NDM8210 Dadl Plaid Cymru - Cysylltiadau diwydiannol
NDM8210 Dadl Plaid Cymru - Cysylltiadau diwydiannol
NDM8210 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn mynegi
undod â gweithwyr y sector cyhoeddus ledled Cymru sy'n gweithredu'n
ddiwydiannol mewn ymateb i flynyddoedd o doriadau tymor real i'w cyflog.
2. Yn credu bod gallu
gweithwyr i fynd ar streic i wella eu cyflog ac amodau yn hawl ddemocrataidd
sylfaenol.
3. Yn credu bod Bil
Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y DU yn ymosodiad
uniongyrchol ar bobl sy'n gweithio a'r undebau llafur y maent yn trefnu o
fewn iddynt.
4. Yn gresynu at y
ffaith y byddai'r Bil yn rhoi pŵer gorfodol sylweddol i Lywodraeth y DU
gwtogi ar allu undebau llafur a gweithwyr i gymryd rhan mewn gweithredu
diwydiannol cyfreithlon.
5. Yn gresynu at y
ffaith bod y Bil hefyd yn gwrthdaro ag amcanion y Bil Partneriaeth Gymdeithasol
a Chaffael Cyhoeddus, yn enwedig ymrwymiad gwneud Cymru'n genedl gwaith teg.
6. Yn cefnogi pob
undeb llafur ac holl weithwyr y sector cyhoeddus yn eu hymdrechion i wrthsefyll
y Bil.
7. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i agor trafodaethau ynghylch datganoli cyfraith cyflogaeth er mwyn
sicrhau hawliau cyfunol a phwerau bargeinio gweithwyr yng Nghymru.
Bil Streiciau
(Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y DU (Saesneg yn
unig)
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Yn croesawu'r camau y
mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i ddiwygio'r fframwaith cyfreithiol sy'n
llywodraethu gweithredu diwydiannol i sicrhau bod lefelau gwasanaeth gofynnol
yn cael eu gosod mewn sectorau allweddol yn ystod cyfnodau o streic.
Os derbynnir gwelliant
1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Lesley
Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod ac yn
parchu cryfder y teimladau a ddangoswyd gan aelodau'r undebau llafur drwy
bleidleisiau ar streicio a chynnal gweithredu diwydiannol.
2. Yn credu bod Bil
Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn
ymosodiad ar undebau llafur a hawl sylfaenol gweithwyr i streicio.
3. Yn gresynu at y
diffyg ymgysylltu llwyr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y ddeddfwriaeth hon
cyn ei chyflwyno ac yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru fel y nodir yn ei
Datganiad Ysgrifenedig a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.
4. Yn cefnogi
Llywodraeth Cymru, a’r holl undebau llafur a gweithwyr y sector cyhoeddus yn eu
hymdrechion i wrthsefyll y Bil.
Datganiad
Ysgrifenedig: Safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth
Gofynnol)
Cydsyniad
Deddfwriaethol: Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf)
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/03/2023