Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Bil gan Lywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Biliau Diwygio ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1 ar yr egwyddorion cyffredinol.

 

Yn dilyn penodi'r Prif Weinidog ar 20 Mawrth 2024, a phenodi'r Cabinet newydd, awdurdodwyd Jane Hutt AS, y Trefnydd a’r Prif Chwip, fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil gan y Prif Weinidog yn unol â Rheol Sefydlog 24.4(ii).

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Os caiff ei basio, bydd y Bil yn:

>>>> 

>>>Cyflwyno cwota rhywedd statudol integredig i'r system cynrychiolaeth gyfrannol â rhestrau caeedig y disgwylir iddi gael ei chyflwyno gan Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).

>>>Pan fo plaid wleidyddol gofrestredig yn dewis cyflwyno rhestr neu restrau o ymgeiswyr i'w hethol i'r Senedd, ei gwneud yn ofynnol bod y rhestrau hynny'n cydymffurfio â’r rheolau cwotâu a nodir yn y Bil.

>>>Ei gwneud yn ofynnol bod o leiaf hanner yr ymgeiswyr ar restr plaid ym mhob un o etholaethau’r Senedd yn fenywod (mewn achosion pan fo’r rhestr yn cynnwys dau neu ragor o ymgeiswyr). At hynny, ei gwneud yn ofynnol i restr gael ei threfnu fel bod rhaid i enw ymgeisydd nad yw'n fenyw ar restr gael ei ddilyn ar unwaith gan ymgeisydd sy'n fenyw (oni bai mai dyna’r enw olaf ar y rhestr). Dyma’r meini prawf gosod fertigol.

>>>Ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd cyntaf neu'r unig ymgeisydd ar o leiaf hanner y rhestrau a gyflwynir gan blaid fod yn fenyw (mewn achosion pan fo plaid wedi cyflwyno rhestrau mewn dwy neu ragor o etholaethau'r Senedd). Dyma’r meini prawf gosod llorweddol.

>>>Darparu ar gyfer creu Swyddog Cydymffurfiaeth Enwebiadau Cenedlaethol i oruchwylio cydymffurfiaeth â'r meini prawf gosod llorweddol.

>>>Ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd ar restr plaid ddatgan p’un a ydynt yn fenyw ai peidio.

>>>Darparu ar gyfer cynnal adolygiad o weithrediad ac effaith y darpariaethau deddfwriaethol newydd (drwy ei gwneud yn ofynnol i’r Llywydd gynnig sefydlu pwyllgor Seneddol i adolygu materion penodedig).

<<<< 

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

 

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), fel y’i cyflwynwyd (PDF, 100KB)

Memorandwm Esboniadol (PDF, 925KB)

 

Mae rhagor o wybodaeth a gwaith dadansoddi hefyd ar gael yn erthygl Ymchwil y Senedd, gan gynnwys crynodeb o'r Bil.

 

Y Cyfnod Presennol

 

BillStage1

 

Mae’r Bil yng Nghyfnod 1ar hyn o bryd. Mae esboniad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd ar gael yn y Canllaw i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Senedd Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.

 

¬¬¬Cyfnod 1 (Presennol)

Cytunodd y Pwyllgor Biliau Diwygio ar ei ddull o ran ystyriaethau Cyfnod 1 ar 13 Mawrth 2024.

 

Mae'r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad i lywio ei waith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). 

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

 

Bydd y Pwyllgor Biliau Diwygio yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn::

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

13 Mawrth 2024

Trafod dull y Pwyllgor o graffu yng Nghyfnod 1

(preifat)

(preifat)

13 Mawrth 2024

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

21 Mawrth 2024

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

18 Ebrill 2024

Sesiynau tystiolaeth

Trawsgrifiad

Gweld y cyfarfod

24 Ebrill 2024

Sesiynau tystiolaeth

 

 

1 Mai 2024

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Prif Chwip a'r Trefnydd

 

 

22 Mai 2024

Trafod yr adroddiad drafft

(preifat)

(preifat)

 

Gohebiaeth

 

Llythyr oddi wrth y Llywydd ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – 11 Mawrth 2024 (PDF, 297KB)

 

Llythyr oddi wrth y Llywydd ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – 15 Mawrth 2024 (PDF, 366KB)

 

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at Gomisiwn y Senedd ynghylch goblygiadau ariannol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – 18 Mawrth 2024 (PDF, 205KB)

Llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip at y Pwyllgor Biliau Diwygio ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) - 19 Mawrth 2024 (PDF, 269KB)

 

Llythyr at Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) - 22 Mawrth 2024 (PDF, 303 KB)

 

Llythyr gan Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) - 12 Ebrill 2024 (PDF, 270 KB)

 

Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd mewn perthynas â'r Aelodau sy'n gyfrifol am Filiau Llywodraeth Cymru - 5 Ebrill 2024 (PDF, 270 KB)

 

Llythyr oddi wrth y Llywydd ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) - 15 Ebrill 2024 (PDF, 282 KB)

 

 

Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

29 Ebrill 2024

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Prif Chwip a'r Trefnydd

 

 

 

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn trafod y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:

 

Dyddiad ac Agenda

Diben y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.tv

24 Ebrill 2024

Sesiwn dystiolaeth gyda’r Prif Chwip a'r Trefnydd

 

 

 

Gohebiaeth

Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Goblygiadau ariannol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) - 16 Ebrill 2024 (PDF 160KB)

 

Llythyr i Gomisiwn y Senedd ynghylch Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) (PDF, 116KB)

 

zzz

¬¬¬Cyflwynwyd y Bil (11 Mawrth 2024)

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol), fel y’i cyflwynwyd (PDF, 100KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF, 925KB)

 

Datganiad y Llywydd: 11 Mawrth 2024 (PDF, 149KB)

 

Datganiad Ysgrifenedig: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – 11 Mawrth 2024

 

Datganiad o Fwriad y Polisi (PDF, 304KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil – 13 Mawrth 2024 (PDF, 27KB)

 

Datganiad llafar: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) – 12 Mawrth 2024

 

zzz

 

Gwybodaeth gyswllt

Clerc: Georgina Owen

Ffôn: 0300 200 6565

 

Cyfeiriad post:

Senedd Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd CF99 1SN

 

E-bost: SeneddDiwygio@senedd.cymru

Math o fusnes: Bil

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/03/2024

Dogfennau

Ymgynghoriadau