NDM8293 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil dyletswydd ddinesig i bleidleisio

NDM8293 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil dyletswydd ddinesig i bleidleisio

NDM8293 Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) ceisio efelychu llwyddiant democratiaethau eraill sydd wedi cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio o ran cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau a thrwy hynny wella lefel yr ymgysylltiad a'r cynrychioldeb ar draws pob oedran, dosbarth a chymuned;

b) cyflwyno dyletswydd ddinesig ar bawb sy'n gymwys i bleidleisio i gymryd rhan yn etholiadau'r Senedd ac etholiadau cyngor sir;

c) caniatáu i'r rhai sy'n dymuno nodi eu hanfodlonrwydd gydag ymgeisydd, plaid neu wleidyddiaeth yn ehangach i wneud hynny drwy opsiwn o ymatal yn gadarnhaol ar y papur pleidleisio;

d) caniatáu cyflwyno cosb briodol am beidio â chydymffurfio â'r rhwymedigaeth ddinesig i bleidleisio neu ymatal yn gadarnhaol, gydag eithriadau cyfreithlon; ac

e) darparu ar gyfer cyflwyno cyfnod peilot ar gyfer cyflwyno'r ddyletswydd ar sail oedran benodol.

Cefnogwyr

Rhys ab Owen (Canol De Cymru)

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/07/2023