Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 124
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 01/03/2023 - Y Cyfarfod Llawn
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai
Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn
2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
cwestiynau 1-5 a 7-8. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y
Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth
Gymdeithasol ar ôl cwestiwn 2. Am 14.23, gwnaeth y Llywydd ddyfarniad bod yr iaith a
ddefnyddiwyd gan Gareth Davies yn ymwneud â chwestiwn ar safleoedd i Sipsiwn a
Theithwyr yn wahaniaethol yn ei barn hi, ac roedd yn disgwyl i’r Aelod
ymddiheuro am ei ddewis o eiriau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Bydd y Llywydd yn galw ar
Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Cwnsler Cyffredinol ar ôl
Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.24 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.02 Gofynnwyd
y 3 chwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jack
Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Pa asesiad y mae Llywodraeth
Cymru wedi'i wneud o effaith cap prisiau newydd Ofgem ar drigolion yng Nghymru? Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Adam
Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog roi
datganiad yn sgil RCN Cymru yn gwrthod cynnig cyflog ychwanegol Llywodraeth
Cymru ar gyfer 2022-23? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.15 Atebwyd
gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jack Sargeant
(Alun a Glannau Dyfrdwy): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i
wneud o effaith cap prisiau newydd Ofgem ar drigolion yng Nghymru? Atebwyd
gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Adam Price
(Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog
roi datganiad yn sgil RCN Cymru yn gwrthod cynnig cyflog ychwanegol Llywodraeth
Cymru ar gyfer 2022-23? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.39 Gwnaeth
Jenny Rathbone ddatganiad am - Y genhinen fel symbol o ddiwylliant Cymru. Gwnaeth
Sarah Murphy ddatganiad am - Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta (27
Chwefror i 5 Mawrth). |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Cysylltiadau diwydiannol NDM8210 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn mynegi
undod â gweithwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru sy'n gweithredu'n
ddiwydiannol mewn ymateb i flynyddoedd o doriadau tymor real i'w cyflog. 2. Yn credu bod gallu
gweithwyr i fynd ar streic i wella eu cyflog ac amodau yn hawl ddemocrataidd
sylfaenol. 3. Yn credu bod Bil
Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y DU yn ymosodiad
uniongyrchol ar bobl sy'n gweithio a'r undebau llafur y maent yn trefnu o
fewn iddynt. 4. Yn gresynu at y
ffaith y byddai'r Bil yn rhoi pŵer gorfodol sylweddol i Lywodraeth y DU
gwtogi ar allu undebau llafur a gweithwyr i gymryd rhan mewn gweithredu
diwydiannol cyfreithlon. 5. Yn gresynu at y
ffaith bod y Bil hefyd yn gwrthdaro ag amcanion y Bil Partneriaeth Gymdeithasol
a Chaffael Cyhoeddus, yn enwedig ymrwymiad gwneud Cymru'n genedl gwaith teg. 6. Yn cefnogi pob
undeb llafur ac holl weithwyr y sector cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll
y Bil. 7. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i agor trafodaethau ynghylch datganoli cyfraith cyflogaeth er
mwyn sicrhau hawliau cyfunol a phwerau bargeinio gweithwyr yng Nghymru. Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth
Gofynnol) Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Yn croesawu'r camau y
mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i ddiwygio'r fframwaith cyfreithiol sy'n
llywodraethu gweithredu diwydiannol i sicrhau bod lefelau gwasanaeth gofynnol
yn cael eu gosod mewn sectorau allweddol yn ystod cyfnodau o streic. Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Gwelliant 2 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod ac yn
parchu cryfder y teimladau a ddangoswyd gan aelodau'r undebau llafur drwy
bleidleisiau ar streicio a chynnal gweithredu diwydiannol. 2. Yn credu bod Bil
Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn
ymosodiad ar undebau llafur a hawl sylfaenol gweithwyr i streicio. 3. Yn gresynu at y
diffyg ymgysylltu llwyr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y ddeddfwriaeth hon
cyn ei chyflwyno ac yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru fel y nodir yn ei Datganiad
Ysgrifenedig a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. 4. Yn cefnogi
Llywodraeth Cymru, a’r holl undebau llafur a gweithwyr y sector cyhoeddus yn eu
hymdrechion i wrthsefyll y Bil. Datganiad
Ysgrifenedig: Safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth
Gofynnol) Cydsyniad
Deddfwriaethol: Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.43 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8210 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn mynegi undod â
gweithwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru sy'n gweithredu'n ddiwydiannol mewn
ymateb i flynyddoedd o doriadau tymor real i'w cyflog. 2. Yn credu bod gallu gweithwyr
i fynd ar streic i wella eu cyflog ac amodau yn hawl ddemocrataidd sylfaenol. 3. Yn credu bod Bil Streiciau
(Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y DU yn ymosodiad uniongyrchol ar
bobl sy'n gweithio a'r undebau llafur y maent yn trefnu o fewn iddynt. 4. Yn gresynu at y ffaith y
byddai'r Bil yn rhoi pŵer gorfodol sylweddol i Lywodraeth y DU gwtogi ar
allu undebau llafur a gweithwyr i gymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol
cyfreithlon. 5. Yn gresynu at y ffaith bod y
Bil hefyd yn gwrthdaro ag amcanion y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael
Cyhoeddus, yn enwedig ymrwymiad gwneud Cymru'n genedl gwaith teg. 6. Yn cefnogi pob undeb llafur
ac holl weithwyr y sector cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll y Bil. 7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i agor trafodaethau ynghylch datganoli cyfraith cyflogaeth er mwyn sicrhau
hawliau cyfunol a phwerau bargeinio gweithwyr yng Nghymru. Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth
Gofynnol) Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig)
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Dileu popeth a rhoi yn ei le: Yn croesawu'r camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i
ddiwygio'r fframwaith cyfreithiol sy'n llywodraethu gweithredu diwydiannol i
sicrhau bod lefelau gwasanaeth gofynnol yn cael eu gosod mewn sectorau
allweddol yn ystod cyfnodau o streic. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Gwrthodwyd gwelliant 1. Gwelliant 2 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn
cydnabod ac yn parchu cryfder y teimladau a ddangoswyd gan aelodau'r undebau
llafur drwy bleidleisiau ar streicio a chynnal gweithredu diwydiannol. 2. Yn
credu bod Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y Deyrnas
Unedig yn ymosodiad ar undebau llafur a hawl sylfaenol gweithwyr i streicio. 3. Yn
gresynu at y diffyg ymgysylltu llwyr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y
ddeddfwriaeth hon cyn ei chyflwyno ac yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru fel y
nodir yn ei Datganiad Ysgrifenedig a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. 4. Yn
cefnogi Llywodraeth Cymru, a’r holl undebau llafur a gweithwyr y sector
cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll y Bil. Datganiad Ysgrifenedig: Safbwynt Llywodraeth
Cymru ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Streiciau
(Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8210 Sian
Gwenllian (Arfon) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod ac yn parchu cryfder y teimladau a
ddangoswyd gan aelodau'r undebau llafur drwy bleidleisiau ar streicio a chynnal
gweithredu diwydiannol. 2. Yn credu bod Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth
Gofynnol) Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymosodiad ar undebau llafur a hawl
sylfaenol gweithwyr i streicio. 3. Yn gresynu at y diffyg ymgysylltu llwyr gan Lywodraeth
y Deyrnas Unedig ar y ddeddfwriaeth hon cyn ei chyflwyno ac yn nodi safbwynt
Llywodraeth Cymru fel y nodir yn ei Datganiad Ysgrifenedig a'r Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol. 4. Yn cefnogi Llywodraeth Cymru, a’r holl undebau llafur
a gweithwyr y sector cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll y Bil. Datganiad
Ysgrifenedig: Safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth
Gofynnol) Cydsyniad
Deddfwriaethol: Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Y Gymraeg NDM8212 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi Cymraeg
2050: Rhaglen Waith 2021 i 2026. 2. Yn mynegi pryder am
y ffaith bod Cyfrifiad 2021 wedi datgelu y bu gostyniad o dros 20,000 yn nifer
y bobl sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg. 3. Yn credu bod y
Gymraeg yn ased diwylliannol sy'n dod â llawer o fanteision i Gymru. 4. Yn cydnabod yr
amrywiaeth mewn hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg. 5. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i edrych i mewn i gyfleoedd i ehangu a hyrwyddo'r defnydd o'r
Gymraeg o ddydd i ddydd. Cymraeg
2050: Rhaglen Waith 2021 i 2026 Cyflwynwyd y gwelliant
a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley Griffiths
(Wrecsam) Ychwanegu pwyntiau
newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod
ffynonellau data eraill yn dangos bod nifer cynyddol o bobl yn gallu siarad
rhywfaint o Gymraeg a bod niferoedd cynyddol o blant yn mynychu addysg cyfrwng
Cymraeg. Yn croesawu: (a) bod pob awdurdod
lleol yng Nghymru wedi cyhoeddi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd
i gynyddu mynediad at gyfleoedd dysgu Cymraeg ar draws ysgolion o bob categori
iaith; (b) gwaith y Comisiwn
Cymunedau Cymraeg i gryfhau'r Gymraeg ar lefel gymunedol; a (c)
gwaith ein sefydliadau partner megis Mudiad Meithrin, y Ganolfan Dysgu Cymraeg
Genedlaethol, yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Mentrau Iaith, ac eraill,
i ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.20 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM8212 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi Cymraeg 2050:
Rhaglen Waith 2021 i 2026. 2. Yn mynegi pryder am y ffaith
bod Cyfrifiad 2021 wedi datgelu y bu gostyniad o dros 20,000 yn nifer y bobl
sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg. 3. Yn credu bod y Gymraeg yn
ased diwylliannol sy'n dod â llawer o fanteision i Gymru. 4. Yn cydnabod yr amrywiaeth
mewn hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i edrych i mewn i gyfleoedd i ehangu a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg o ddydd i
ddydd. Cymraeg
2050: Rhaglen Waith 2021 i 2026
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod bod ffynonellau data eraill yn dangos bod
nifer cynyddol o bobl yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg a bod niferoedd
cynyddol o blant yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg. Yn croesawu: (a) bod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyhoeddi
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd i gynyddu mynediad at gyfleoedd
dysgu Cymraeg ar draws ysgolion o bob categori iaith; (b) gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i gryfhau'r
Gymraeg ar lefel gymunedol; a (c) gwaith ein sefydliadau partner megis Mudiad Meithrin,
y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, y
Mentrau Iaith, ac eraill, i ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM8212 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi Cymraeg 2050:
Rhaglen Waith 2021 i 2026. 2. Yn mynegi pryder am y ffaith
bod Cyfrifiad 2021 wedi datgelu y bu gostyniad o dros 20,000 yn nifer y bobl
sy'n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg. 3. Yn credu bod y Gymraeg yn
ased diwylliannol sy'n dod â llawer o fanteision i Gymru. 4. Yn cydnabod yr amrywiaeth
mewn hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i edrych i mewn i gyfleoedd i ehangu a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg o ddydd i
ddydd. Cymraeg
2050: Rhaglen Waith 2021 i 2026 6. Yn cydnabod bod ffynonellau data eraill yn dangos bod
nifer cynyddol o bobl yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg a bod niferoedd
cynyddol o blant yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg. 7. Yn croesawu: (a) bod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyhoeddi Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd i gynyddu mynediad at gyfleoedd dysgu
Cymraeg ar draws ysgolion o bob categori iaith; (b) gwaith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i gryfhau'r
Gymraeg ar lefel gymunedol; a (c) gwaith ein sefydliadau partner megis Mudiad Meithrin,
y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, y
Mentrau Iaith, ac eraill, i ddarparu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch am 17.07 a
gohiriwyd y cyfarfod tan y cyfnod pleidleisio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.13 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM8211 John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd) Dydd
Gŵyl Dewi - hunaniaeth Gymreig yng Nghasnewydd Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.17 NDM8211 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Dydd
Gŵyl Dewi - hunaniaeth Gymreig yng Nghasnewydd |