddrafft ar ran y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. 

4.2

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg.

4.3

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Bil Seilwaith (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio.

4.4

Gohebiaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tybaco a Fêps

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

4.5

Gohebiaeth â’r Pwyllgor Busnes: Adolygu Rheol Sefydlog 29

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Pwyllgor Busnes.

4.6

Datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Fframwaith Polisi ar gyfer Sylweddau Ymbelydrol a Datgomisiynu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

4.7

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol.

4.8

Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diwygiadau i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU i gefnogi sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

4.9

Gohebiaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol: Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn Saesneg yn unig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol.

4.10

Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Cyhoeddi Estyniad i Gwmpas Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU: Ymgyngoriadau ar Wastraff ac Integreiddio Gwaredu Nwyon Tŷ Gwydr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

4.11

Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a'r Seilwaith ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Asesiad o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 ar gyfraith amgylcheddol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a'r Seilwaith ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

4.12

Gohebiaeth gan y Trefnydd a’r Prif Chwip at y Pwyllgor Cyllid: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Trefnydd a’r Prif Chwip at y Pwyllgor Cyllid.

(13.50)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(13.50 - 14.00)

6.

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol - Rheoliadau Deddf Ynni 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.

(14.00 - 14.10)

7.

Cytundebau rhyngwladol: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.

(14.10 - 14.15)

8.

Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022: Gohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr ohebiaeth ddrafft.

(14.15 – 14.20)

9.

Cynigion yn ymwneud â chefnogi amgylchedd bwyd iachach yng Nghymru: Gohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr ohebiaeth ddrafft.

(14.20 – 14.25)

10.

Cywiriadau i Offerynnau Statudol cadarnhaol drafft: Gohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr ohebiaeth ddrafft.

(14.25 – 14.30)

11.

Y broses cydsyniad deddfwriaethol: Gohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr ohebiaeth ddrafft.

(14.30 – 14.35)

12.

Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022: Gohebiaeth ddrafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr ohebiaeth ddrafft.

(14.35 - 14.45)

13.

Ystyriaeth o ohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes: Cylchoedd gwaith y pwyllgorau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes.

(14.35 - 14.45)

14.

Diweddariad ar Filiau’r DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Biliau’r DU yn sgil cyhoeddi’r Etholiad Cyffredinol sydd ar y gweill.

(14.55 – 15.05)

15.

Blaenraglen waith

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad llafar ar ei flaenraglen waith.

(15.05 - 15.35)

16.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau.