NDM8307 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cymunedau gwledig
NDM8307 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cymunedau gwledig
NDM8307 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi pwysigrwydd
yr economi wledig a'r rôl y mae busnesau bach yn ei chwarae mewn cymunedau gwledig
ledled Cymru.
2. Yn cydnabod
cyfraniad gwerthfawr ffermio Cymru i'r economi wledig.
3. Yn cydnabod
manteision digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol ac
eraill o ran cefnogi cymunedau gwledig a hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant
Cymru.
4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i:
a) creu strategaeth
seilwaith i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig; a
b) ailddyblu
ymdrechion i fynd i'r afael â chysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus wael ar
draws cefn gwlad Cymru.
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith
bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi tynnu gwerth cannoedd o filoedd o bunnau o
gyllid oddi wrth economi wledig Cymru.
Yn
gresynu at y diffyg sicrwydd ynghylch cyllid hirdymor i gynorthwyo ffermydd ers
i’r DU ymadael â’r UE.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2023