Pobl ifanc ag anghenion o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu

Pobl ifanc ag anghenion o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu

Inquiry5

 

Mae gwaith ymchwil blaenorol yn awgrymu bod pobl ifanc sydd wedi troseddu yn fwy tebygol na’u cyfoedion o fod ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Mae bod â’r anghenion hyn yn ei gwneud yn anos i berson ifanc fynegi ei hun a deall eraill. Mae gwaith ymchwil yn y maes hwn yn anodd ond mae’n allweddol o ran llywio penderfyniadau ynghylch comisiynu a pholisi.

 

Fel rhan o gyfres o ymchwiliadau undydd, byr sy’n edrych ar brofiadau yn y system cyfiawnder troseddol, mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ymchwilio i raddau anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ymhlith pobl ifanc sydd wedi troseddu, neu sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru.

 

Cylch Gorchwyl

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw:

 

  • Ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth ar gyffredinrwydd ac effaith anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ymhlith pobl ifanc sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru.
  • Ystyried effeithiolrwydd polisïau ac ymyriadau presennol i gefnogi pobl ifanc ag anawsterau cyfathrebu sydd  yn y system cyfiawnder ieuenctid, gan gynnwys sut y caiff pobl ifanc eu dynodi a’u hasesu ar gyfer anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.
  • Helpu i ddeall ymhellach pa ymyriadau eraill sydd eu hangen i gefnogi pobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid gyda’u sgiliau cyfathrebu ac iaith.

 

Cynyddu ymwybyddiaeth o gyffredinrwydd a natur anghenion cyfathrebu pobl ifanc ymhlith gweithwyr proffesiynol a llunwyr polisi gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd, ymarferwyr cyfiawnder ieuenctid, swyddogion heddlu, ynadon, ac athrawon.

 

Casglu tystiolaeth

 

Mae’r Pwyllgor wedi gorffen cymryd tystiolaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab cyfarfodydd ar frig y dudalen.

 

Adroddiad

 

Gosododd y Pwyllgor ei adroddiad “60% - Rhoi llais iddyn nhw” (PDF, 589KB) ddydd Mercher 19 Ebrill.

 

Yn dilyn ei gyhoeddi, dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor:

 

“Mae’r ormodaeth hon o bobl ifanc sydd â heriau cyfathrebu yn cael eu llusgo i’r system cyfiawnder troseddol yn peri pryder mawr.

 

Cymharwch y 60 y cant hwn â chanran o ddim ond 10 y cant o bobl ifanc ag anghenion o’r fath yn y boblogaeth gyffredinol ac mae'n amlwg bod gennym fater difrifol i fynd i'r afael ag ef. Nod yr adroddiad hwn yw rhoi llais i'r bobl ifanc hyn.”

 

Ymateb y Llywodraeth

 

Derbyniodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 7 Mehefin 2023.

 

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mehefin 2028.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/04/2022