Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 149
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/06/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr
y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 3 gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau,
Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.19 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif
Chwip Cefin
Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiadau y mae Llywodraeth
Cymru'n eu gwneud o'r diswyddiadau a ragwelir yng Ngwesty Parc y Stradey,
Llanelli? Gofyn i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a
Thwristiaeth Tom
Giffard (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y
penderfyniad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ynghylch sefydlu cronfa ar gyfer
gohebydd i ymdrin â thrafodion y Senedd? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.12 Atebwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip Cefin Campbell
(Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiadau y mae Llywodraeth Cymru'n eu gwneud o'r diswyddiadau a
ragwelir yng Ngwesty Parc y Strade, Llanelli? Atebwyd gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth Tom Giffard (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad
a gyhoeddwyd yn ddiweddar ynghylch sefydlu cronfa ar gyfer gohebydd i ymdrin â
thrafodion y Senedd? Am 15.39, cododd Tom Giffard
Bwynt o Drefn i ddatgan fod Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a
Thwristiaeth wedi camgyfleu sylwadau a wnaeth yn
ystod ei Gwestiwn Amserol cynharach. Dywedodd y Dirprwy Lywydd y byddai’n
adolygu’r Cofnod ac yn dychwelyd at y mater. Am 19.37, dywedodd y Dirprwy
Lywydd ei fod wedi adolygu’r Cofnod ac y byddai’n ysgrifennu at yr Aelodau
perthnasol. |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.40 Gwnaeth
Carolyn Thomas ddatganiad am - Diwrnod Cenedlaethol y Dolydd (1
Gorffennaf). Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad am - Wŷl y Cyhoeddi ar gyfer Eisteddfod
2024 wedi ei gynnal yn Aberdâr (24 Mehefin). Gwnaeth
James Evans ddatganiad am - Cymru yn ennill ym Mhencampwriaethau
Cneifio’r Byd (25 Mehefin). Gwnaeth
Altaf Hussain ddatganiad am - Eid al-Adha (gŵyl Aberth), a’i
bwysigrwydd i Fwslemiaid yng Nghymru a thu hwnt (28 Mehefin). |
|||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor Dechreuodd yr eitem am 15.46 NNDM8313 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Heledd Fychan (Plaid
Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Siân Gwenllian (Plaid Cymru). Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod – Bil dyletswydd ddinesig i bleidleisio NDM8293 Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a
Dinefwr) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar
gyfer Bil ar gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio. 2. Yn nodi mai diben y
Bil hwn fyddai: a) ceisio efelychu
llwyddiant democratiaethau eraill sydd wedi cyflwyno dyletswydd ddinesig i
bleidleisio o ran cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau a
thrwy hynny wella lefel yr ymgysylltiad a'r cynrychioldeb ar draws pob oedran,
dosbarth a chymuned; b) cyflwyno dyletswydd
ddinesig ar bawb sy'n gymwys i bleidleisio i gymryd rhan yn etholiadau'r Senedd
ac etholiadau cyngor sir; c) caniatáu i'r rhai
sy'n dymuno nodi eu hanfodlonrwydd gydag ymgeisydd, plaid neu wleidyddiaeth yn
ehangach i wneud hynny drwy opsiwn o ymatal yn gadarnhaol ar y papur
pleidleisio; d) caniatáu cyflwyno
cosb briodol am beidio â chydymffurfio â'r rhwymedigaeth ddinesig i bleidleisio
neu ymatal yn gadarnhaol, gydag eithriadau cyfreithlon; ac e) darparu ar gyfer
cyflwyno cyfnod peilot ar gyfer cyflwyno'r ddyletswydd ar sail oedran benodol. Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.47 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM8293 Adam Price (Dwyrain
Caerfyrddin a Dinefwr) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio. 2.
Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a)
ceisio efelychu llwyddiant democratiaethau eraill sydd wedi cyflwyno dyletswydd
ddinesig i bleidleisio o ran cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn
etholiadau a thrwy hynny wella lefel yr ymgysylltiad a'r cynrychioldeb ar draws
pob oedran, dosbarth a chymuned; b)
cyflwyno dyletswydd ddinesig ar bawb sy'n gymwys i bleidleisio i gymryd rhan yn
etholiadau'r Senedd ac etholiadau cyngor sir; c)
caniatáu i'r rhai sy'n dymuno nodi eu hanfodlonrwydd gydag ymgeisydd, plaid neu
wleidyddiaeth yn ehangach i wneud hynny drwy opsiwn o ymatal yn gadarnhaol ar y
papur pleidleisio; d)
caniatáu cyflwyno cosb briodol am beidio â chydymffurfio â'r rhwymedigaeth ddinesig
i bleidleisio neu ymatal yn gadarnhaol, gydag eithriadau cyfreithlon; ac e)
darparu ar gyfer cyflwyno cyfnod peilot ar gyfer cyflwyno'r ddyletswydd ar sail
oedran benodol. Cefnogwyr Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - 60% - Rhoi llais iddyn nhw: Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid NDM8304 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, '60% - Rhoi llais iddyn
nhw: Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system cyfiawnder ieuenctid', a
osodwyd ar
19 Ebrill 2023. Noder:
Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin
2023. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.14 NDM8304 Jenny Rathbone (Canol
Caerdydd) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, '60% -
Rhoi llais iddyn nhw: Anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu yn y system
cyfiawnder ieuenctid', a osodwyd ar
19 Ebrill 2023. Noder: Gosodwyd ymateb
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2023. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar ddeiseb P-06-1340 - Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi NDM8306 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-06-1340 Atal
newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi’ a gasglodd 21,920 o
lofnodion. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.01 NDM8306 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-06-1340 Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi’ a gasglodd 21,920 o
lofnodion. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cymunedau gwledig NDM8307 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig
bod y Senedd: 1.
Yn nodi pwysigrwydd yr economi wledig a'r rôl y mae busnesau bach yn ei chwarae
mewn cymunedau gwledig ledled Cymru. 2.
Yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr ffermio Cymru i'r economi wledig. 3.
Yn cydnabod manteision digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod
Genedlaethol ac eraill o ran cefnogi cymunedau gwledig a hyrwyddo'r iaith
Gymraeg a diwylliant Cymru. 4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
creu strategaeth seilwaith i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cymunedau
gwledig; a b)
ailddyblu ymdrechion i fynd i'r afael â chysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus
wael ar draws cefn gwlad Cymru. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Geidwadol y DU
wedi tynnu gwerth cannoedd o filoedd o bunnau o gyllid oddi wrth economi wledig
Cymru. Yn gresynu at y diffyg sicrwydd ynghylch cyllid hirdymor
i gynorthwyo ffermydd ers i’r DU ymadael â’r UE. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.09 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8307 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi pwysigrwydd yr
economi wledig a'r rôl y mae busnesau bach yn ei chwarae mewn cymunedau gwledig
ledled Cymru. 2. Yn cydnabod cyfraniad
gwerthfawr ffermio Cymru i'r economi wledig. 3. Yn cydnabod manteision
digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol ac eraill o
ran cefnogi cymunedau gwledig a hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) creu strategaeth seilwaith i
fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig; a b) ailddyblu ymdrechion i fynd
i'r afael â chysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus wael ar draws cefn gwlad
Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Geidwadol y DU
wedi tynnu gwerth cannoedd o filoedd o bunnau o gyllid oddi wrth economi wledig
Cymru. Yn gresynu at y diffyg sicrwydd ynghylch cyllid hirdymor
i gynorthwyo ffermydd ers i’r DU ymadael â’r UE. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8307 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi pwysigrwydd yr
economi wledig a'r rôl y mae busnesau bach yn ei chwarae mewn cymunedau gwledig
ledled Cymru. 2. Yn cydnabod cyfraniad
gwerthfawr ffermio Cymru i'r economi wledig. 3. Yn cydnabod manteision
digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol ac eraill o
ran cefnogi cymunedau gwledig a hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i: a) creu strategaeth seilwaith i
fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig; a b) ailddyblu ymdrechion i fynd
i'r afael â chysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus wael ar draws cefn gwlad
Cymru. 5. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Geidwadol y DU
wedi tynnu gwerth cannoedd o filoedd o bunnau o gyllid oddi wrth economi wledig
Cymru. 6. Yn gresynu at y diffyg sicrwydd ynghylch cyllid
hirdymor i gynorthwyo ffermydd ers i’r DU ymadael â’r UE.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.17 |
||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8305 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Pobl hŷn ac
agored i niwed sy'n berchen ar dai ac yn byw mewn cartrefi sy'n anaddas i bobl
fyw ynddynt Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.21 NDM8305 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd) Pobl hŷn ac
agored i niwed sy'n berchen ar dai ac yn byw mewn cartrefi sy'n anaddas i bobl
fyw ynddynt |