Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Amseriad disgwyliedig: 148(v5) 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/06/2023 - Y Cyfarfod Llawn

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

(45 munud)

1.

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

(30 munud)

2.

Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.30

(60 munud)

3.

Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 14.44

(0 munud)

4.

Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ‘Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU’ - GOHIRIWYD TAN 4 GORFFENNAF 2023

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon tan 4 Gorffennaf 2023

(30 munud)

5.

Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diwygio’r tribiwnlysoedd ac esblygiad y maes cyfiawnder yng Nghymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 15.53

 

(30 munud)

6.

Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhaglen Imiwneiddio Genedlaethol i Gymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.31

(30 munud)

7.

Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Seilwaith Ieithyddol y Gymraeg

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.02

(30 munud)

8.

Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Diweddariad ar ddeddfwriaeth amgylchedd bwyd iach

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 17.29

(15 munud)

9.

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023

NDM8301 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mehefin 2023.

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Ymateb Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.19

NDM8301 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Awdurdodau Cymreig Perthnasol) (Diwygio) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mehefin 2023.

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

10.

Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)

NDM8303 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:  

a)   Adrannau 2-5;

b)   Adran 1;

c)   Teitl hir.

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.25

NDM8303 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:  

a)   Adrannau 2-5;

b)   Adran 1;

c)   Teitl hir.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

(5 munud)

11.

Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Hysbysiad Ffurfiol o Gydsyniad Ei Fawrhydi

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.26

(15 munud)

12.

Cyfnod 4 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

NDM8308 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), fel y'i diwygiwyd yn y Cyfnod Adrodd

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.26

Yn unol a Rheol Sefydlog 26.50C, gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8308 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:

Yn cymeradwyo’r Bil Amaethyddiaeth (Cymru)

Y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), fel y'i diwygiwyd yn y Cyfnod Adrodd

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd y cynnig.

(15 munud)

13.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.41

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8302 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diogelwch Ar-Lein i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mawrth 2022 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 20228 Tachwedd 202221 Rhagfyr 2022 a 1 Mehefin 2023 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:

Bil Diogelwch Ar-lein - Senedd y DU (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol (Memorandwm a Memorandwm Rhif 2)
Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol (Memorandwm Rhif 3 a Rhif 4)
Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol (Memorandwm Rhif 5)

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 2)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 3 a Rhif 4)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Memorandwm Rhif 5)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

10

55

Derbyniwyd y cynnig.

14.

Cyfnod pleidleisio

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 18.51

Crynodeb o Bleidleisiau

Dogfennau ategol: