Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 200 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/04/2024 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(5 munud)

2.

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

NNDM8530 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8529 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 16 Ebrill 2024.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.22

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

3.

Cynnig i gymeradwyo enwebu Cwnsler Cyffredinol

NNDM8529 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Fawrhydi y Brenin benodi Mick Antoniw AS yn Gwnsler Cyffredinol.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.22

NNDM8529 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)

Cynnig bod y Senedd, yn unol ag Adran 49(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 9.1, yn cytuno â’r argymhelliad gan Brif Weinidog Cymru i Ei Fawrhydi y Brenin benodi Mick Antoniw AS yn Gwnsler Cyffredinol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(15 munud)

4.

Enwebiadau ar gyfer cadeiryddion pwyllgorau

Bydd y Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau canlynol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F:

1. Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Llafur)

2. Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Llafur)

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.23

Gwahoddodd y Llywydd enwebiadau ar gyfer cadeiryddion y pwyllgorau canlynol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2F:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Llafur)

Enwebwyd Buffy Williams gan Sarah Murphy. Eiliodd Carolyn Thomas yr enwebiad.

Gan fod gwrthwynebiad i’r enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiad i bleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 17.2I

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Llafur)

Enwebwyd Alun Davies gan Mike Hedges. Eiliodd Rhianon Passmore yr enwebiad.

Enwebwyd Sarah Murphy gan Buffy Williams. Eiliodd Hefin David yr enwebiad.

Gan fod dau enwebiad, cyfeiriodd y Llywydd yr enwebiadau ar gyfer pleidlais gyfrinachol yn unol â Rheol Sefydlog 17.21.

Canlyniadau

Am 17.03 cyhoeddodd y Llywydd ganlyniadau’r pleidleisiau cyfrinachol ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Llafur):

Enwebai

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

Buffy Williams

37

7

13

57

Datganodd y Llywydd bod Buffy Williams wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Llafur):

Alun Davies

Sarah Murphy

Ymatal

Cyfanswm

28

29

0

57

Datganodd y Llywydd bod Sarah Murphy wedi ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

(30 munud)

5.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.27

(45 munud)

6.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni blaenoriaethau Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.54

(0 munud)

7.

Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) - Gohiriwyd tan 21 Mai

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon tan 21 Mai.

(60 munud)

Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân

Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.

8.

Egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

NDM8533 Rebecca Evans Gŵyr

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru).

Gosodwyd y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 20 Tachwedd 2023.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) gerbron y Senedd ar 15 Mawrth 2024.

Dogfennau Ategol

Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Ymateb y Llywodraeth i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.52

NDM8533 Rebecca Evans Gŵyr

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru).

Gosodwyd y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 20 Tachwedd 2023.

Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) gerbron y Senedd ar 15 Mawrth 2024.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9.

Y penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru)

NDM8532 Rebecca Evans Gŵyr

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.52

NDM8532 Rebecca Evans Gŵyr

Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

10.

Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

NDM8531 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:

a) Adrannau 1-12;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 13-17;

d) Atodlen 2;

e) Adran 18;

f) Atodlen 3;

g) Adrannau 19-26;

h) Enw hir.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.43

NDM8531 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:

a) Adrannau 1-12;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 13-17;

d) Atodlen 2;

e) Adran 18;

f) Atodlen 3;

g) Adrannau 19-26;

h) Enw hir.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

11.

Y Bil Seilwaith (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.43

(15 munud)

12.

Dadl: Cyfnod 4 y Bil Seilwaith (Cymru)

NDM8539 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Seilwaith (Cymru).

Bil Seilawith (Cymru), fel yi diwygiwyd ar l Cyfnod 3

Dogfennau Ategol

Datganiad y Llywydd yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.47

NDM8539 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Seilwaith (Cymru).

Bil Seilawith (Cymru), fel yi diwygiwyd ar l Cyfnod 3

Dogfennau Ategol

Datganiad y Llywydd yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

36

0

15

51

Derbyniwyd y cynnig.

13.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.03

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: