Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 200
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/04/2024 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd
arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog NNDM8530 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a
33.8: Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud
yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r
amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn
caniatáu i NNDM8529 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 16
Ebrill 2024. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.22 NNDM8530 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: Yn atal y rhan honno o
Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan
Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn
yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8529 gael ei ystyried yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mawrth, 16 Ebrill 2024. Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i gymeradwyo enwebu Cwnsler Cyffredinol NNDM8529 Vaughan
Gething (De Caerdydd a Phenarth) Cynnig
bod y Senedd, yn unol ag Adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Fawrhydi
y Brenin benodi Mick Antoniw AS yn Gwnsler Cyffredinol. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.22 NNDM8529 Vaughan Gething (De
Caerdydd a Phenarth) Cynnig
bod y Senedd, yn unol ag Adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Fawrhydi
y Brenin benodi Mick Antoniw AS yn Gwnsler Cyffredinol. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||
(15 munud) |
Enwebiadau ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau Bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer
cadeiryddion y pwyllgorau canlynol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F: 1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Llafur) 2. Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Llafur) Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.23 Gwahoddodd
y Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau canlynol yn unol â
Rheol Sefydlog 17.2F: Y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Llafur) Enwebwyd
Buffy Williams gan Sarah Murphy. Eiliodd Carolyn Thomas yr enwebiad. Gan
fod gwrthwynebiad i’r enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiad i bleidlais
gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2I Y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Llafur) Enwebwyd
Alun Davies gan Mike Hedges. Eiliodd Rhianon Passmore yr enwebiad. Enwebwyd
Sarah Murphy gan Buffy Williams. Eiliodd Hefin David yr enwebiad. Gan
fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais
gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 17.21. Canlyniadau Am
17.03 cyhoeddodd y Llywydd ganlyniadau’r pleidleisiau cyfrinachol ar gyfer
ethol cadeiryddion pwyllgorau: Y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Llafur):
Datganodd
y Llywydd bod Buffy Williams wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg. Y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Llafur):
Datganodd
y Llywydd bod Sarah Murphy wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad. |
|||||||||||||||||||
(30 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.27 |
|||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni blaenoriaethau Cymru Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.54 |
|||||||||||||||||||
(0 munud) |
Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) - Gohiriwyd tan 21 Mai Cofnodion: Gohiriwyd yr
eitem hon tan 21 Mai. |
|||||||||||||||||||
(60 munud) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân Derbyniwyd
y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd
ond gyda phleidleisiau ar wahân. |
|||||||||||||||||||
Egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) NDM8533 Rebecca
Evans Gŵyr Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllid
Llywodraeth Leol (Cymru). Gosodwyd y Bil Cyllid
Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm
Esboniadol gerbron y Senedd ar 20 Tachwedd 2023. Gosodwyd adroddiad
y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)
gerbron y Senedd ar 15 Mawrth 2024. Dogfennau Ategol Ymateb
y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Ymateb
y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Cyllid Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Ymateb
y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.52 NDM8533 Rebecca Evans
Gŵyr Cynnig
bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn
cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru). Gosodwyd
y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd
ar 20 Tachwedd 2023. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a
Thai ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) gerbron y Senedd ar 15 Mawrth
2024. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||
Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) NDM8532 Rebecca
Evans Gŵyr Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw
ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Cyllid Llywodraeth
Leol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y
cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.52 NDM8532 Rebecca Evans
Gŵyr Cynnig
bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), yn cytuno i unrhyw
gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n
codi o ganlyniad i’r Bil. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) NDM8531 Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil Senedd
Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn: a) Adrannau 1-12; b) Atodlen 1; c) Adrannau 13-17; d) Atodlen 2; e) Adran 18; f) Atodlen 3; g) Adrannau 19-26; h) Enw hir. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.43 NDM8531 Jane Hutt (Bro
Morgannwg) Cynnig
bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn
cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac
Etholiadau) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn: a)
Adrannau 1-12; b)
Atodlen 1; c)
Adrannau 13-17; d)
Atodlen 2; e)
Adran 18; f)
Atodlen 3; g)
Adrannau 19-26; h)
Enw hir. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||
(5 munud) |
Y Bil Seilwaith (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.43 |
|||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl: Cyfnod 4 y Bil Seilwaith (Cymru) NDM8539 Julie James
(Gorllewin Abertawe) Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn cymeradwyo Bil Seilwaith (Cymru). Bil
Seilawith (Cymru), fel yi diwygiwyd ar l Cyfnod 3 Dogfennau Ategol Datganiad y
Llywydd yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.47 NDM8539 Julie James (Gorllewin
Abertawe) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47: Yn
cymeradwyo Bil Seilwaith (Cymru). Bil Seilawith (Cymru), fel yi diwygiwyd ar l Cyfnod 3 Dogfennau
Ategol Datganiad y Llywydd yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006 Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 17.03 |
||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |