Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/12/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Anfonodd Huw Irranca-Davies ac Adam Price eu
hymddiheuriadau. Yn unol â’r cynnig a dderbyniwyd yn y cyfarfod blaenorol, Alun
Davies oedd y Cadeirydd dros dro. Croesawodd y Pwyllgor Carolyn Thomas a Luke Fletcher fel
dirprwyon. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. Dogfennau ategol: |
|
SL(6)418 – Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2023 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno. |
||
(13.35 - 13.40) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 |
|
SL(6)417 - Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.40 – 13.45) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes |
|
SL(6)409 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
SL(6)414 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. |
||
(13.45 – 13.50) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Cwnsler
Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad. |
||
Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd. |
||
(13.50 – 13.55) |
Papurau i'w nodi |
|
Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Bil Diwygio Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y
Gweinidog Newid Hinsawdd. |
||
Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Trydydd cyfarfod Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
gan y |
||
(13.55) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(13.55 – 14.35) |
Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad drafft ar y Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a chytunwyd
i ystyried fersiwn drafft pellach yn ei gyfarfod ar 8 Ionawr 2024. |
|
(14.35 – 14.45) |
Cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a
thynnu sylw’r pwyllgorau perthnasol yn Senedd Cymru a Senedd y DU at y
cytundebau rhyngwladol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i drafod ei adroddiad drafft
ar y cytundebau mewn cyfarfod yn y dyfodol. |